Cydgynhyrchiad gyda Green Bay, UKTV, Off the Fence a Llywodraeth Cymru
Ar draws Ewrop, o Carcassonne i Gaerffili, o'r Rhine i'r Tafwys, mae campweithiau mewn carreg yn denu ymwelwyr wrth y miliwn. Ond sut y cafodd y campweithiau canoloesol yma eu adeiladu? Sut y trefnwyd peiriannau a dynion i greu amddiffynfeydd enfawr o'r fath? Mae Cestyll yn adrodd hanes y gwaed, chwys a gweledigaeth a greodd y caerau enfawr.
Mae Patagonia yn adrodd stori dwy fenyw ar daith; un yn chwilio am ei gorffennol, a'r llall yn chwilio am ei dyfodol. Mae'r ffilm yn cael ei thorri rhwng y ddwy stori lle mae un yn teithio o'r De i'r Gogledd yn ystod y gwanwyn yng Nghymru a'r llall trwy'r Dwyrain i'r Gorllewin yn ystod tymor yr hydref yn Yr Ariannin. Mae'r actorion yn cynnwys Nia Roberts, Duffy, Matthew Rhys a Matthew Gravelle.
Cyd-gynhyrchiad gyda GreenBay, Parthenon Entertainment a Chronfa ED Creadigol Cymru
Gobi, y Jwdea, y Thar, yr Atacama, yr Outback a'r Namib; rhai o anialdiroedd mwyaf syfrdanol y byd. Yn y gyfres hon mae chwech o wynebau cyfarwydd S4C yn mentro i'w canol. Wrth deithio drwy'r anialwch, cyfarfod y bobl a chanfod natur yr anialdir, byddant yn dod wyneb yn wyneb â'r her o fyw a bod yn nhiroedd mwyaf heriol y ddaear. Heddiw yn y rhaglen gyntaf, bydd Aled Samuel yn ymweld â'r Outback - diffeithwch crasboeth, lle mae'n rhaid i'r bobl addasu i ateb her eu cynefin. Bydd Aled yn teithio drwy'r llwch, y baw, a'r glaw (!) i gael cipolwg ar fywyd trigolion anialwch Awstralia - eu gobeithion, eu hofnau, a'r cyfeillgarwch sy'n bodoli yn eithafion yr anialdir.
Cyd-gynhyrchiad gyda Dinamo, Kavaleer Productions, Target Entertainment a Bwrdd Ffilmiau Iwerddon
Mewn cuddfan o dan ei wely, mae hoff lyfr bachgen bach o'r enw Ben. Nid llyfr cyffredin mo hwn, ond un sy'n gartref i'r Abadas: Hari'r hipo swil, Seren yr ystlum annwyl ac Ela'r llwynog llawen. Unwaith agorir y llyfr, daw'r tri'n fyw ac yna gall yr hwyl gychwyn. Dyma dri sydd wrth eu bodd yn chwerthin, chwilota a chwarae. A'u hoff gêm ? Gem orau'r byd : 'gem y geiriau' Ymunwch gyda'r Abadas anturus wrth iddyn nhw geisio asio gair gyda'r ddelwedd a chael amser "aba-dw-bi-dî" wrth wneud!
Mwy o anturiaethau yng nghwmni Sam Tân.
Cyd-gynhyrchiad gyda Cwmni Da, Western Front Films a Parthenon Entertainment
Yn y gyfres hon mae Ifor ap Glyn yn crwydro sawl gwlad gan edrych ar hanes y tŷ bach ddoe a heddiw gan gynnwys ymweld â thoiledau Rhufeinig yn Sbaen a thŷ bach 130 oed yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Westminster.
Cyfres ddrama dditectif gyda Richard Harrington, Mali Harries, Alex Harries a Hannah Daniel yn y prif rannau. Cynhyrchwyd gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gydgynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd. Gyda chefnogaeth Cynllun MEDIA yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru.
Cydgynhyrchiad gyda Tifini, Foxtel, ITV ac Off the Fence
Yn oriau mân 26 Hydref, 1859, ar gymal olaf ei thaith ddeufis o Melbourne i Lerpwl, fe ddrylliwyd y Royal Charter mewn storm anferthol oddi ar arfordir Ynys Môn. Boddwyd 497 o bobl ac ni wnaeth yr un fenyw na phlentyn oroesi. Ond nid cyrff yn unig a lyncwyd gan y dŵr, ond hefyd yr holl drysor o feysydd aur Awstralia a gludwyd yng nghrombil y llong ac ym mhocedi'r teithwyr - gwerth £80 miliwn. Mae llawer yn dal i orwedd o dan y tonnau o hyd. Yn y gyfres hon mae Gwenllian Jones Palmer, sydd ei hun wedi ymgartrefu yn Awstralia, ar drywydd aur coll y Royal Charter a'i phobl, yng nghwmni'r heliwr trysor, Vincent Thurkettle. Bydd eu hantur yn mynd â nhw o waelod y môr i ben arall y byd, lle byddan nhw'n twrio drwy'r archifau ac yn ymdrochi yn yr hanes gan dwrio am fanylion trychineb sy'n atseinio ar hyd yr oesoedd.
