S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rhyngwladol

Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif.

Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau.

Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma.

Am Dro!

Pedwar cystadleuydd sy'n mynd â ni ar eu hoff deithiau cerdded lleol, gan frwydro i ennill mil o bunnau!

Cylchlythyr

  • Ble rydych chi'n byw?

Ar gael nawr

Mae mwy o raglenni S4C nag erioed o'r blaen ar gael i wylwyr ar draws y byd.

Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.

  • Sigldigwt

    Sigldigwt

    Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â Shani y poni ac Annie a'i chŵn defaid.

  • Deian a Loli

    Deian a Loli

    Cyfres newydd am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Er gwaetha ymdrech Mam i drio cael yr efeilliaid i beidio bod mor wastraffus gyda'r trydan, ma'r ddau'n gyndyn o wrando. Ond wrth fwynhau, mae popeth yn diffodd a chaiff y ddau eu cludo i fyd newydd trydannol, ac os ydyn nhw'n euog o wastraffu trydan, does neb fel y cymeriad ma' nhw ar fin ei chyfarfod!

  • Bendibwmbwls

    Bendibwmbwls

    Mae Ben Dant ar antur newydd i ailgylchu, a throi sbwriel yn sbeshal, a gwastraff yn gampwaith. Heddiw bydd e'n ymuno á disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Garth Olwg, Pontypridd i greu trysor penigamp

  • Ffasiwn Drefn

    Ffasiwn Drefn

    Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'n trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Marred Jones o Fangor sy'n cael ei drawsnewid.

  • Cacamwnci

    Cacamwnci

    Mae Cacamwnci yn ôl gyda mwy o sgetsys dwl a doniol! Cymeriadau newydd sbon fel Iestyn Ymestyn, Tesni Trwsio Popeth, Dani Rheolaeth, a rhai o'r ffefrynnau fel Plismon Preis, Vanessa drws nesa a Delyth Dylwythen. Byddwch yn barod am lond bol o chwerthin!

  • Dal Dy Ddannedd

    Dal Dy Ddannedd

    Timau o Ysgol Ynys Wen sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwya o ddannedd glân ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw a'r criw yn dysgu sut i fforio am fwyd, Ysgol Canol y Cymoedd yn ymarfer tuag at eu diwrnod mabolgampau a Meleri ac Owen yn chwilio am ffosiliaid deinasor.

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    None

  • Kim a Cêt a Twrch

    Kim a Cêt a Twrch

    Ymunwch â Kim a Cêt ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am Twrch yn y goedwig.

  • Curadur

    Curadur

    Tumi Williams AKA Skunkadelic o'r band Afrocluster yw curadur y bennod hon. Gyda gwesteion yn cynnwys DJ Trishna Jaikara ac Adjua yn ogystal â pherfformiad gan Afrocluster, dyma olwg ar un o artistiaid mwyaf talentog a gweithgar Cymru wrth iddo gychwyn ei daith yn yr iaith Gymraeg.

  • Priodas Pum Mil

    Priodas Pum Mil

    Abbey a Danial o Bwllheli yw'r pâr hyfryd sy'n cael priodas am bum mil o bunnoedd tro 'ma! Yn lwcus iddyn nhw, mae ganddyn' nhw lond trol o deulu a ffrinidau sydd am wneud yn siwr eu bod nhw'n cael y diwrnod gorau un!

  • Hen Dy Newydd

    Hen Dy Newydd

    Y tro hwn, mae ein 3 dylunydd creadigol - Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o drawsnewid 3 gofod mewn ty teras traddodiadol yn y Barri. Nid oes gan y cwpl unrhyw syniad o'r dyluniadau ac mae gan y dylunwyr gyllidebau gwahanol i weithio ohonynt - felly pwy a ¿yr beth fydd y canlyniad' A fydd ein tîm gweddnewid yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn bad newydd'

  • Ne-wff-ion

    Ne-wff-ion

    Mae olion deinosor mwya'r byd wedi cael ei ddarganfod ym Mhatagonia ac ar hyn o bryd yn cael ei arddangos yn Llundain. Elin a Marian sy'n adrodd yr hanes

  • Gwyliau Gartref

    Gwyliau Gartref

    Yn y gyfres newydd hon, byddwn ni'n mynd ar wyliau byr yng Nghymru. Dau griw ar ddwy gyllideb wahanol, ond sut hwyl gawn nhw arni' I bentref glan môr Llangrannog awn ni'r tro hwn, sydd â digon i'w gynnig ar y lan ac ar y môr.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Mae Bili Bach y broga'n edrych am gartref. Tybed all ei ffrindiau ei helpu'

  • Ein Byd Bach Ni

    Ein Byd Bach Ni

    Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.

  • Sion y Chef

    Sion y Chef

    Mae Sam a Siôn yn mynd am drip ar y Macrell Frithog i chwilio am gorgimychiaid ond mae'r pysgota'n mynd ar chwâl pan mae niwl yn gostwng dros yr harbwr.

  • Jen a Jim Pob Dim

    Jen a Jim Pob Dim

    Mae 'na rywbeth rhyfedd iawn wedi digwydd i'r ardd; mae dail y coed wedi colli eu lliw ac mae rhai o'r anifeiliaid wedi diflannu. I ble maen nhw wedi mynd' Mae'r holl beth yn ddirgelwch!

  • Anifeiliaid Bach y Byd

    Anifeiliaid Bach y Byd

    Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd. Anifeiliaid anwes yw'r thema y tro hwn a down i nabod y gath, y mochyn cwta a'r bochdew.

  • Shwshaswyn

    Shwshaswyn

    Os yw'r byd yn teimlo yn rhy brysur, dewch i Shwshaswyn i gael saib.

  • Jambori

    Jambori

    Croeso mawr i'r Jamborî! Ymunwch a Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - bydd cysgodion yn dawnsio, robotiaid yn chwarae a ffrwythau yn symud, hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Sali Mali

    Sali Mali

    Mae PRY BACH TEW'n benderfynol o ennill y gystadleuaeth Hetiau Pasg, hyd yn oed drwy dwyll, ond GWENI GWADDEN sy'n ennill, a hynny ar ddamwain, gyda phenwisg anafrerol iawn.

  • None

    Port Talbot - Diwedd y Dur?

    Mae gwaith dur Tata yn ymgynghori ar golli 2,400 o swyddi yn y gwaith dur ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Yn y rhaglen hon fe fyddwn ni yn dod i wybod mwy am y gymuned trwy lygaid dau aelod. Mae'r dref a'r ardal yn ddibynnol ar y gwaith dur am gyflogaeth, ac mewn rhyw fodd neu gilydd, mae pob un agwedd bron ar y gymuned â chysylltiad gyda'r gwaith dur. A oes yna obaith i'r gymuned ar ôl colli'r nifer hyn o swyddi'

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    O ble mae llaeth yn dod' Mae Hywel y ffermwr hudol yn dangos i Mari, Gwen ac i ni yn union sut mae llaeth yn cyrraedd bwrdd y gegin.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    O'r diwedd mae'r jwg newydd archebodd Trystan wedi cyrraedd ac mae o'n falch o gael ei dangos i Jason. Yn anffodus dydi ymateb Jason ddim yr hyn oedd Trystan yn ddisgwy! Yn dilyn sioc Sophie yn sylweddoli bod posibilrwydd ei bod yn disgwyl eto, does ganddi ddim dewis ond prynu prawf ond mae pethau'n mynd yn ddyrus pan fo Mair yn cael hyd i rhywbeth ym mag ei mam. Yn dilyn y sioc o glywed mai Ben yw tad Tammy, mae o'n dechrau rhoi ei gynllun ar waith o ddifri, ac oherwydd bod Tammy cymaint o'i of

  • Jen a Jim a'r Cywiadur

    Jen a Jim a'r Cywiadur

    Cyfres addysgiadol ar gyfer plant meithrin yng nghwmni Jen a Jim.

  • Llanw

    Llanw

    Mae bywyd rhai pobl yn cael ei reoli gan y llanw, a'u gwaith a'u bywydau yn dibynnu arno. O drigolion glannau'r Fenai i ffermwyr Connemara, o fodelau yn Tseina i jocis yn Iwerddon. Mae nhw i gyd mewn ras yn erbyn y llanw.

  • Adre

    Adre

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yng nghyfres 5 o 'Adre'.

  • Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Dechrau Canu Dechrau Canmol

    Ar Sul y Blodau bydd Nia Roberts yng Ngheredigion i gwrdd â Donald Morgan, arbenigwr ar flodau a'u harwyddocad yn nhymor y Pasg. A chawn fwynhau gwledd o ganu mawl o addoldai ledled Cymru.

