Sianel deledu Gymraeg ydi S4C. Rydym yn darlledu'n fyw rhwng 6 y bore a hwyr y nos. Mae modd hefyd i chi wylio rhaglenni a fideos ar wahanol blatfformau digidol ar adegau i'ch siwtio chi.
Mae 'na amrywiaeth eang iawn o raglenni ar S4C gan gynnwys newyddion, drama, dogfen, cerddoriaeth, adloniant a rhaglenni plant. Mae'r deunydd sydd ar y we yn cynnwys gwasanaeth cynnwys byr arlein, wedi ei anelu yn bennaf at gynulleidfa 16-34 o'r enw Hansh.
Cwmnïau annibynnol sy'n cynhyrchu'r rhan fwyaf o'r rhaglenni. Mae'r BBC hefyd yn cynhyrchu tua 520 o oriau y flwyddyn ar gyfer y Sianel.
Mae modd i chi wylio nifer fawr o raglenni gydag is-deitlau Saesneg. Mae modd hefyd i chi ddewis trac sain Saesneg wrth wylio rhai o'n rhaglenni ni.
Fe ellwch chi wylio S4C ar draws y Deyrnas Unedig. Mae rhai rhaglenni hefyd ar gael ar draws y byd.