Cydgynhyrchiad gyda Pesky Productions, Bait Studio, Kavaleer Productions a Llywodraeth Cymru
Mae Boj yn fachgen hapus, 5 mlwydd oed sydd yn llawn creadigrwydd a hwyl blêr! Ers iddo symyd i Bentre Braf, mae Boj wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd. Mae pawb yn hoff o'i awch am fywyd a'i ysbryd anturiaethus. Mae Boj yn hoff o'i gymdogaeth newydd hefyd. Mae rhywbeth newydd i'w ddarganfod a phroblem i'w datrys o hyd sy'n defnyddio ei ffordd ben ei waered, tu chwithig allan o edrych ar y byd.
Cydgynhyrchiad gyda Green Bay, France TV a DRG
Three festivals of life across the globe explored by ultra runner Lowri Morgan
Ap archwilio natur rhithiol yw Gwylltio. Gall defnyddwyr archwilio un o bedair golygfa dymhorol o leoliadau trefol neu wledig, yna gallent darganfod ffeithiau diddorol a fideos am adar, anifeiliaid, pryfetach a phlanhigion Prydeinig.
Gêm antur arswyd ffugwyddonol person cyntaf yw Enaid Coll (Teitl Cymraeg) wedi ei leoli o fewn y Cwmwl Enaid. Hwn yw'r gêm gonsol PlayStation gyntaf ar gael i'w chwarae yn yr iaith Gymraeg.
Cyfres o bump llyfr stori ryngweithiol i blant ifanc yw Animoolz. Maent yn dilyn hynt a helynt pump anifail sy'n credu eu bod yn anifeiliaid llwyr wahanol.
Yn y fersiwn Gymraeg, sydd ar gael i lawrlwytho yn rhad ac am ddim, mae gwybodaeth am y lleoliadau a gynhwysir yn y gyfres deledu Gymraeg ar gael i ddefnyddwyr ar eu ffonau clyfar.
Mae'r buddsoddiad yma yn fformat i'r llwyfan digidol sy'n eistedd tu ôl i'r prosiect teledu. Mae fframwaith y wefan yn galluogi darlledwyr i redeg yr un math o brosiect/datblygu yr un math o ffilm mewn unrhyw diriogaeth.
I gyd fynd â rhaglen ddogfen o'r un enw a oedd yn dathlu canmlwyddiant y nofel, fe gyhoeddwyd e-lyfr a oedd yn cynnwys deunydd ychwanegol o'r rhaglen deledu.
Mae Children of Dôn (teitl gweithredol) yn gêm MMO (Massive Multiplayer Online) fydd yn galluogi unigolion i deithio i fyd y Mabinogi i adeiladu pentrefi, hyfforddi derwyddon a brwydro gelynion. Mi fydd y gêm ar gael i chwarae yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda'r fersiwn yn ryngwladol yn cynnwys elfennau o'r Gymraeg.
I gyd fynd â'r gyfres deledu rydym wedi comisiynu cyfres o Aps sydd wedi eu cynllunio yn arbennig ar gyfer cynulleidfa sydd ag anghenion arbennig. Bydd pob un Ap yn ateb gofyn penodol wedi trafodaeth â'r gynulleidfa darged.
Mae'r Visor yn brosiect gwirioneddol aml gyfrwng. Gan ddechrau gyda animeiddiad deg munud fydd ar gael i wylio ar S4C ac YouTube, mi fydd y gynulleidfa yn mynd ar daith rithiol dros gyfnod o fis lle bydd y stori yn datblygu ar ffurf comics rhyngweithiol ac elfennau digidol ychwanegol.
Llwyfan ar gyfer darparu Aps i ddigwyddiadau yw MobiGuide. Mae'r llwyfan yn caniatau creu amserlenni, cynnig mapiau, manylion teithio a gwylio cynnwys fideo. Mae'r cwmni eisoes wedi darparu Aps llwyddianus ar gyfer yr URDD a'r Sioe Frenhinol a wedi derbyn eu comisiwn masnachol cyntaf gan wyl WOMEX.
Gêm consol ac ar-lein fydd yn galluogi pobl ifanc i gynllunio a chreu bwystfilod anhygoel mewn labordy cyn eu brwydro yn erbyn bwystfil sydd wedi ei greu gan eu ffrindiau neu'r cyfrifiadur.
Ap rhyngweithiol fydd yn adrodd hanes Cymru yn America drwy gyfuno elfennau sain, fideo, testun a graffeg.
Ap arloesol sydd yn galluogi defnyddwyr Facebook i wylio holl wasanaethau S4C Clic o fewn y rhwydwaith cymdeithasol.
Dwy gêm HOPA (Hidden Object Puzzle Adventure). Posau gweledol a meddyliol ar ffurf naratif yn seiliedig ar nofelau hanesyddol. Ar gyfer y fersiynau Cymraeg mae naratif newydd Cymraeg yn cael ei ddatblygu.
Mae Canolfan Bedwyr yn creu lexicon Cymraeg a fydd yn medru cael ei integreiddio i feddalwedd adnabod lleferydd ar setiau deledu clyfar.