  • Heno

    Heno

    Elan Williams fydd yn rhannu ei stori wrth i ni nodi Mis Codi Ymwybyddiaeth o Cerebral Palsy a Hana Medi sy'n clywed am her Rhydian Mason.

  • Dreigiau Cadi

    Dreigiau Cadi

    Ar ôl 30 mlynedd yn gweithio yn y Caffi, mae Crugwen yn ymddeol ac mae Cadi a'r dreigiau'n trefnu parti syrpreis iddi, ond pan nad yw hi'n cyrraedd y gwaith mae angen iddyn nhw fynd i chwilio amdani.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Hwiangerdd draddodiadol i suo plant bach i gysgu.

  • Pawb a'i Farn

    Pawb a'i Farn

    Sion Jenkins fydd yn llywio trafodaeth Pawb a'i Farn o neuadd Pontyberem yng Nghwm Gwendraeth. Ymysg y pynciau sy'n cael eu trafod fydd prinder meddygon teulu, yr angen i fynd a'r afael a thlodi plant, a sut mae dirywiad y diwydiant amaeth yn peryglu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

  • Pobol y Penwythnos

    Pobol y Penwythnos

    Hywel, Eleri a Geraint sy'n rhannu profiadau eu penwythnos perffaith. Boed waith neu bleser dyma ddiwrnod ym mywyd tri sy'n byw am ddihangfa'r penwythnos.

  • Pigo Dy Drwyn

    Pigo Dy Drwyn

    Ymunwch â Gareth a Cadi ynghanol y cyffro wrth i'r tîm pinc a'r tîm melyn o Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las chwarae gemau snotlyd a swnllydi i ennill Y Tlws Trwynol !

  • Awr Fawr

    Awr Fawr

    Rhaglenni ar gyfer y plant iau ar ôl ysgol.

  • Prynhawn Da

    Prynhawn Da

    Huw fydd yn y gornel ffasiwn heddiw a cawn fwynhau sesiwn ffitrwydd.

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Mor Ladron o Ysgol Ifor Hael sy'n wynebu heriau Capten Cnec yn Ahoi heddiw.

  • Blociau Rhif

    Blociau Rhif

    Hwyl a sbri i blant ifanc gyda'r blociau rhif.

  • Dathlu 'Da Dona

    Dathlu 'Da Dona

    Ymunwch â Dona Direidi wrth iddi gynnal parti pen-blwydd llawn gemau, hwyl, dawnsio a chanu.

  • Cyw

    Cyw

    Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.

  • Cefn Gwlad

    Cefn Gwlad

    Hanes Siôn Williams, o'r Foel, Dyffryn Banw yn wreiddiol, sydd nawr yn Rheolwr Fferm ar stad Buccleuch, yn yr Alban, yn ffarmio 18,000 o erwau mewn ffordd sy'n agoriad llygaid go iawn.

  • Bwystfil

    Bwystfil

    Mae coedwig law yn goedwig boeth, drwchus lle mae'n bwrw LOT o law...mwy nag unrhyw le arall yn y byd. Fel mae'n digwydd, mae hanner anifeiliaid y byd yn byw yma a byddwn yn cwrdd a 10 ohonynt heddiw.

  • Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Dewi a'r Ditectifs Gwyllt

    Yn y bennod hon, mae'r ditectifs yn cael galwad i'r traeth lle mae'r heddlu yn amau bod na bobl yn hel cocos. Mae hyn yn anghyfreithlon ac yn beryglus. Mae'r Ditectif Eryl Lloyd o Heddlu Gogledd Cymru yn ymuno a nhw gydag offer camerau infrared a chefnogaeth hofrenydd yr heddlu. Mae'r ditectifs yn falch o'r gefnogaeth gan bod y llanw yn newid ac mae'n rhaid iddynt weithio ar frys.

  • Y 'Sgubor Flodau

    Y 'Sgubor Flodau

    Yn y bennod olaf o'r gyfres bydd y tîm yn creu trefniant i ddathlu 20 mlynedd o elusen Prostate Cymru.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn yr ail raglen cawn weld pa fath o fwydydd mae Colleen a'u theulu yn mwynhau ar y penwythnos.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Sh! Mae'r haul yn mynd i'w wely ac mae'n amser i ni gael stori fach cyn cysgu. Heddiw cawn stori Plwmp a Deryn yn mynd i wersylla.

  • Halibalw

    Halibalw

    Ymunwch â chriw Halibalw am raglen llawn hwyl, chwerthin, canu a dawnsio.

  • Sgorio

    Sgorio

    Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Rhaglen llawn amrywiaeth yn cynnwys rownd derfynol Cwpan Her yr Alban, rownd gynderfynol Cwpan Cymru JD a'r gêm ail gyfle rhwng Cymru a'r Ffindir.

  • Boom!

    Boom!

    Y gyfres wyddoniaeth ffrwydrol sy'n gwneud yr arbrofion sy'n rhy beryglus i'w gwneud adre'. Yn y bennod yma bydd y brodyr Bidder yn dangos pam na allwn wastad ymddiried yn ein llygaid a bydd Dr Peri yn creu past dannedd eliffant.

  • Siwrne Ni

    Siwrne Ni

    Cyfres newydd, llawn hwyl a fydd yn dilyn plant a'u teuluoedd wrth iddyn nhw deithio mewn car gyda'i gilydd ar siwrnai arbennig. Y tro 'ma, mae Gwen a'i theulu ar y ffordd i Gaerfyrddin i gwrdd gyda'i chyfnither a'i babi newydd Tomi, sydd wedi teithio draw yr holl ffordd o Awstralia.

  • Am Dro

    Am Dro

    Heddiw fydd Arfon yn mynd a'r criw am dro i Llandre. Yna taith o Gei Newydd i Gwmtydu gyda Morwenna cyn ei throi hi am Llanrug dan arweiniad Osian. Beth fydd yn diweddu yn Henllan. Dewch i ni fynd Am Dro.

  • Cymoedd Roy Noble

    Cymoedd Roy Noble

    In the second series, Roy Noble visits more South Wales Valleys including the Neath, Gwendraeth, Swansea and Loughor Valleys.

  • Y Diwrnod Mawr

    Y Diwrnod Mawr

    Pedwaredd gyfres y rhaglen sy'n dangos plant yn mwynhau diwrnod mawr yn eu bywydau.

  • Amser Maith Maith Yn Ôl

    Amser Maith Maith Yn Ôl

    Stori am Tomi a Gwen sy'n byw adeg Y Rhyfel Byd Cyntaf sydd gan Tadcu i Ceti heddiw. Mae mam Gwen a Tomi yn trefnu picnic fel syrpreis i'r ddau. Mae angen paratoi digon o fwyd ac mae pawb yn gobeithio am dywydd braf.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Cyfres o straeon bach cyn cysgu. Heddiw, Hannah Daniel sy'n darllen Llew a'i Wisg Ffansi.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Cyfres i blant meithrin am gath fath fywiog sy'n hoffi cerbydau o bob math.

  • Y Ditectif

    Y Ditectif

    Mali Harries sy'n dilyn ôl troed ditectifs Cymru ac yn dysgu am rai o achosion troseddol mwyaf arswydus Cymru.

  • None

    Barry John: Cofio'r Brenin

    Dyma raglen deyrnged i gofio am un o fawrion y byd rygbi yng Nghymru fu farw yn ddiweddar - Barry John. Bydd teulu a chyfeillion yn hel atgofion am ei fywyd a'i dalent aruthrol. Rhaglen deimladwy ac emosiynol am un o eiconau Cymru ac un o'r chwaraewyr rygbi gorau welodd Cymru erioed, wrth ddathlu ei fywyd a'i gyfraniad aruthrol.

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Mae pencampwyr Cymru, Y Seintiau Newydd yn gobeithio sicrhau eu trydydd tlws y tymor hwn gan anelu i fod y tîm cyntaf erioed o du allan Yr Alban i ennill Cwpan Her yr Alban. Bydd eu gwrthwynebwyr, Airdrieonians o Bencampwriaeth Yr Alban yn awyddus i godi'r cwpan am yr eildro. C/G 16.15.

  • Y Fets

    Y Fets

    Y tro yma ar Y Fets ¿ Mae yna gwn bach a fets ifanc yn dechrau ar eu taith. Mae angen ychydig o waith deintydda ar Oreo y gwningen ac mae Hannah yn brwydro i achub Cymro y ci defaid. Beth fydd eu hanes yn y Fets'

  • Penblwyddi Cyw

    Penblwyddi Cyw

    Os wyt ti'n dathlu dy ben-blwydd, dyma gyfle i ti weld dy lun ar Cyw.

  • Ffasiwn Drefn

    Ffasiwn Drefn

    Yn y gyfres hon bydd y cyflwynydd Lara Catrin a'r trefnydd proffesiynol Gwenan Rosser yn rhoi trefn ar gypyrddau dillad a llofftydd ar hyd a lled Cymru. 'Lle i bopeth a phopeth yn ei le' yw'r nod. Yr wythnos hon cwpwrdd dillad Alys Mererid o Gaerdydd sy'n cael ei drawsnewid.

  • Taith Bywyd

    Taith Bywyd

    Owain Williams fydd yn mynd a'r cyn aelod seneddol, Sian James ar daith bywyd. Byddwn yn clywed hanes Streic y Glowyr pan ddarganfyddodd Sian ei llais, a sud deimlad oedd cael ei stori wedi ei adrodd yn y film lwyddiannus, Pride.

  • None

    Cowbois Tecsas

    Wil ac Aeron sy'n teithio draw i Tecsas ¿ er mwyn gwireddu breuddwyd oes o gael bod yn gowbois!

  • Cefn Gwlad

    Cefn Gwlad

    Fel teyrnged i'r diweddar Iolo Trefri, dyma gyfle arall i weld Mari Lovgreen yn dathlu bywyd un o gymeriadau chwedlonol Ynys Môn - na, nid y digrifwr Tudur Owen ond ei dad, sydd wedi treulio oes yn arloesi ac arbrofi. Nid pob ffarmwr sydd wedi creu brîd newydd o ddafad, mentro i fyd adloniant, sefydlu bwyty enwog a zoo nid anenwog, ac wedyn yn 90 oed penderfynu adfer ty tafarn!

  • Heno Aur

    Heno Aur

    Cyfres gydag Angharad Mair a Siân Thomas yn dathlu 30 mlynedd o raglen Heno. Eisteddwch nôl i chwerthin a rhyfeddu ar rai o straeon mawr ddiwedd y 90au. Yn rhaglen ola'r gyfres, bandiau 'Cool' y cyfnod, Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghymru, dathlu'r mileniwm a sgwrs gyda'r cyflwynydd Aled Jones.

  • Codi Hwyl America

    Codi Hwyl America

    Ym mhennod ola'r gyfres wrth i Dilwyn a John ddirwyn tuag at ddiwedd eu taith, maent yn ymweld â Wales yn nhalaith Wisconsin. O faneri'r ddraig goch i enwau strydoedd, maent yn rhyfeddu at yr holl arwyddion adawodd y sefydlwyr o Gymru ym mhob man. Caiff Dilwyn ei urddo i frawdoliaeth enwog beicwyr Harley Davidson yn nhref Milwaukee gerllaw, tra bod John yn darganfod mai Cymry o Fôn, ac nid Almaenwyr ddechreuodd fragu yn y ddinas enwog a gaiff ei galw'n brifddinas fragu'r byd. Daw'n amser wedyn i

  • Y Gêm

    Y Gêm

    Y tro hwn, mae Owain Tudur Jones yn siarad gyda'r chwaraewr dartiau, Jonny Clayton.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â beudy sydd wedi ei drawsnewid yn gartref trawiadol yng Ngogledd Ceredigion, tŷ newydd sbon sy'n gartref perffaith i'r teulu yn y Gwyr, a thŷ teras braf yn ardal Pontcanna o Gaerdydd.

  • Y Byd ar Bedwar

    Y Byd ar Bedwar

    Mae'r cynllun i anfon ceiswyr lloches i Rwanda wedi wynebu heriau moesol a chyfreithiol, ac yn dal i wneud. Ond pam Rwanda' Ydy hi'n ddiogel' A beth mae'r ddêl hon yn golygu i un o wledydd lleiaf datblygedig y byd' Siôn Jenkins sy'n teithio yno gyda Chymro o Abertawe sydd â gwreiddiau dwfn yn y wlad.

  • Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Dim Byd i'w Wisgo - Cyfres 2

    Eurof sydd yn y stiwdio steilio heddiw. Cyn brifathro, sy'n caru popeth rygbi ac sy'n byw mewn shorts a dillad chwaraeon. Mae'n ysu cael trio steil newydd a ffeindio gwisg fydd yn addas ar gyfer mynd a'i wraig Diane allan am bryd o fwyd sbesial.

  • Teulu Ni

    Teulu Ni

    Cawn ein tywys ni drwy'r digwyddiadau mawr a bach sy'n digwydd mewn teuluoedd o amgylch Cymru.

  • Dysgu Gyda Cyw

    Dysgu Gyda Cyw

    Rhaglenni addysgiadol ar gyfer y plant lleiaf.

  • Bethesda: Pobol y Chwarel

    Bethesda: Pobol y Chwarel

    Cyfres newydd sy'n mynd â ni i ganol cymuned chwarelyddol Bethesda - cymuned glos Gymreig. Yn yr ail raglen byddwn yn dod i nabod Dilys Margaret Pritchard sy'n byw ym Methesda ar hyd ei hoes ac sy'n caru'r lle hwn sy'n gynefin iddi. Byddwn yn mynd i'r chwarel i gwrdd â Neil Roberts sy'n gweithio yno ers pymtheg mlynedd ar hugain. Mae Neil yn chwarelwr ac yn aelod o'r band Celt. Byddwn yn mynd nôl at Nicola i gael canlyniadau ei mamogram blynyddol ac yn ei gweld yn sgwrsio efo Dilys am fywyd

  • Chris a'r Afal Mawr

    Chris a'r Afal Mawr

    O fannau enwog i berlau cudd, bydd y cogyddion tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts a Tomos Parry yn coginio a chiniawa o amgylch Efrog Newydd¿ a thanio angerdd gwladgarol gyda gwledd Gymreig arbennig yn Brooklyn!

  • Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Amser Maith yn ôl - Oes y Tywysogion

    Heddiw yn 'Amser Maith Maith yn ôl' mae rhywun yn Llys Llywelyn yn sâl. Mae Grwygyn y gwas yn ei wely ac mae pawb yn ceisio meddwl am ffyrdd i'w wella. Mae Siwan a Llywelyn yn bryderus iawn, rhag i Dafydd bach cael ei heintio. Ond, mae Dafydd bach yn ddrygionus ac yn creu digon o helynt! Heddiw yn 'Amser Maith Maith yn ôl' mae Grwygyn y gwas yn ei sâl yn ei wely. Mae Siwan a Llywelyn yn bryderus iawn, rhag i Dafydd bach cael ei heintio.

  • Itopia - Cyfres 2

    Itopia - Cyfres 2

    Drama sci-fi llawn dirgelwch.

  • Dathlu!

    Dathlu!

    Cyfres newydd, llawn hwyl a fydd yn dilyn plant a'u teuluoedd wrth iddyn nhw ddathlu dathliad arbennig gyda'i gilydd. Y tro 'ma, Faris a'u deulu, sy'n dangos i ni sut mae nhw'n hoffi dathlu Ramadan.

  • Stryd i'r Sgrym

    Stryd i'r Sgrym

    Penllanw'r gyfres yw'r gêm T1 arbennig rhwng Cymru a Lloegr wrth i dîm Stryd i'r Sgrym wynebu Streatham-Croydon RFC yng nghlwb Cymry Llundain ¿ a hynny ar fore gêm fawr y Chwe Gwlad rhwng Lloegr a Chymru. A yw'r tri mis o hyfforddiant wedi talu ar ei ganfed'

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Fe fydd Elin yn sgwrsio â'r chwaraewr rygbi rhyngwladol a'r sylwebydd, Nathan Brew. O flaen tanllwyth o dân a thafliad carreg o goedwig Penllergaer, cawn hanes ei fagwraeth ym Mrynaman, ei yrfa ar y cae rygbi, a magu 5 o blant! Dyma sgwrs fydd yn cnesu'r galon ar noson hydrefol oer.

  • Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Y tro hwn, awn i Baris. Dinas llawn cariad. Dinas llawn diwylliant. Dinas llawn bwyd. Mae'n daith chwedlonol sy'n enwog am y gwrthdaro rhwng Cymru a'r Les Bleus nerthol. Ond dyw'r bois ddim yma am y rygbi - ma' nhw am flasu'r bwydydd arbennig gall y ddinas hon, sy mor enwog am y bwyd, ei gynnig. Pizzas gyda'r enwog Yves Camdeborde, madarch yn tyfu mewn hen maes parcio, seidr a parti pizza wrth gwrs. Ooh la la!

