Dosbarth Meistr Beca Lyne Pirkis
Cacennau siocled poeth – 2-3
Cynnwys
65g siocled tywyll
65g menyn heb halen
100g siwgr brown golau
2 wŷ
35g blawd plaen
I weini
crème fraiche
mafon neu mefus ffres
Dull
Cynhesa'r popty i 200C/180C Ffan/Nwy 6. Rho fenyn mewn 2-3 ramekin a'u rhoi a'r din pobi.
Todda siocled a menyn mewn bowlen dros sosban gyda dwr yn mudferwi nes ei fod e'n sgleinio wedyn tynna o'r gwres.
Rho'r siwgr mewn gyda'r siocled a rho'r wyau I fewn un ar y tro. Nawr ychwanega'r blawd . Cymysga a'i rhoi yn y ramekins. Rho nhw yn yr oergell nes dy fod yn barod i'w pobi neu poba nawr am 10-12 munud neu neu nes bod y top wedi pobi. Bydd y canol yn feddal a 'gooey'.
Yn ofalus rho gyllell o gwmpas y gacen , rho blât ar ei ben , ei droi ben I wared a'i dynnu allan . Gweina gyda llond llwy o crème fraiche ac erin ffres.