S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cog1nio

Dosbarth Meistr Harri Alun

​Cig Oen Harri Alun

Dyma'r her wnaeth y chef Harri Alun osod i'r cogyddion ifanc:

Cynhwysion

1 rack o gig oen 4 asgwrn a chwpan o stoc

1 aubergine

2 shibwns

1 lemwn

50g tahini paste

10g coriandyr wedi torri

1 pupur coch

50g iogwrt Groegaidd

2 sprigyn coriandyr

50g olew olewydd

50g menyn

2 sprig teim

2 clove garlleg

200g Jerusalem artichoke

100g dail spigoglys

50ml olew rapeseed

pupur a halen

Dull

1 Rho'r aubergine yn y popty am 20 munud.

2 Tynna'r cig oen o'r asgwrn

3 Tra bod yr aubergine yn coginio torra shibwns, winwns, ciwbiau bach pupur coch a sudd lemwn

4 Plicia a thorra'r artichoke yn hanner , ffria mewn menyn, garlleg , teim a'r stoc wedyn ei rhoi yn y popty am tua 15 munud.

5 Tynna'r aubergine o'r popty, tynna'r canol allan o'r croen a'I roi mewn powlen gyda phupur, shibwns, lemwn, past tahini, iogwrt a coriandyr wedi dorri.

6 Rho'r cig oen mewn ffreipan poeth a'i goginio yn gyflym a wedyn rho'r cig yn y popty 180c am tua 12 munud gyda chroen saim I lawr.

Gorffenna'r cig oen gyda menyn garlleg a theim a gorffwys y cig am 3 munud mewn lle cynnes.

7 I blatio….cerfia y cig oen, defnyddia dwy lwy fwrdd i wneud siap wy o'r cymysgedd aubergine wedy rhoi'r artichoke ar un ochr a defnyddia ddail spigoglys i ychwanegu lliw, bach o goriandyr ac unrhyw sudd o'r cig oen

Crème Anglaise

Crème Anglaise

Cynhwysion

3 melyn wŷ

300ml hufen

1 pod fanila

35g siwgr

1 Chwisga'r melyn wŷ a siwgr

2 Berwa'r hufen a pod fanila

3 Tywallta hwn dros yr wŷ

4 Nol yn y badell I dewhau a'i droi drwy'r amser. Paid a'i ferwi

5 Tynna allan o'r badell i stopio coginio

Gellygen wedi potsio

Cynhwysion

1 gellygen/peren

200ml te ffrwyth

200g siwgr

4 peppercorns pinc

2 ctar anise

1/2 ffon Cinnamon

1 puff pastry wedi rolio allan

DULL

1 Rho'r cynnwys mewn padell a'i goginio nes bod y peren yn meddalu

2 Gad iddo oeri , wedyn ei dorri yn ei hanner

3 Tynna'r canol /craidd

4 Pwysa'r "puff pastry" o amgylch y gellygen a'i bobi am 10-15 munud. Rho ar ben y granola a thywallt y crème anglaise ar ben.

Granola Harri Alun

Granola Harri Alun

Cynnwys

100g ceirch

50g raisin aur

50g hadau pwmpen

50g hadau blodyn haul

50g amlmonau (mân)

50g menyn

100g mêl

1 pod fanila

Dull

1 Cymysga'r y cynnwys a'i osod ar din pobi

2 Poba ar 170c tan yn euraidd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?