  • Ser Steilio

    Ser Steilio

    Ymunwch a Mirain Iwerydd a Iwan Steffan i weld pwy sydd wedi dod i'r brig a ennill eu lle yn y ffeinal fawreddog. Bydd y 3 sydd a'r marciau uchaf ar draws y gyfres yn mynd ben i ben mewn rhaglen llawn hwyl, egni a lliw i greu gwisg ar gyfer yr artist drag Catrin Feelings.

  • Ar Werth

    Ar Werth

    Dilynwn rai o werthwyr tai amlycaf Cymru gan brofi'r holl emosiwn a'r ddrama sy'n dod gyda rhoi ty ar werth.

  • Gwesty Aduniad

    Gwesty Aduniad

    Ym mhennod ola emosiynol y gyfres mae y Gwesty yn helpu Myra Williams, 91 oed, i ddod o hyd i fedd ei brawd bach, sydd ar goll ar ochr arall y byd, ers dros 70 mlynedd. Mae yna aduniad i Ian Thomas, sydd wedi bod yn chwilio am ei chwaer ers dros 10 mlynedd.

  • Fferm Fach

    Fferm Fach

    Mae Guto eisiau gwybod o ble mae mefus yn dod. Felly, mae Hywel, y ffermwr hud, yn mynd ag ef i Fferm Fach er mwyn dangos hud ffermio go iawn iddo.

  • Bwyd Epic Chris

    Bwyd Epic Chris

    Risét o drydedd cyfres Bwyd Epic Chris - Sando Stêc Chris.

  • Ty Am Ddim

    Ty Am Ddim

    I Abertawe awn am y rhaglen olaf i dy smart llawn potensial arbwys parc Cwmdoncyn. Mae'n na gryn dipyn o waith i'w wneud a'r ddau sy'n adnewyddu yn weddol dibrofiad. Oes elw i'w wneud os mae'r ddau yn gaddo'r gwaith i adeiladwyr'

  • Prosiect Z

    Prosiect Z

    A fydd y 5 disgybl dewr yn dianc neu'n cael eu troi yn Zeds' Heddiw mae'r Zeds wedi cyrraedd Ysgol Bodedern.

  • None

    Can i Gymru 2024

    Darllediad byw o Arena Abertawe, gyda 8 cân newydd yn brwydro am dlws Cân i Gymru a £5,000! Perfformiadau byw gan HMS Morris, Bronwen Lewis a Mared Williams.

  • Oli Wyn

    Oli Wyn

    Mae'n ddiwrnod prysur yn Noc Penfro heddiw. Mae Kim a chriw'r dociau angen help craen mawr i godi a symud pethau.

  • Gwrach y Rhibyn

    Gwrach y Rhibyn

    Mae'r awr olaf wedi cyrraedd. A fydd y pedwar tîm yn llwyddo i gyrraedd lloches ddiogel a dianc rhag Gwrach y Rhibyn' Mae'n ras yn erbyn amser i ysgolion Bro Myrddin, Brynrefail, Eifionydd a Tryfan ac mae yna sawl rhwystr arall o'u blaenau.

  • Jambori

    Jambori

    Helo, shw' mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i gyfres newydd o Jamborî. Ymunwch â Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - gyda hwyaid yn dawnsio yn y bath, drws hudol yn y parc a chath yn coginio cacen. Hyn a lot mwy ar Jamborî!

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Ar Sgwrs dan y Lloer heno fe fydd Elin yn sgwrsio tan yr oriau mân hefo'r soprano, Rhian Lois.

  • Caru Canu a Stori

    Caru Canu a Stori

    Stori am ddau gi bach direidus, sydd wrth eu bodd yn gwisgo esgidiau, sydd gan Cari i ni heddiw.

  • None

    Can i Gymru: Dathlu'r 50

    Roedd Cân i Gymru yn dathlu 50 yn 2019. Mewn rhaglen ddogfen arbennig byddwn yn edrych yn ôl dros hanner can mlynedd o'r gystadleuaeth, ac yn dathlu ei chyfraniad i gerddoriaeth a theledu yng Nghymru dros y blynyddoedd. Byddwn yn darganfod sut ddaeth y gystadleuaeth eiconig yma i fodolaeth, a chawn gyfraniadau gan rai o wynebau mwya' adnabyddus Cân i Gymru dros y blynyddoedd, wrth iddyn nhw rannu atgofion a hanesion am y tro cyntaf.

  • Nos Da Cyw

    Nos Da Cyw

    Sh! Mae'r haul yn mynd i'w wely ac mae'n amser i ni gael stori fach cyn cysgu. Heddiw cawn stori am fwnci ar goll.

  • None

    Cyngerdd Heddwch Berlin

    Ailddarllediad i nodi penblwydd Karl Jenkins yn 80. Ar Dachwedd 11, 2018, i goffau canmlwyddiant ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf bu cantorion o bedwar ban byd yn uno ar gyfer telediad o berfformiad yr Offeren Heddwch gan Syr Karl Jenkins yn Arena Mercedes Benz, Berlin. Gyda'r cyfansoddwr ei hun yn arwain, bydd côr unedig o leisiau o 27 gwlad yn dod ynghyd mewn dinas sy'n symbol o heddwch, undod, rhyddid a goddefgarwch. Ymhlith y gwledydd fydd Awstria, Israel, Awstralia, Rwsia, Seland Newydd, Yny

  • Adeiladu'r Freuddwyd: Camp Out West

    Adeiladu'r Freuddwyd: Camp Out West

    Ni'n dilyn siwrnai gwr a gwraig, Jon ac Emilie a'u ci, Maggie, wrth i nhw adeiladu'r freuddwyd yng ngorllewin Cymru.

  • Adre

    Adre

    Nia Parry sy'n cael y pleser o fusnesa yn nhai rhai o enwogion Cymru yn y gyfres 'Adre'. Mae bob 'Adre' yn wahanol a'r cartref yn aml iawn yn adlewyrchu'r cymeriad sy'n byw yno. Yr wythnos hon byddwn yn ymweld â chartref yr ymladdwr cymysg proffesiynol, Brett Johns.

  • Ahoi!

    Ahoi!

    Mae'r môr-ladron Ben Dant a Cadi wedi glanio ar Ynys Bendibelliawn, ond mae'r hen gapten drewllyd Capten Cnec wedi glanio yno'n barod ac wedi cipio'r ynys. A fydd y criw o forladron bach o Ysgol Rhydaman yn llwyddo i helpu Ben Dant a Cadi i drechu Capten Cnec a chipio'r ynys yn ôl'

  • None

    Albi a Noa yn Achub yr Iwnifyrs

    Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl

  • None

    Aled Jones a Ser y Nadolig

    Dathlwch hud y Nadolig gydag Aled Jones a'i ffrindiau, gyda pherfformiadau gan Aled ei hun, Al Lewis, Lily Beau, a Carly Paoli. Mae No Good Boyo yn dod â'u tro arferol ar rai o ffefrynnau'r ¿yl, mae Glain Rhys wrth y piano, ac mae Siwan Henderson a Steffan Rhys Hughes yn dod â chyffyrddiad o hud y West End i bethau. Hefyd yn cynnwys Y Cledrau, Brigyn, a Band Pres Tongwynlais, gyda diweddglo i'w gofio gan Aled a chôr arbennig iawn.

  • None

    Alex Humphreys: Epilepsi a Fi

    Mae Alex Humphreys yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd Y Tywydd, Yr Wythnos a Heno. Dim ond y bobl sydd agosaf at Alex sy'n gwybod bod ganddi epilepsi. Mae Alex yn cyfaddef nad yw hi'n gwybod llawer am y cyflwr ond mae hi wedi cyrraedd pwynt ble mae hi eisiau gwybod mwy. Yn ystod y rhaglen hon fe fydd Alex yn cyfarfod ag arbenigwyr meddygol, hanesydd, a nifer o bobl sydd yn byw gyda'r cyflwr, gyda'r nod o godi mwy o ymwybyddiaeth.

  • Ar Dâp - cyfres 2

    Ar Dâp - cyfres 2

    Y tro hwn, y band Adwaith sy'n rhannu eu cerddoriaeth gyda ni.

  • Awyr Iach

    Awyr Iach

    Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw yn ymuno â Chlwb Achub Bywyd Llanilltud Fawr, gawn ni gwrdd â Hollie a Heidi a'u ffrindiau pigog, a bydd Meleri a Ieuan yn chwilio am pob math o adar yn Llanelli

  • None

    BWMP

    Drama gomedi, sy'n canolbwyntio ar prif gymeriad Daisy (Jenna Preece), newyddiadurwraig ifanc anabl sy'n gwneud ei ffordd drwy'r heriau a'r anfanteision o weithio o fewn i ddiwydiant 'ableist¿

  • Bariau

    Bariau

    Rhagflas o Bariau - Pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Ionawr 3.

  • Be Di'r Ateb

    Be Di'r Ateb

    Yn y bennod hon, mae Jade yn cwrdd â Lora, sydd eisiau gofyn i'w chariad, Richard, symud i mewn gyda hi, i'w chartref newydd. Ond, Be di'r ateb'

  • Bex - Cyfres 2

    Bex - Cyfres 2

    **MAE'R RHAGLEN HON YN CYNNWYS GOLYGFEYDD ALL BERI GOFID I RAI GWYLWYR** Ar ôl derbyn diagnosis o glefyd y siwgr, ydy Ollie'n gallu dod dros ei ofn o nodwyddau, a dysgu byw gyda'i gyflwr'

  • Bois y Rhondda

    Bois y Rhondda

    Yn dilyn y rhaglen ddogfen ddiweddar Bois y Rhondda, bydd y gyfres hon yn dilyn anturiaethau nesa'r criw ifanc o Gwm Rhondda wrth iddyn nhw addasu i'r byd newydd sydd ohoni, a wynebu heriau nesa' bywyd. Mewn cyfres gynnes llawn hiwmor a dagrau, byddwn yn cael cip ar gymhlethdodau'r gymdeithas fodern, a'r brwydrau mae cenhedlaeth iau yn eu hwynebu pan nad oes llawer o gyfleoedd yn yr ardal mae nhw wedi'u magu ynddi.

  • None

    Bry: Mewn Cyfyng-gyngor - 1

    Mae Bry bellach yn gweithio i'r Cyngor fel Swyddog Gwastraff, ond mae problemau ar y gorwel. Odi glei, mae Bry: Mewn Cyfyng Gyngor.

  • None

    Bry:Mewn Cyfyng Gyngor - 2

    Ma' Bry nôl! A ma fe dal Mewn Cyfyng Gyngor. Dyw bywyd byth yn hawdd, yn enwedig i Swyddog Gwastraff gyda babi newydd. Ar ben hyn rhaid i Bry drefnu angladd, ac yn waeth fyth... priodas. Wrth gwrs, dyw pethe byth yn mynd yn iawn ....

  • Bwrdd i Dri

    Bwrdd i Dri

    Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.

  • None

    Bwyd Byd Epic Chris

    Yn y bennod arbennig hon, mae Chris yn cydweithio gyda chymuned rhyngwladol Cymru i greu ryseitiau anarferol tanbaid. O'r Caribî i Ynysoedd y Philipinau, Syria a Japan - bydd cogyddion talentog o bedwar ban byd yn helpu Chris i weini'r bwyd i'r Cofis yn ei farchnad Nadoligaidd yng Nghaernarfon!

  • None

    Byw gyda MS

    Ar Drych: Byw gyda MS fe fyddwn ni'n dilyn siwrne'r cyflwynydd Dafydd Wyn wrth iddo ddygymod â'r newyddion a'r deiagnosis sydd wedi newid ei fywyd am byth.

  • Cais Quinnell

    Cais Quinnell

    Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n mynd i bysgota, Sglefrio Iâ ac yn cael gwers Bîtbocsio

  • None

    Carol yr Wyl 2023

    10 carol mewn 10 lleoliad arbennig. Pa ysgol fydd yn ennill teitl Carol yr ¿yl 2023' Mared Williams ac Elidyr Glyn sy'n beirniadu'r gystadleuaeth boblogaidd yma i ysgrifennu carolau gwreiddiol ar gyfer plant ysgolion cynradd.

  • Caru Canu

    Caru Canu

    Dyn Eira Mae'r gaeaf yn gallu bod yn gyfnod hudolus, yn enwedig pan fydd eira a chyfle i adeiladu dyn eira.

  • Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Ceffylau, Sheikhs a Chowbois

    Mae Sue ac Emrys wedi teithio i Scottsdale, Arizona ar antur siopa i brynu Ceffylau i rai o'u cleientiaid cyfoethog o fewn Sioe mwyaf ceffylau Arabaidd yn y byd.

  • Celwyddgi

    Celwyddgi

    Pedwar o bobl, pedwar datganiad, ond mae rhywun yn dweud celwydd. I rannu'r wobr o £500 mae'n rhaid darganfod y celwyddgi neu a fydd yr un sy'n gallu palu celwydd yn gadael gyda'r arian i gyd'

  • Chwarter Call

    Chwarter Call

    Ymunwch â Cadi, Luke, Jed a Miriam yn y gyfres gomedi Chwarter Call. Digonedd o hwyl a chwerthin gyda teulu'r Anhygoels, Mic Moc a chriw Steddfod Sili.

  • None

    Cofio Clive Rowlands

    Rhaglen deyrnged i gofio'r chwaraewr a'r hyfforddwr rygbi diweddar, Clive Rowlands.

  • None

    Cofio Llewod '71

    Ailddarllediad arbennig yn dilyn marwolaeth Barry John yn ddiweddar. Hanner canrif ers i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd am yr unig dro erioed, mae arwyr rygbi Cymru - gan gynnwys Barry John mewn cyfweliad prin yn y Gymraeg - yn cofio'r daith eiconig, a sut drechwyd Y Crysau Duon gan un o'r timau gorau erioed.

  • Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd

    Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn y gyfres yma mae'n edrych ar sut mae bwyd yn medru ail-ddeffro hen atgofion. Yma mae Colleen yn creu ryseitiau i greu atgofion newydd i'r teulu.

  • None

    Cranogwen gyda Ffion Hague

    Yr hanesydd a'r ddarlledwraig Ffion Hague sy'n olrhain stori yr arwres arloesol Cranogwen, wrth i gerflun arbennig ohoni gael ei ddadorchuddio yn Llangrannog.

  • Curadur - Cyfres 2

    Curadur - Cyfres 2

    Mae'r bennod olaf yn y gyfres yn mynd â ni i'r Dê-Ddwyrain i gwrdd â Lemfreck, y cerddor o Gasnewydd, wrth iddo ddilyn traddodiad y ddinas o chwyldro a cheisio dod a'r Gymraeg a sîn MOBO Cymru ynghyd. Perfformiadau gan Lemfreck, Mace the Great, Lily Beau, Luke RV a Dom & Lloyd.

  • Curadur - Cyfres 3

    Curadur - Cyfres 3

    Cate Le Bon sy'n curadu'r bennod arbennig hon - o Orllewin Cymru i anialwch Joshua Tree, California. Gyda Pys Melyn, Accu, Kris Jenkins, Samur Khouja, Devendra Banhart, Courtney Barnett a Stella Mozgawa.

  • Cymru, Dad a Fi

    Cymru, Dad a Fi

    Cyfres yn dilyn taith tad a mab, Wayne a Connagh Howard, o gwmpas rhai o ynysoedd Cymru. Yn rhaglen ola'r gyfres, bydd y ddau'n cael profiad 'ysbrydol' ym Machynys; taith wyllt draw i Ynys Echni, ac ymweliad ag ynys mwya' poblogaidd Cymru ¿ Ynys y Barri!

  • Cynefin - Cyfres 6

    Cynefin - Cyfres 6

    Nant Conwy - ardal gyfoethog o ran diwylliant a chyfoeth naturiol lle mae sawl cwm a phentre yn cyfuno i greu bro ddiddorol i'w darganfod gan y tim. Bydd Heledd yn cloddio, Ffion yn dysgu mwy am gysylltiadau'r fro gyda'r eisteddfod, Iestyn yn dilyn yr afon i'w tharddle a Sion yn crwydro i adrodd hanes un o bontydd enwog yr ardal.

  • Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023

    Cyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023

    Rhan o gyngherddau Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2023 - o Llwyfan y Maes - cyfle i fwynhau gwledd o gerddoriaeth gan y Candelas.

  • Cyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol 2022

    Cyngherddau'r Eisteddfod Genedlaethol 2022

    Lisa Gwilym yn cyflwyno Dafydd Iwan a'r band mewn noson fythgofiadwy o Lwyfan y Maes, Eisteddfod Ceredigion 2022.

