Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Isdeitlau Saesneg ar gael.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Mae ymweliad â ffrind sydd wedi cael babi yn codi cwestiynau mawr i Mel ynglyn â'i genedigaeth ei hun, ac ar ôl cyngor gan ambell un bydd yn cael ei harwain ar lwybr annisgwyl, sy'n codi cwestiynau mawr i Kelvin. Wrth i Sian geisio dygymod â'r syniad fod Lili'n mynd i adael gydag Erin, bydd ymddygiad Erin yn codi mwy o amheuon yn hytrach na'u lliniaru. Ac ar ôl cael ei gwahardd rhag gadael y ty gan Sophie mae Mair yn benderfynol o gynllunio i weld Ioan.
Mae hi'n ddydd Nadolig ac mae hwyl yr wyl yn ei anterth yn y caffi. Yn anffodus, nid yw pawb yn y pentref yn teimlo fel dathlu a Iestyn ar ei ben ei hun yn parhau i alaru a hiraethu am Tammy. Nid Sion Corn yw'r unig ymwelydd annisgwyl, ac mae'r trafferth a ddaw yn ei sgil yn peri gofid a chynnwrf mawr. Mae Mair a Ioan yn benderfynol o dynnu'n groes, a'r ddau'n dathlu yn eu dull hwyliog eu hunain, ond mae chwarae'n troi'n chwerw a'r ddau'n wynebu sefyllfa beryglus.
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl