S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Rheolau 'Sut Wyt Ti'r Aur?"

Rheolau gêm Sut Wyt Ti'r Aur Stwnsh Sadwrn.

I gystadlu, rhaid:

Rhoi dy enw, cyfeiriad e-bost, dy oedran a rhif ffôn ar wefan STWNSH SADWRN, neu ffonia ar 08000 727877 neu tecstia SADWRN gyda dy enw i 80800.

Dewisir enwau i chwarae ar hap o blith yr enwau sydd wedi cystadlu.

I chwarae mi fydd angen i'r plentyn ddewis pa gyflwynydd fydd yn ennill her yr wythnos honno. Mae'r heriau yn amrywio'n wythnosol. Os yw'r plentyn wedi dewis yn gywir, mi fyddant yn derbyn £25 o dalebau stryd fawr, potel aur Stwnsh Sadwrn a hwdi Stwnsh Sadwrn.

Mae'n rhaid bod yn 16 oed neu iau i gystadlu. Gofynnwch am ganiatâd gan y person sy'n talu'r ffôn cyn cystadlu. Bydd yr alwad am ddim o ffôn y tŷ ond gall gostio o ffôn symudol. Mae'r costau yn amrywio, felly dylid cysylltu â chyflenwr y gwasanaeth ffôn am gadarnhad o'r costau.

Bydd unrhyw gwobrau yn cael ei anfon at yr enillydd os yw'r rhiant, warchodwr yn hapus i'w dderbyn.

Trwy gystadlu, mae'r ymgeisydd yn cytuno, y gall Boom Cymru / S4C ddefnyddio ei enw a'i llun at ddibenion hyrwyddo.

Ni fydd modd hawlio swm ariannol yn gyfnewid am unrhyw gwobrau.

Ni fydd Boom Cymru ac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad cau. Ni ellir derbyn bod prawf anfon e-bost yn cyfateb â phrawf ei bod wedi cyrraedd.

Mae Boom Cymru ac S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r amodau a thelerau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

Ar wahân at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth ac i hyrwyddo enw'r enillydd, ni fydd S4C/Boom Cymru yn defnyddio gwybodaeth bersonol yr ymgeiswyr, ac ni fydd yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddibenion eraill.

Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

Trefnir a hyrwyddir y gystadleuaeth hon gan Boom Cymru, Gloworks, Ffordd Porth Teigr, Caerdydd, CF10, 4GA a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C ar 0370 600 4141.

Mae'r gystadleuaeth ar agor i bawb ar wahân i staff S4C, staff cwmni Boom Cymru TV Cyf., aelodau agos o'u teuluoedd a chwmnïoedd sy'n gysylltiedig â'r gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?