  • None

    Cyw a'r Gerddorfa 2

    Sioe Nadolig gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a chast o gymeriadau a chyflwynwyr poblogaidd Cyw. Mae pawb ym Myd Cyw yn edrych ymlaen i ddathlu'r Nadolig! Maen nhw wrthi yn paratoi pan ddaw galwad gan Cyw i ddweud bod yna argyfwng! Tybed a ddaw Cyw adre ar gyfer y diwrnod mawr ac a oes digon o amser i Siôn Corn lenwi sled' Efallai gall Deian a Loli helpu'

  • Cywion Bach

    Cywion Bach

    'Buwch' yw gair heddiw ac mae Bîp Bîp, Pi Po, Bop a Bw yn dysgu'r gair tra'n paentio, chwarae, darllen llyfr a llawer mwy! Mŵ!

  • None

    DJ Terry

    Dyma stori Terry, myfyriwr o Flaenau Ffestiniog a'i freuddwyd i fod yn DJ radio. Er mwyn llwyddo bydd angen iddo wynebu ambell i sialens personol. Ar hyd y ffordd, mi wnawn gwrdd â'i deulu a'i ffrindiau a'i arwyr, megis y DJ Ifan Jones Evans. Dyma stori Terry yn ei eiriau ei hun - hanes gwr ifanc hynod, gyda anghenion addysg ychwanegol, sy'n benderfynol o wthio'r ffiniau ym mhob ffordd.

  • None

    DRYCH: Dyfodol i Dewi

    Mae 'Dyfodol i Dewi' yn dilyn brwydr foesol y comediwr Eleri Morgan am ddod â babi i fyd ansicr, oherwydd newid hinsawdd. Ar ôl addo peidio â chael plentyn ei hun, oherwydd ôl troed carbon enfawr babanod y Gorllewin; mae Eleri yn ffeindio ei hyn gyda beichiogrwydd sioc, a 6 mis i ddod o hyd i ffyrdd o gael babi mwy ecogyfeillgar, a rywfaint o bositifrwydd am y dyfodol. .

  • None

    DRYCH: Meddwl yn Wahanol

    Mae'r seiciatrydd Dr Olwen Payne yn gofyn os yw iaith a diwylliant yn llywio ein profiad o iechyd meddwl yng Nghymru. Taith bersonol a chraffus i ymchwilio'r nodweddion Cymreig unigryw a all fod yn ddylanwad ar salwch meddwl yn ein cymdeithas ni.

  • None

    DRYCH: Rygbi Byddar a Chwpan y Byd

    Am y tro cyntaf erioed, mae timau rygbi'r dynion a menywod yn cystadlu yn Mhencampwriaeth Rygbi Byddar y Byd yn yr Ariannin. Er iddynt wynebu heriau, ar ac oddi ar y cae, roedd Rygbi Byddar Cymru yn benderfynol o oresgyn yr anawsterau a dychwelyd adref fel Pencampwyr dwbwl Cwpan y Byd.

  • None

    DRYCH: Stori Alys

    Dawnsio yw popeth i Alys. Ond llynedd newidodd ei bywyd dros nos wrth iddi golli ei choes mewn damwain adref. Mewn dogfen emosiynol, dirdynnol ond yn llawn gobaith a dewrder, byddwn yn dilyn Alys ar ei siwrne i geisio dawnsio eto.

  • Dan Do

    Dan Do

    Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn yn ymweld â chartref teulu sydd â dylanwad Americanaidd yn Llanblethian.

  • None

    Dathlu Dewrder 2023

    Mae Dathlu Dewrder 'nôl ac eleni eto fe fyddwn ni'n anrhydeddu ein harwyr tawel yma yng Nghymru. Bydd Elin Fflur, Owain Tudur a Lloyd Lewis yn llywio'r cyfan o seremoni fawreddog yn Sir Gâr. Fe fydd y dagrau'n llifo a'r gwenu'n un, a'r cyfan wrth inni ddathlu dewrder ein harwyr arbennig.

  • None

    Deian a Loli a Chloch y Nadolig

    None

  • None

    Deian a Loli ac Ysbryd y Nadolig

    Pennod arbennig am yr efeilliaid direidus a'u pwerau hudol. Mae hi'n Noswyl Nadolig ac wrth gyfarfod â sowldiwr bach o'r enw Arwen mae Deian a Loli'n dysgu bod 'na argyfwng - mae Ysbryd y Nadolig wedi diflannu a heb hwnnw fydd y Nadolig wedi ei ganslo! Rhaid helpu Arwen ddod o hyd i Ysbryd y Nadolig reit sydyn cyn i'r Nadolig ddod i ben am byth!

  • Der' Dramor 'Da Fi!

    Der' Dramor 'Da Fi!

    Ma' pedwar person sydd erioed wedi cwrdd yn teithio dramor i'r Algarve. Pob un wedi trefnu eu diwrnod delfrydol nhw ar y gwyliau, o weithgaredd, i fwyd, hyd yn oed llety. Bydd pob dewis yn cael i'w sgorio, gyda'r enillydd yn cipio gwobr o £1000.

  • None

    Dylan a Titw i Ben Draw'r Byd

    Breuddwyd Dylan yw croesi draw i Ynys Enlli, er y rhwystrau corfforol sydd ganddo. Mae Titw ei ofalwr yn benderfynol o'i helpu i oresgyn y Dystonia sy'n caethiwo ei gorff er mwyn cyrraedd 'Pen Draw'r Byd.' Yn kick boxio a rhedeg marathons cyn hyn mae Dylan yn barod at yr her a'r boen. Ni wnaiff Titw ildio chwaith.

  • Efaciwîs

    Efaciwîs

    Ar ôl ymgartrefi yn Llanuwchlyn a gwneud ffrindiau da gyda'r plant lleol, mae'r rhyfel yn dod i ben ac mae'n bryd i'n wyth efaciwi fynd adre. Ond cyn hynny mae mabolgampau a pharti steil diwrnod VE i'w fwynhau.

  • None

    Ein Hail Lais

    Jess Davies, Gav Murphy, Lily Beau, a Nick Yeo sy'n trafod eu perthynas â siarad Cymraeg fel ail iaith.

  • Ein Llwybrau Celtaidd

    Ein Llwybrau Celtaidd

    Sir 5 ar y daith yw Sir Gâr, Sir Gaerfyrddin. Awn i Gaerfyrddin i fwynhau'r sîn roc Gymraeg yng Ng¿yl Canol Dre, i fwynhau seiclo yn ardal Llanelli, bro'r Scarlets, am drip i Dalacharn i flasu ysbryd Dylan Thomas ac am chips ar draeth Llansteffan. Gorffenwn yn y Mynydd Du, Drefach Felindre a Llandysul. Yna daw'r daith i ben yn sir enedigol Ryland, Ceredigion. Cawn fwynhau afonydd, traethau, pentrefi a threfin, trenau, rhaeadrau a promenâd!

  • FFIT Cymru 2023

    FFIT Cymru 2023

    Beth ydi canlyniad dilyn cynllun iach FFIT Cymru' Mae 6 mis wedi mynd heibio ers i ni weld trawsnewidiad diwethaf Kelly, Matthew, Andrea, Linette a Dylan. Mewn rhaglen arbennig ymunwch â'u ffrindiau, teuluoedd a Lisa Gwilym wrth i ni ddathlu moment fawr: canlyniad taith chwe mis colli pwysau yr arweinwyr, gyda chefnogaeth barhaol yr arbenigwyr.

  • None

    Fairbourne: Y Môr Wrth y Drws

    Fairbourne ym Meirionnydd fydd o bosib y pentref cyntaf ym Mhrydain i ddiflannu dan y dwr oherwydd newid hinsawdd. Dyma'r trigolion yn sôn am eu bro hardd a'u sefyllfa argyfyngus wrth iddynt wynebu lefel y môr yn codi.

  • Ffermio

    Ffermio

    Gyda nifer wedi dechrau wyna, Alun sy'n clywed beth yw'r prif broblemau yr adeg yma a sut i'w lleihau i wneud y cyfnod heriol yma yn fwy hwylus. Hefyd mi fyddwn yng Ngwobrau Lantra Cymru yn dathlu llwyddiannau unigolion ym maes amaethyddiaeth. Mae'r tywydd wedi bod yn destun trafod yn ddiweddar, a Megan Williams fydd yn darganfod sut fath o dywydd sydd ar y gorwel yn 2024; mi fyddwn hefyd yng nghynadledd CFFI Cymru sy'n rhoi cyfle i ffermwyr ifanc Cymru leisio ei barn ar ddyfodol y diwydiant.

