S4C
Dewisiadau

Cynnwys

  • Galwad am Syniadau Ffilmiau Dogfen Hansh

    Galwad am Syniadau Ffilmiau Dogfen Hansh

    Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am ffilmiau dogfen i'w cyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau straeon fydd yn ysbrydoli, rhyfeddu, codi gwen, ffilmiau mentrus sy'n defnyddio ffurf ddogfen gwbl gyfoes.

    Rydym yn awyddus i gael syniadau am straeon pobl ifanc eithriadol all fynd â gwylwyr mewn i fyd arall gyda naratif sy'n datblygu yn y foment; dogfennau gyda digon o hiwmor sydd cwestiynu a phrocio hunaniaethau Cymru; dogfennau sydd yn ceisio rhoi darlun bositif o amrywiaeth eang profiadau siaradwyr Cymraeg (neu siaradwyr ieithoedd eraill Cymru). Mae diddordeb mawr genym am storiau sydd wedi cael ei arwain gan fenwyod a phobl o gefndiroeth sy'n cael ei tan-gynrychioli.

  • Gwybodaeth bwysig - Newidiadau a diweddariadau i system cyflwyno cynnwys ar-lein S4C (PAC)

    Dydd Mercher 19/6 lawnsiwyd diweddariadau i feddalwedd system ar-lein PAC S4C - https://pac.s4c.cymru/ -

    Mae rhain yn cynnwys nifer o welliannau i brofiad y defnyddiwr a gwelliannau ymarferol fel y nodir isod

  • Defnydd personol o’r cyfryngau cymdeithasol

    Yn dilyn cyflwyno polisi cyfryngau cymdeithasol newydd ym mis Chwefror, rydym wedi cyhoeddi nodyn esboniadol sydd i'w weld yma. Amcan y nodyn yw i fanylu ymhellach ar safbwynt a disgwyliadau S4C o ran y defnydd personol o'r cyfryngau cymdeithasol gan y sawl sydd yn gweithio ar gynnwys S4C. Rydym hefyd yn gobeithio medru cynnal hyfforddiant drwy TAC yn y dyfodol agos.

  • Etholiad Cyffredinol - 4 Gorffennaf 2024

    Yn dilyn cyhoeddi Etholiad Cyffredinol, mae S4C wedi cyhoeddi canllawiau Canllawiau Rhaglenni Etholiad Cyffredinol 2024 ar ei safle cynhyrchu. Mae'r rhain yn esbonio'r rheolau sy'n berthnasol i gynnwys yn ystod y cyfnod rhwng nawr a'r Etholiad.

  • Y Gronfa Twf Masnachol

    Y Gronfa Twf Masnachol

    Cronfa fuddsoddi newydd yw Cronfa Twf Masnachol S4C sy'n cael ei sefydlu o fewn Braich Cyfryngau Digidol S4C. Bydd y Gronfa yn buddsoddi mewn busnesau sy'n cyd-fynd yn agos â nodau strategol hirdymor S4C ac sy'n gallu dangos y cyfle a'r potensial ar gyfer twf. Bydd y gronfa'n gweithredu fel catalydd ar gyfer y twf hwnnw ac yn chwarae rhan amlwg wrth harneisio potensial sylweddol y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

  • Y Gronfa Cynnwys Masnachol

    Y Gronfa Cynnwys Masnachol

    Mae'n gyfnod cyffrous i fod yn gweithio yn y sector creadigol yng Nghymru. Mae straeon lleol gwych, wedi'u hadrodd yn dda, yn mynd y tu hwnt i dir ac iaith er mwyn i gynulleidfaoedd byd-eang eu mwynhau.

    O lwyddiant Y Ferch Dawel yn y Wyddeleg i Dal Y Mellt gan S4C ar Netflix, mae'r tir wedi ei fraenaru ar gyfer cynnwys gwreiddiol nad yw yn Saesneg.

    Crëwyd y Gronfa Cynnwys Masnachol gan S4C Rhyngwladol i lwyr wireddu cyfleoedd masnachol newydd i gynnwys a chynhyrchwyr gwych S4C – yn rhyngwladol ac ar lwyfannau gwahanol.

    Pa bynnag faes creadigol rydych chi'n rhan ohono, hoffem glywed gennych chi i weld a allwn ni helpu i ddod o hyd i farchnad i'ch syniad.

  • Rhif EPG S4C ar Virgin Media yn newid

    Bydd rhif EPG S4C ar Virgin Media tu allan i Gymru yn newid o 166 i 164 ar 4 Gorffennaf 2023. Bydd S4C yn parhau ar 104 yng Nghymru.

    Gofynnwn i unrhyw gynhyrchwyr sy'n hyrwyddo rhifau sianel S4C mewn rhaglenni, er enghraifft rhaglenni chwaraeon, i adlewyrchu'r rhif newydd o 4 Gorffennaf ymlaen.

    Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.

  • S4C yn arwyddo’r ‘Coalition for Change’

    Mae S4C wedi ymuno â darlledwyr a chyrff eraill yn y diwydiant teledu i gefnogi'r Coalition for Change a'r Siarter Rhyddgyfranwyr, sy'n ymrwymo i wellla amodau gwaith rhyddgyfranwyr. Mae TAC eisoes wedi ymrwymo i'r Siarter ac rydym yn edrych ymlaen i gydweithio gyda TAC a'n cynhyrchwyr i wireddu'r ymrwymiadau.

    Gellir darllen y datganiad llawn a'r Siarter Rhyddgyfranwyr yma.

  • Canllawiau Castio S4C

    Rydym wedi bod yn adolygu Canllawiau Castio S4C yn ddiweddar mewn trafodaeth ag Equity. Lluniwyd y canllawiau i osgoi cael actorion yn ymddangos mewn rôl amlwg mewn mwy nag un gyfres ddrama oedd yn cael eu darlledu ar yr un pryd. Rydym wedi dod i'r casgliad nad oes angen y canllawiau mwyach, o ystyried arferion gwylwyr, ein strategaeth aml-blatfform (gan gynnwys bocs sets), y ffenest ar-alw o 150 diwrnod a'r newidiadau i batrymau ffilmio ein cyfresi sebon. Byddwn yn dileu'r Canllawiau Castio o Hafan Gynhyrchu S4C, ond bydd dal angen trafod a chytuno ar brif aelodau cast drama gyda Chomisiynydd S4C.

  • Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol

    Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol

    Mae S4C, TAC, Equity a nifer o ddarlledwyr a chyrff eraill yn y diwydiant wedi cefnogi Datganiad o Ymrwymiad yn erbyn bwlio, aflonyddwch ac ymddygiad amhriodol mewn teledu.

  • Chwilio am gyfleoedd castio?

    Am gymryd rhan neu serennu yng nghynnwys newydd S4C?

    • Cylchythyr Cynhyrchu

      Tanysgrifio i'r Cylchythyr Cynhyrchu.

    • Cyfleu Darllediadau Gwleidyddol, Etholiadau ac Ymgyrchoedd Refferendwm

      Cyfleu Darllediadau Gwleidyddol, Etholiadau ac Ymgyrchoedd Refferendwm

      Diweddariad

      Mae'r ddogfen yma wedi cael ei ddiweddaru. Gweler gopi o'r ddogfen ddiwygiedig yma yn ogystal ag ar dudalen y canllawiau at y safle yma.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?