11 Ebrill 2025
Bydd y ddrama garchar afaelgar, Bariau, yn dychwelyd i S4C ar gyfer ail gyfres nos Sul 13 Ebrill am 9yh, gan fynd â gwylwyr yn ôl y tu hwnt i ddrysau cadarn Carchar y Glannau.
10 Ebrill 2025
Yn dilyn llwyddiant hanesyddol Clwb Rygbi Caernarfon dydd Sadwrn diwethaf yn rownd derfynol Cwpan Adran Un yn Stadiwm Principality, mae rhaglen ecsgliwsif ar YouTube S4C, Cofis yn y Ffeinal, yn dilyn y tîm wrth iddynt baratoi at y gêm holl bwysig.
7 Ebrill 2025
Ers bron i ddegawd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, bwrdd iechyd mwyaf Cymru, wedi bod yn y penawdau – yn aml am y rhesymau anghywir megis amseroedd aros hir a rhesi o ambiwlansiau yn ciwio y tu allan i ysbytai. Ond y tu hwnt i'r heriau hyn mae straeon o ymroddiad a gwytnwch.
31 Mawrth 2025
Mae cyfres boblogaidd S4C, Y Llais, sef fersiwn Gymraeg o'r fformat byd-enwog The Voice, wedi coroni enillydd. Ar ôl y ffeinal fawreddog ar 30 Mawrth, cynulleidfa'r stiwdio oedd yn pleidleisio am enillydd a Rose Datta o Gaerdydd ddaeth i'r brig.
28 Mawrth 2025
Byddwch yn barod ar gyfer Bwmp, y gyfres ddrama chwe rhan ar S4C sydd â chalon, hiwmor ac yn adlewyrchu heriau'r byd go iawn.
17 Mawrth 2025
Yn dilyn blwyddyn gyntaf anhygoel, mae Little Wander, S4C a Comedy Lab Cymru Channel 4 (oedd yn arfer cael ei alw yn Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi) yn ôl! Mae'r tri sefydliad yn parhau â'u partneriaeth er mwyn cyflawni'r cynllun ar gyfer egin awduron-berfformwyr comedi Cymreig (ac sydd wedi eu lleoli yng Nghymru), gan ddatblygu cyfleoedd datblygu gyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.
13 Mawrth 2025
Mae Prif Weinidog Cymru, y Farwnes Eluned Morgan wedi talu teyrnged i Dafydd Elis-Thomas, y gwleidydd uchel ei barch, gan ei ddisgrifio fel 'un o gewri ein cenedl'.
7 Mawrth 2025
Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd holl gemau tîm dynion Cymru yn ystod gemau Rhagbrofol Ewrop Cwpan y Byd FIFA 2026 yn cael eu darlledu'n fyw ar draws ei llwyfannau.
28 Chwefror 2025
Y gân Troseddwr yr Awr gan y band Dros Dro yw enillydd Cân i Gymru 2025.