Er mwyn osgoi siom mae angen i chi anfon eich cyfarchion pen-blwydd o leiaf PEDAIR o flaen llaw am gyfle i ymddangos ar y rhaglen. Gallwch anfon trwy wefan Cyw yma, neu trwy ebostio llun, cyfarchiad a dyddiad geni at cyw@s4c.cymru
Mae'r telerau ac amodau yma yn cadarnhau'r termau ynglŷn â chaniatáu cynnwys y llun ar wasanaeth Cyw ("Y Deunydd").
1. Rydych chi'n rhoi i Boom Cymru neu unrhyw berson a awdurdodwyd gan
Boom Cymru, drwydded an-ecsgliwsif am byth i recordio, gwneud copi, golygu, atgynhyrchu, a darlledu holl, neu ran o'r Deunydd ar gyfer cynhyrchu, hyrwyddo, ymelwa'n fyd eang am byth.
2. Rydych yn yn gwarantu ac yn cadarnhau eich bod yn rhydd a heb gyfyngiad
i allu ymrwymo i'r telerau hyn ac i roi'r holl hawliau y cyfeiriwyd atynt ym mhwynt 1, a thrwy ymarfer yr hawliau yma ni fydd (a) yn tremasu ar unrhyw hawlfraint, neu unrhyw hawliau personol neu eiddo sy'n perthyn i unrhyw berson arall neu yn dor gytundeb
neu dorri rheolau, (b) rhoi hawl i berson arall hawlio taliad gan Boom Cymru neu (c) unrhyw berson sydd yn ymddangos yn y Deunydd sydd wedi rhoi ei ganiatâd er mwyn galluogi Boom Cymru i ymelwa mewn unrhyw fodd neu unrhyw gyfrwng yn fyd eang ac yng nghyfnod
cyflawn yr hawlfraint.
3. Rydych yn indemnio'r Cwmni yn erbyn pob achos, cyfreitha, cost, iawndal,
colled a hawliad (gan gynnwys heb gyfyngiad, costau cyfreithiol ac unrhyw gostau a dalwyd o dderbyn cyngor Cwnsel) a allai godi yn sgil y ffaith eich bod wedi torri neu fethu a chadw at y gwarantiadau neu'r ymrwymiadau a gynhwysir yn y ffurflen hon.
4. Rydych yn cytuno y bydd y wybodaeth a roddir ar y ffurflen hon yn
cael ei rannu a'i gadw gan S4C a Boom Cymru. Am ragor o wybodaeth cyfeiriwch at polisi preifatrwydd Boom Cymru a Pholisi preifatrwydd S4C
5. Rheolir y Termau ac Amodau hyn gan gyfraith Cymru a Lloegr ac fe'i
dehonglir yn unol â'r gyfraith honno.
Rydym yn annog yn arbennig gyfarchion gan y rhai sy'n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl, plant o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).