Rhaglen gylchgrawn ar S4C - Nos Lun i Nos Wener am 7.00
Sut i anfon digwyddiad at y calendr
Anfonwch fideo 15-20 eiliad ohonoch chi yn hysbysebu'ch digwyddiad.
Dylai'r fideo gynnwys holl fanylion y digwyddiad gan gynnwys yr amser, y gost a'r lleoliad.
Cofiwch ffilmio'r fideo ar ffurf "landscape," nid "portrait."
Mae modd anfon y fideo at heno@tinopolis.com.
Fel arfer, bydd calendr ar Heno bob nos Lun a nos Wener. Ar gyfer calendr nos Lun, bydd angen y clip erbyn hanner dydd ar y dydd Gwener cynt. Ar gyfer calendr nos Wener, bydd angen y clip erbyn hanner dydd ar y dydd Iau cynt