S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Sbeicio diodydd

Mae sbeicio diod yn golygu rhoi alcohol neu gyffuriau yn niod rhywun heb yn wybod iddynt neu heb ganiatâd, er mwyn eu hanalluogi mewn rhyw ffordd. Nid yn unig y mae hyn yn beryglus ac yn gwbl anghyfreithlon, yn aml iawn y bwriad yw ymosodiad rhywiol neu ladrata.

Am fanylion sut i ddiogelu eich hyn rhag hyn , neu lle i fynd os ydych yn credu fod hyn wedi digwydd i chi, ceir cefnogaeth a gwybodaeth pellach drwy'r mudiadau a dolenni yma.

  • Frank - sbeicio diodydd

    Cyngor ar sbeicio diodydd – sut i gadw'n ddiogel, beth i'w wneud os ydych chi'n meddwl ei fod wedi digwydd i chi – o wefan Talk to Frank.

    www.talktofrank.com

  • Drinkaware

    Gwefan i helpu feddwl am yfed yn ddoeth, a gyda chyngor ar bopeth o sut i gwtogi ar yfed i sut i osgoi sefyllfa lle mae risg y bydd eich diod yn cael ei sbeicio.

    www.drinkaware.co.uk

    Cyngor ar sbeicio

  • RASASC Gogledd Cymru

    Mae'r Canolfan Trais a Chamdriniaeth Rywiol yna i helpu'r sawl sydd wedi dioddef o gamdriniaeth o'r fath yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gwasanaeth ffôn cyfyngedig, ond gadewch neges ac fe gynigir cefnogaeth.

    0808 80 10 800

    www.rasawales.org.uk

  • New Pathways

    Mae New Pathways yn cynnig help, cefnogaeth a chwnsela i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol. Mae'n rhedeg un allan o'r ddau Ganolfan Cyfeirio Ymosodiad Rhywiol yng Nghymru, ac ar wahân i'r llinell gymorth sydd yn agored i bawb, maent yn cynnig cwnsela ar draws De Cymru.

    01685 379310

    www.newpathways.org.uk

  • DAN 247

    Cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglýn â chyffuriau ac alcohol, cyfreithlon neu anghyfreithlon. Gwasanaeth dwyieithog.

    Rhadffon: 0808 808 2234

    www.dan247.org.uk

  • Police.uk

    Gwybodaeth a cyngor dwyieithog o wefan swyddogol yr heddlu.

    www.police.uk

  • Crimestoppers

    Cysylltwch a'r llinell yma'n gyfrinachol am unrhyw droseddu yn eich ardal.

    0800 555 111

    crimestoppers-uk.org

  • Victim Support

    Mae'r elusen yma yn helpu pobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddu eraill, ac mae ganddynt dimau lleol i'ch helpu os mae hynny'n wir i chi.

    08 08 16 89 111

    www.victimsupport.org.uk

  • The Survivors Trust Cymru

    Rhwydwaith sy'n ceisio rhoi cefnogaeth a grym i'r sawl sydd wedi dioddef camdriniaeth neu drais rhywiol, drwy gynnig llais a help drwy gyfoedion.

    0808 801 0818

    www.survivorstrustcymru.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?