  • None

    Ffyrnig

    Noson o gomedi LHDTC+ wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Eglwys Norwyaidd hanesyddol Bae Caerdydd, wedi ei chyflwyno gan Al Parr. Sêr y sioe yw rhai o ddigrifwyr gorau Cymru - Priya Hall, Ellis Lloyd Jones, Leila Navabi, Chris Rio, a Sianny Thomas. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys perfformiad arbennig gan Gymuned Ddawnsfa Gymreig.

  • None

    Fi, Rhyw ac Anabledd

    Cyfle arall i weld enillydd un o Wobrau Broadcast 2023. Mae Rhys Bowler yn torri'r tabw o siarad am ryw ac anabledd. Mae'n dechrau perthynas pellter hir newydd cyffrous, a jyglo cymhlethdodau ei gyflwr dirywiol Duchenne Muscular Dystrophy. Ac yn cwestiynu, oes 'na fwy i fywyd na jyst rhyw' Bydd Rhys yn ffeindio gwir gariad yn y diwedd'

  • Gareth!

    Gareth!

    Gareth yr Orangutan sy'n cyflwyno Gareth!, ei raglen deledu hir-ddisgwyliedig ble mae Gareth, ynghyd a'i fand, HMS Morris yn cyfarfod ac yn sgwrsio gyda rhai o wynebau amlycaf Cymru. Yn y rhaglen hon bydd Gareth yn cyfweld y gantores ac awdur, Non Parry ynghyd a'r actor a digrifwr, Iwan John.

  • Goro' Neud

    Goro' Neud

    None

  • Grid

    Grid

    Y Dylunydd Rhi Dancey sy'n trafod yr heriau i sicrhau byd ffasiwn cynaliadwy.

  • Grid - Cyfres 2

    Grid - Cyfres 2

    Cipolwg i fywyd Solwen, merch 17 oed a'i ffrindiau sy'n byw 'off-grid' mewn cymuned yn Sir Gâr.

  • Hansh

    Hansh

    I ddathlu mis Hanes LHDT+ mae Miriam Isaac, Leo Drayton a Dan Huw Bowen yn mynd ar daith o amgylch Cymru i ymweld â lleoliadau nodedig yn hanes cwiar Cymru.

  • Hansh ar yr Hewl

    Hansh ar yr Hewl

    Garmon ab Ion sy'n arwain y gynulleidfa trwy gyfres o heriau sy'n seiliedig ar fformatau gemau sydd wedi eu gweld yn flaenorol ar fideos Hansh. Yn gymysgedd o wynebau cyfarwydd y sianel ac aelodau o'r gynulleidfa, bydd Garmon yn ceisio ateb y cwestiwn bytholwyrdd "Pwy sy'n well: Gogs neu Hwntws'" Bydd y cystadleuwyr yn mynd benben yn erbyn wynebau cyfarwydd y sianel mewn heriau poblogaidd e.e 'Cwis Trydanol', 'Be Sy' Yn Y Bocs' a 'Dwi erioed wedi'.

  • Heno Aur

    Heno Aur

    Rhaglen arbennig Nadolig o 'Heno Aur' gydag Angharad Mair a Siân Thomas. Eisteddwch nôl i chwerthin a rhyfeddu ar rai o straeon Nadolig y nawdegau cynnar.

  • Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Cipolwg gonest ac agored o'r sin rygbi hoyw yng Nghymru.

  • Iaith ar Daith

    Iaith ar Daith

    Yn y rhaglen olaf o'r gyfres Iaith ar Daith y comedïwyr a'r actorion Jayde Adams a Geraint Rhys Edwards sy'n teithio ar draws Cymru gyda'r nôd o ysgogi a helpu Jayde i ddysgu Cymraeg. Fe fydd Jayde yn gwynebu cyfres o sialensau ieithyddol ac fe fydd Geraint wrth ei hochor ar hyd y ffordd. Ac fe fydd digon o gaws i gyd-fynd gydag ambell jôc gawslyd falle' Ond- a fydd y Gymraeg yn llifo neu'n brifo'

  • It's My Shout

    It's My Shout

    Mae Aled heb wneud dim yn ystod yr haf. Yr unig beth sydd ar ei feddwl yw Mir. Wrth bendroni amdani, mae'n dychmygu ei bod yn gwneud pob math o bethau gwallgof hebddo!

  • None

    Lleisiau Eraill: Aberteifi 2023

    Huw Stephens yn cyflwyno uchafbwyntiau g¿yl Lleisiau Eraill Aberteifi 2023 gyda pherfformiadau arbennig gan Adwaith, Cerys Hafana, The Joy Formidable, Sans Soucis a Colm Mac Com Iomaire ymysg eraill.

  • Lwp ar Dap

    Lwp ar Dap

    None

  • Misho

    Misho

    Cyfres sydd yn edrych ar pob math o sefyllfaoedd all godi pryder i blentyn bach; a dyma gyfle i dawelu meddyliau bach drwy ganu, sgwrsio a lot fawr o chwerthin! Y teimlad o fod yn nerfus sydd dan sylw yn Misho heddiw, ac mae Ola Ola yn ei gwneud hi'n anodd iawn i blentyn bach fynychu diwrnod y Mabolgampau.

  • Nos Da Cyw 'Dolig

    Nos Da Cyw 'Dolig

    Stori fach Nadoligaidd cyn cysgu. Mali Harries sy'n darllen stori hudolus am benbleth Siôn Corn ar noswyl Nadolig, ond pwy ddaw i'w helpu tybed'

  • Nôl i'r Gwersyll

    Nôl i'r Gwersyll

    Bydd y criw yn aros ym mloc Penhelyg am eu penwythnos yn yr 80au. Pa weithgareddau fydd wedi'u drefnu i'r gwersyllwyr brwd' Pa lys fydd fwyaf cystadleuol, a beth fydd eu hoff bryd bwyd o'r cyfnod'

  • Odo

    Odo

    Cartwn hyfryd am gwdih¿ bach o'r enw Odo a'i ffrindiau yn y goedwig.

  • Pa Fath o Bobl ... 2021

    Pa Fath o Bobl ... 2021

    Miliwn o siaradwyr Cymraeg: dyma nôd ieithyddol Llywodraeth Cymru erbyn 2050. Ydi'r strategaeth yn debygol o lwyddo neu oes mwy o obaith i weledigaeth Garmon o Gwffio, Caru a Canu' O frwydr ymladd MMA i sesiwn ffotograffiaeth a gig, mae Garmon yn benderfynol o adael ei farc.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Paid Ti Meiddio Chwerthin

    Cyfres newydd gyda Molly Palmer yn rhoi pedwar cystadleuydd o dan bwysau i beidio chwerthin! Yr wythnos hon mi fydd Dom James, Mared Parry, Mali Haf a Geraint Rhys Edwards yn cymryd rhan.

  • Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Paid Ti Meiddio Chwerthin - Cyfres 2

    Ni gyd 'di bod 'na, y teimlad o ishe chwerthin pan chi ddim i fod. Ie, mae Molly yn ei hôl! Y tro yma, mae Gwion Ifan yn trio cracio myfyrwyr Prifysgol De Cymru!

  • Pen Petrol - Cyfres 2

    Pen Petrol - Cyfres 2

    Be sy'n mynd mlaen mewn un o'r 'car meets' drwg-enwog sy'n denu miloedd ar filoedd o bobl ifanc ar draws Prydain bob wythnos' Dyna mae criw ceir Unit Thirteen isio ffeindio allan yn y bennod olaf o'r gyfres, cyn neidio o un eithaf i'r llall a theithio ar draws y môr Gwyddelig at LZ Festival i weld ffordd llawer gwell - a saffach - o fwynhau ceir.

  • None

    Pluen Eira

    Mae'r Nadolig yn amser cyffrous i bawb ond bydd yr wyl eleni yn un arbennig iawn i Clive a Rhi. Dyma eu Nadolig cyntaf gyda'u mab newydd Frank sy'n un ar ddeg mlwydd oed!

  • Pobol y Rhondda

    Pobol y Rhondda

    Ail gyfres o'r rhaglen sy'n cyflwyno'r Rhondda a'i phobl yng nghwmni un o fois yr ardal, Siôn Tomos Owen.

