Mae gwefan S4C yn defnyddio cwcis. Drwy ddefnyddio'r safle rydych yn caniatáu i S4C ddefnyddio cwcis yn unol â'r canllawiau isod
Mae S4C yn defnyddio cwcis i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth orau i chi ar ein gwefan. Mae cwcis yn cael eu defnyddio i storio gwybodaeth ynglŷn â'ch dewisiadau ar-lein, er enghraifft, gall S4C ddefnyddio cwcis ar gyfer eich dewis iaith ar wefan S4C. Os ydych chi'n defnyddio safle Tywydd S4C, gall S4C ddefnyddio cwcis i storio eich cyfeiriad a'ch còd post a geoleoliad y ddyfais er mwyn sicrhau fod y wybodaeth am y tywydd yn lleol i chi.
Os byddwch yn ymweld â thudalen ar wefan S4C sy'n cynnwys cynnwys wedi'i wreiddio o'r cyfryngau cymdeithasol, mae'n bosibl y bydd cwcis trydydd parti yn tracio eich defnydd o wefan S4C
Beth yw cwcis?
Mae cwcis yn recordio patrwm eich gweithgareddau arlein. Prif bwrpas cwcis yw adnabod defnyddwyr a pharatoi tudalennau arbennig ar eu cyfer. Pan fyddwch yn ymweld â gwefan sy'n defnyddio cwcis, mae'n bosib y bydd yn gofyn i chi gwblhau ffurflen gan ddarparu gwybodaeth megis eich enw a'ch diddordebau. Mae'r wybodaeth hwn yn cael ei becynnu i cwci ac fe'i hanfonir at eich porwr sy'n ei storio tan eich ymweliad nesaf. Y tro nesaf y byddwch yn ymweld â'r wefan, bydd eich porwr yn anfon cwci at weinydd y we. Gall y gweinydd ddefnyddio'r wybodaeth hwn i gyflwyno tudalennau sydd wedi eu dylunio'n arbennig at chwaeth y gynulleidfa darged. Er enghraifft, drwy gael cwcis ar eich peiriant, yn hytrach na gweld tudalen groeso cyffredinol, mae'n bosib i chi weld tudalen groeso gyda'ch enw arni.
Gwraidd | Enw'r Cwci | Pwrpas | Disgrifiad |
---|---|---|---|
Gwefan S4C | sessionid | Personoli'r safle | Storio'r dewis iaith ar gyfer gwefan S4C. |
S4C Gwylio | s4cPlayerVolume | Personoli’r safle | Storio dewis sain y defnyddiwr |
anonS4CUser | Personoli'r safle | Llinyn ID dienw'r defnyddiwr. | |
xx-info: | Personoli'r safle | Tracio pob rhaglen mae’r defnyddiwr wedi ei wylio a'r cyfnod y maent wedi gwylio | |
geodatas4c | Personoli'r safle | Storio data geoleoliad y defyddiwr. | |
Fy S4C i | bws_session_token | Personoli'r safle | Allwedd dros dro sy'n rhoi mynediad i rannau o'r wefan gan ddefnyddio eich manylion mewngofnodi. Gall yr allwedd hon ei dirymu gennym ni, ac fe'i dilëir pan fyddwch yn allgofnodi o ddyfais. Fe'i defnyddir i'ch adnabod chi, ac o bosib, eich dyfais. Gellir ei ddefnyddio i ddilyn eich taith drwy ein gwefan a nodi unrhyw gynnwys fideo rydych yn ei wylio. Os byddwch yn dileu eich cyfrif, er y gallem fod wedi cofnodi'r allwedd hon yn erbyn barn y dudalen/barn am y cynnwys, ni fyddai’r wefan bellach yn gallu eich adnabod a byddwn yn ymddangos yn ddienw. |
bws_logged_in | Personoli'r safle | Storio os yw’r defnyddiwr wedi mewngofnodi neu beidio er mwyn mwyn penderfynu os yw’r defnyddiwr yn gallu gweld tudalennau penodol | |
device_id | Personoli'r safle | ID sy’n adnabod y ddyfais unigryw mae’r defnyddiwr yn ei ddefnyddio | |
bws_is_child_account | Personoli'r safle | Dangos os mai’r prif ddefnyddiwr neu un o gyfrifon plentyn y defnyddiwr sydd wedi mewngofnodi | |
Caban | _icl_current_language | Personoli'r safle | Storio dewis iaith. Mae’r safle yn dychwelyd i’r dewis hwn pan fydd y defnyddiwr yn dychwelyd. |
Y Tywydd | geoLocation | Personoli'r safle | Caniatáu’r gallu i gadw cyfeiriad/cod post ar geoleoliad y ddyfais er mwyn gallu cynnig gwybodaeth leol ar y tywydd |
Cyw | PHPSESSID | Tracio sesiwn | ID sesiwn PHP, wedi ei greu yn ddiofyn gan y system. Nid yw’n cynnwys unrhyw wybodaeth am y defnyddiwr. |
Google Analytics | _ga | Ystadegau defnydd Wefan | Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr. | _gid | Ystadegau defnydd Wefan | Fe'i defnyddir i wahaniaethu rhwng defnyddwyr. | _gat | Ystadegau defnydd Wefan | Defnyddir i dagu cyfraddau ceisiadau | __utma | Ystadegau defnydd Wefan | Storio nifer yr ymweliadau, ac amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol, a'r ymweliad presennol. | __utmb and __utmc | Ystadegau defnydd Wefan | Gwirio hyd ymweliad: pan fydd ymweliad yn dechrau, a thua’r amser diwedd. | __utmz | Ystadegau defnydd Wefan | Storio lleoliad yr ymweliad. |
IDE | Ystadegau defnydd Wefan | Defnyddir gan Google DoubleClick i gofrestru ac adrodd ar weithredoedd y defnyddiwr ar ôl ymweld neu glicio ar hysbyseb er mwyn mesur effeithiolrwydd hysbyseb ac i gyflwyno hysbysebion targed i’r defnyddiwr. I ddileu’r cwcis Google, ewch i http://www.google.com/intl/en/privacypolicy.html | |
Rhwydweithio Cymdeithasol | uid, loc, dvd, mus | Personoli'r Safle | Mae adnodd AddThis yn caniatau i’r defnyddiwr i rannu gwefannau, blogiau, newyddion, lluniau, fideos a chynnwys eraill i rwydweithiau cymdeithasol poblogaidd a lleoliadau eraill drwy borwr neu ategyn neu ategyn gwefanl. I optio allan neu am fwy o wybodaeth, ewch i http://www.addthis.com/privacy/privacy-policy |
Sut i ddiffodd cwcis?
Mae gan bob defnyddiwr yr opsiwn i'w cyfrifiaduron dderbyn cwcis, i'w hysbysu pan mae cwci am gael ei ddefnyddio, neu i beidio derbyn cwcis ar unrhyw bryd. Byddai dewis yr opsiwn olaf, yn golygu, na fydd rhannau o wefannau ar gael i'r defnyddiwr hwnnw, gan olygu yn y pendraw na fydd y defnyddiwr yn gallu cymryd mantais lawn o holl nodweddion gwefannau S4C. Mae pob porwr yn wahanol felly cymrwch olwg ar ddewislen 'Help' eich porwr i ddysgu sut i newid eich gosodiadau.
Os ydych wedi dewis peidio â derbyn cwcis, gallwch barhau i edrych ar wefannau S4C tan eich bod eisiau cofrestru am wasanaethau ar wefannau S4C. Am wybodaeth bellach ynglŷn â cwcis a sut i'w dileu, ewch i www.aboutcookies.org.