Camwch i mewn i Shwshaswyn, ble mae Seren, Fflwff a'r Capten yn gwahodd plant i ddianc o brysurdeb eu byd - drwy arafu, llonyddu a thawelu.
Cyflwynir ymarferion yn y gyfres sydd yn rhan o dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) i blant. Mae Fflwff yn ei hannog i anadlu, y Capten i wrando, tra mae Seren yn defnyddio jar ofalgar.