Gwybodaeth Gyffredinol am y Sianel
Mae S4C mewn sefyllfa unigryw gan mai dyma'r unig sianel deledu sy'n ymroddedig i wasanaethu Cymru. Mae wedi tyfu i fod yn gyfrwng hysbysebu o bwys ar gyfer targedu poblogaeth Cymru.
Mae S4C yn darlledu ar bob llwyfan digidol, ac mae'r cynnwys yn gyfan gwbl yn yr iaith Gymraeg, gyda'r rhan fwyaf o raglenni ar gael gydag isdeitlau Saesneg, a sain ddisgrifio ac arwyddo ar gael ar amryw o raglenni. Mae S4C yn darlledu ar bob llwyfan digidol ledled Cymru ac ar Sky, Freesat a Virgin ledled y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae S4C ar gael ar fotwm 4 a 104 HD ar Freeview, 104 ar Sky a Freesat, 104 ar Virgin ac yng ngweddill y DU mae ar gael ar Sky134, Freesat 120 a Virgin 164. Mae hefyd ar gael ar-lein gyda gwelifo byw, ac mae nifer o raglenni ar gael ar-alw drwy S4C Clic, BBC iPlayer a platformau eraill.
Mae S4C yn darlledu ystod eang o raglenni, o operâu sebon a dramâu i raglenni newyddion, materion cyfoes, adloniant ysgafn a rhaglenni ffordd o fyw yn ogystal â rhaglenni chwaraeon byw ac unigryw.
Mae hysbysebu ar S4C yn cynnig ymgyrchoedd cost-effeithiol sy'n rhoi gwerth arbennig am arian drwy gyrraedd nifer sylweddol o boblogaeth Cymru.