S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Nuggets

Seriously, dydi offal DDIM yn awful, ac ma'r recipe yma'n ffordd dda o ddod i arfer 'efo coginio fo!

I gychwyn, dw i am wneud aioli syml trwy ddefnyddio dau felyn ŵy, pinsiad o halen a phowdwr mwstard. Yn araf, rhowch olew olewydd 'medium' i mewn cyn torri'r garlleg yn fras a'i ychwanegu i'r gymysgedd. Gorffen y cwbl efo dail mint a sudd lemon.

Mae'n rili bwysig socian y cig mewn dŵr poeth a halen cyn dechra'. Neith y 'membrane' sydd o gwmpas nhw ddod ffwrdd heb drafferth. 'Glands' o wddw'r oen ydi'r rhain – mae o'n swnio'n afiach, ond mae o'n gig rhad ac mor flasus. Mae offal yn well na'r cig ei hun weithia'.

Ar gyfer y nuggets yma, dw i am wneud blawd devilled efo cic go iawn!Cychwyn 'efo blawd plaen a digon o bupur cayenne, powdwr mwstard a halen a'i gymysgu'n iawn. Unwaith mae o wedi ei gymysgu yn dda, dw i'n rhoi coating da i'r sweetbreads a rhoi 'shake' bach iddyn nhw.

Cynhesu bach o olew ar y tân - dw i'n defnyddio groundnut oil sydd efo smoking point uchel – yna ar y badell efo'r sweetbreads. Unwaith maen nhw ar, gadewch y blawd fynd yn crispicrispi. Neith tua munud ar bob ochr y job. Rhowch y sweetbreads ar kitchen roll i draenio unrhyw olew dros ben cyn ffrio'r darnausy'n weddill.

Rhowch ar blât efo potyn o'r aioli a phinsiad o halen. Sweetbreads next-level efo cic bach!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?