Perfformiad hyfryd Mared Williams o'i chân 'Dolig Dan y Lloer' yn gosod naws yr Ŵyl ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Elidyr Glyn yn perfformio'i gân fyfyriol wrth ystyried 'Llwyddiant y Nadolig' ar Noson Lawen Nadolig 2020.
Cadi Gwen yn perfformio 'Nadolig am Ryw Hyd' ar Noson Lawen 'Dolig 2020 - cân hyfryd a gyfansoddodd ar y cyd gyda'i thad, Llion Jones.
Mared Williams, Gwilym Bowen Rhys a Steffan Lloyd Owen gyda pherfformiad pwerus o 'Rhwng Bethlehem a'r Groes' gan Barry Jones ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Hwyl gyda Carys Eleri wrth iddi ddathlu mewn steil ar lwyfan Noson Lawen gyda'i chân 'Swigod y Nadolig'.
Guto Meredydd yn perfformio cân newydd a gyfansoddwyd ar ei gyfer gan Meilyr Wyn - 'Helynt y Cerdyn Dolig' ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Steffan Lloyd Owen yn ein dwyn at y crud gyda'i berfformiad o 'O Sanctaidd Nos' ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Triawd Plygain (Gethin Griffiths, Elidyr Glyn a Gwilym Bowen Rhys) yn perfformio 'Teg Wawriodd' ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Digon o hwyl gydag aelodau Band Pres Llareggub wrth iddynt berfformio trefniant Gwyn Owen o 'Pwy Sy'n Dwad Dros y Bryn' ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Sain hyfryd a mentrus Band Pres Llareggub yn perfformio alaw 'Gwyl y Baban' (Caryl Parry Jones / Myfyr Isaac) ar Noson Lawen 'Dolig 2020.
Côr Ysgol Gynradd Aberaeron yn perfformio 'Un Llais' (Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain) ar Noson Lawen gydag artistiaid o ardal arfordir Ceredigion.
Cerdd dant gydag Ela Mablen Griffith Jones a'r delynores Nest Jenkins ar Noson Lawen - gosodiad Bethan Bryn o 'Cadw-mi-gei' (Tudur Dylan Jones) ar y gainc Pen Dinas (Elsbeth M Jones).
Dychwela Meilyr Sion i'w ardal enedigol yng Ngheredigion i berfformio'r gân 'Mr Cellophane' o'r sioe Chicago ar Noson Lawen.
Dychwela Sorela i'r Gorllewin i ganu 'Adar Aber' ar Noson Lawen - cân gan y dair chwaer am ardal eu magwraeth yn ardal Aberystwyth.
Doreen Lewis, un o garedigion y Noson Lawen a Brenhines Canu Gwlad yng Nghymru, yn perfformio 'Cae'r Blode Menyn'.
Cleif Harpwood yn perfformio 'Tyrd i Edrych' - un o ganeuon cynnar Edward H Dafis, gyda chymorth Pwyll ap Sion a Steffan Rhys Williams.
Elidyr Glyn ar Noson Lawen yn perfformio'r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2019.
Datganiad hyfryd o 'Ysbryd y Nos' gan Cleif Harpwood gyda chymorth Pwyll ap Sion a Sorela ar y Noson Lawen.
Hanesion doniol am fagwraeth y dair chwaer ym mherfformiad Sorela o 'Cân y Chwiorydd' ar Noson Lawen.
Y grŵp Mellt, sydd â'i aelodau'n wreiddiol o Aberystwyth, yn dychwelyd i'r Gorllewin i berfformio 'Planhigion Gwyllt' mewn Noson gydag amrywiol artistiaid o ardal arfordir Ceredigion.
Mei Gwynedd yn perfformio'r gân 'Tafla'r Dis' ar lwyfan Noson Lawen Tre'r Cofis.
Erin Fflur ac Emyr Lloyd Jones yn perfformio 'Beth Yw Bywyd' ar Noson Lawen, deuawd hyfryd gan Ann Eleri Richards a Delyth Haf Rees.
Elin Fflur yn perfformio un o'i chaneuon poblogaidd 'Cloriau Cudd' ar Noson Lawen.
Emyr Lloyd Jones yn canu 'Pwy sy' isho papur newydd' - cân draddodiadol addas iawn i Noson Lawen o Gaernarfon o gofio fod y dref yn cael ei hadnabod fel prifddinas yr inc yn yr 19fed ganrif oherwydd yr holl argraffdai a fyddai'n cynhyrchu papurau newydd a chylchgronau o bob math.
Mei Gwynedd ac Elin Fflur yn perfformio 'Cwm Ieuenctid' - cân a gyfansoddwyd gan Mei ar gyfer sesiwn radio i gofio am y cyfansoddwr a'r cerddor Alun Sbardun Huws.
Gwenno Fôn, talent ifanc newydd o Gaernarfon, yn canu ei chân wreiddiol 'Mehefin y Cyntaf' ar Noson Lawen gyda chyd artistiaid o Dre'r Cofis.
Côrnarfon yn canu cân gyda theitl addas iawn iddyn nhw - 'Caernarfon' gan Robat Arwyn a Meirion Mcintyre Huws.
Elfed Morgan Morris yn perfformio 'Y Galw' ar lwyfan y Noson Lawen - cân a gyfansoddodd ar y cyd gyda Lowri Watcyn Roberts.
Erin Fflur yn canu 'Seguidila' ar Noson Lawen - cân y spisi allan o'r opera Carmen gan George Bizet.
Iona ac Andy yn dychwelyd i Ddyffryn Nantlle i ganu 'Hafan' mewn Noson Lawen yn llawn ffrindiau a theulu.