  • Pren ar y Bryn

    Pren ar y Bryn

    Mae trefn yn cael ei adfer gyda Clive yn ôl yn saff yn y gorlan - ond am ba mor hir' A wnaiff Margaret a Sylvia gytuno i helpu Clive rhoi claddedigaeth ddilys i Glyn fel yr addawodd e' Ac os y gwnânt, yna sut' A oes rhywun arall maent yn trysto i gamu i'r adwy'

  • None

    Queens Cwm Rag

    Mae Queens 'Cwm Rag' wedi gadael Llundain ac ar eu ffordd adref i Gymru ar ôl penderfynu dringo'r Wyddfa¿..mewn 'heels'!

  • Richard Holt: Yr Academi Felys

    Richard Holt: Yr Academi Felys

    Mae'r ddau bobydd yn mynd ben-ben i greu a gweini cacennau rhithiol yn ystafell de enwog Richard.

  • Rownd a Rownd-Cyfres 2023

    Rownd a Rownd-Cyfres 2023

    Diwrnod priodas Rhys a Trystan, ac yn dilyn yr helynt efo Chloe, mae pawb yn gweithio'n galed i wneud yr achlysur mor gofiadwy â phosib i'r ddau. A heb dim cynllunio, mae'n edrych fel bod yn ddiwrnod cofiadwy iawn i Dani. Tra mae pawb yn edrych ymlaen at y dathlu, edrych ymlaen at gael mynd i gasglu efan o'r clinic y mae Ioan; mi fydd yn gyfle i'r ddau gwblhau'r trefniadau ar gyfer rhedeg i ffwrdd, ond i hynny weithio, mae'n bwysig cadw'r gyfrinach rhag eu tad. Mae yna dristwch wrth i Mali adael

  • Rygbi Indigo Prem

    Rygbi Indigo Prem

    Gêm rygbi fyw Indigo Prem rhwng Casnewydd a Llanymddyfri. Stadiwm Casnewydd.

  • Rygbi Pawb Byw

    Rygbi Pawb Byw

    Gem dyngedfennol rhwng y Gweilch a'r Scarlets ym Mhencampwriaeth Rhanbarthol Dan 18 Cymru.

  • Rygbi Pawb Stwnsh

    Rygbi Pawb Stwnsh

    Cyfres sy'n canolbwyntio ar rygbi ieuenctid yng Nghymru.

  • Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Cyfres sy'n canolbwyntio ar rygbi ieuenctid yng Nghymru.

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Gêm ail-gyfle Gr¿p A Uwch Gynghrair Cymru rhwng Caerdydd ac Abertawe. Campws Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. C/G 19.45.

  • Sgwrs Dan y Lloer

    Sgwrs Dan y Lloer

    Mae Elin Fflur yn mwynhau sgwrs glyd gyda'r gantores, actores a chyflwynwraig enwog, Caryl Parry Jones.

  • Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Sgwrs dan y Lloer - Cyfres 2

    Ailddarllediad yn dilyn marwolaeth Leah Owen. Heno fe fydd Elin Fflur yn ymweld â Leah yng ngardd ei chartref ym Mhrion, Sir Ddinbych. Er ei bod wedi hyfforddi cenedlaethau o blant Dinbych a'i gwreiddiau bellach yn nwfn yn yr ardal, mae'n parhau i fod yn ¿hogan o Fôn¿ yn ei chalon. O flaen tanllwyth o dân, bowlen o Lobsgows a'r atgofion yn llifo fe ddown ni i nabod Leah, y fam, yr hyfforddwraig a'r gantores sydd wedi dylanwadu ar genedlaethau o blant Sir Ddinbych a Môn.

  • Siwrna Scandi Chris

    Siwrna Scandi Chris

    Ym mhennod olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn profi danteithion Copenhagen yn Denmarc.

  • Tekkers

    Tekkers

    Cystadleuaeth pêl-droed gyda Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen yn herio dau dîm mewn pum gêm gorfforol. Ysgol Ifor Hael o Gasnewydd sy'n cystadlu yn erbyn Ysgol Dewi Sant, Y Rhyl yn Stadiwm Tekkers y tro yma, gyda help llaw y capteiniaid cystadleuol.

  • Teulu'r Castell

    Teulu'r Castell

    Cyfres yn dilyn Marian a Rob Evans o Lansteffan, sydd wedi prynu ty fferm gyda thir, coedwig, a chastell Normanaidd. Yn y bennod olaf ac ar ol dwy flynedd o aros, mi gewn ni weld y briodas gyntaf swyddogol yn y castell. Hefyd, mae Ffion a Catrin yn cael blas ar gadw gwenyn, ac fe gewn ni weld beth yw cynlluniau Marian ar gyfer y dyfodol gyda'r fferm a'u busnesau.

  • Tisho Fforc - Cyfres 1

    Tisho Fforc - Cyfres 1

    Dau desperate singletons yn chwilio am gariad, ond beth ¿ neu pwy ¿ fydd ar y fwydlen tro 'ma' Dishy Dewi a Saucy Shauna fydd yn gofyn am help Mared Parry i ddarganfod os ydyn nhw'n match, neu beidio.

  • Tisho Fforc - Cyfres 2

    Tisho Fforc - Cyfres 2

    Mae Callum yn edrych am ei sgrym nesaf, ond ai Rosie fydd yr un' Mared Parry fydd yn helpu'r ddau ffeindio cariad.

  • Tisho Fforc - Cyfres 3

    Tisho Fforc - Cyfres 3

    A fydd Riley y gôli yn sgorio gyda Charla y drama cwîn ¿ neu fydd o'n cael cic yn y ceilliau'

  • Trefi Gwyllt Iolo

    Trefi Gwyllt Iolo

    Iolo Williams sy'n ein cyflwyno i fywyd gwyllt yn nhrefi Cymru.

  • None

    Tudur Owen: Go Brin

    Mae'r byd a Chymru wedi newid am byth ac mae Tudur wedi bod yn ceisio gwneud synnwyr or cyfan. Ydi'r byd angen bod mwy diog' Fydd Lloegr byth yn wlad annibynnol' Dylia' plismyn iaith wisgo iwnifforms' Mae Tudur yn gofyn y cwestiynau yma a llawer mwy yn ei sioe stand yp newydd, wedi ei ffilmio o flaen gynulleidfa fyw yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Ond oes ganddo atebion' Go brin!

  • None

    Wyt Ti'n Iawn?

    Mae'r diwydiant amaethyddol ar cyfradd uchaf o hunanladdiad, mwy na' un proffesiwn arall. Yn 2018 roedd yna 83 o amaethwyr wedi diweddu eu bywydau yng Nghymru a Lloegr. Dyma brofiadau gr¿p o ffermwyr ifanc cafodd eu heffeithio gan salwch iechyd meddwl.

  • Y Byd yn ei Le

    Y Byd yn ei Le

    Mewn rhaglen arbennig, bydd Catrin Haf Jones yn holi'r ddau ymgeisydd sy'n gobeithio camu i sgidie Mark Drakeford fel arweinydd nesa'r Blaid Lafur yng Nghymru - Vaughan Gething AS a Jeremy Miles AS. Bydd panel o westeion yn y stiwdio yn ymateb, a'r Athro Richard Jones yn dadansoddi'r cyfan.

  • Y Ffair Aeaf 2023

    Y Ffair Aeaf 2023

    Nia Roberts a'r tîm fydd yn cyflwyno'n fyw o Lanelwedd. Cawn holl gyffro arwerthiant mawr y gwartheg.

  • Y Frwydr: Stori Anabledd

    Y Frwydr: Stori Anabledd

    Mae'r actor Mared Jarman yn parhau ei thaith i ddysgu am hanes anabledd yng Nghymru gan edrych ar y 90au hyd at heddiw. Dyma gyfnod o frwydro'r ol, ymladd tros hawliau a dechrau dathlu anabledd mewn ffordd na welwyd o'r blaen.

  • None

    Y Gic Fawr

    O Ben-y-bont i ben y byd pêl-droed Americanaidd- dyma raglen ddogfen arbennig sy'n dilyn stori anhygoel y cyn chwaraewr rygbi, Evan Williams. Gwelwn Evan yn dechrau ei flwyddyn olaf yn chwarae i goleg Missouri Western State, cyn edrych tuag at ei freuddwyd fawr o gyrraedd yr NFL.

  • Y Goleudy

    Y Goleudy

    Mae Efa yn symud i fyw gyda'i thad-cu I dref dawel Brynarfor. Mae'r Goleudy wedi tynnu ei sylw ac mae'n benderfynol o fynd yno

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?