Drama newydd. Mae darganfyddiad corff nyrs yn y goedwig yn adlais o achos o lofruddiaethau hanesyddol. Ymhlith ofnau bod hwn yn waith 'copycat', mae Detective Inspector Ffion Lloyd yn cael ei galw nôl i arwain yr ymchwiliad er gwaethaf gwrthwynebiad DS Rick Sheldon. Gweithiodd Ffion a Rick yr achos hanesyddol gyda'i gilydd, ond roedden nhw hefyd wedi dyweddïo ar un adeg. Nawr nôl yn gweithio gyda'i gilydd maen nhw'n ceisio darganfod ai llofruddiaeth trais domestig yw hyn neu rhywbeth tywyllach.
Isdeitlau Saesneg ar gael.
Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.
Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.
Mae Tom yn mynd i eithafion i rwystro Cheryl rhag gadael...ond yw e'n mynd rhy bell y tro hwn' Eu Nadolig cyntaf heb Seren, caiff Dani a'r teulu ddiwrnod emosiynol iawn ond mae gan Gwern ei amheuon am Jinx ac yn ei rybuddio i beidio gwneud dim i frifo Dani. Rhaid i Tom feddwl yn gyflym pan ddaw Cassie a Mark draw i'r ty i chwilio am Cheryl. Mae Sion yn beio'r Monks pan wel fideo dilornus ohono ef ac Eileen.
Ar ôl i Vince gael ei anafu wrth ei hamddiffyn, mae Mair yn awyddus i gadw bygythiad Kyle yn gyfrinach, ond bydd yn profi'n anodd i gadw'r peth rhag Elen, er na ddigwyddodd ar dir yr ysgol. Wrth i Sian gynnal parti pen-blwydd i Lili, bydd pawb o'r teulu'n ymuno'n y dathlu: pawb ac eithrio Erin, sy'n arwain Sian i ofni mai camgymeriad oedd gyrru'r cais i'w mabwysiadu. Ac wrth i Trystan drefnu santa cudd mae Philip yn ei chael hi'n anodd i fynd i ysbryd y Nadolig cymunedol, tan iddo fo gael syniad
Cyfle arall i weld y ffilm gerdd i'r teulu cyfan sy'n olrhain bywyd bachgen bach 7 oed o'r enw Noa. Mae rhieni Noa yn hyfryd, ond maen nhw'n brysur tu hwnt. Mae Noa'n unig blentyn, ond dydy e ddim yn unig. Mae Noa wedi creu ffrind dychmygol drygionus o'r enw Albi, sy'n un o nifer o 'ffrindiau dychmygol' sy'n byw mewn byd arbennig iawn. Mae'r ffilm yn adrodd hanes y teulu cyffredin yma yn ystod un gaeaf hudol wrth i fywyd Noa gael ei drawsnewid. Mae'r ffilm wedi'i hysgrifennu a'i chreu gan Caryl
Cyfle i wylio cynhyrchiad Theatr Cymru o'r ddrama gomedi gan Gruffudd Owen ar y sgrin fach. Mae Lowri yn benderfynol o oroesi diwrnod priodas ei brawd, ac mae Idris yn dychwelyd i Ben Llyn ar gyfer y diwrnod mawr. Ond gyda dyfodol Lowri a'r fferm deuluol yn fregus ac Idris yn hiraethu am ei ffrind gorau, a fydd cyfrinachau'r gorffennol yn difetha diwrnod pawb' Drama gan Gruffudd Owen, wedi'i gyfarwyddo gan Steffan Donnelly ac wedi'i ffilmio yn Galeri Caernarfon.
Ym 1972, aeth awdur 'Un Nos Ola Leuad', Caradog Prichard, i'r ysbyty am lawdriniaeth ar gancr yn ei wddf. Yn fuan wedyn, dechreuodd ysgrifennu ei hunangofiant, Afal Drwg Adda. Mewn drama ddogfen o'r un enw heno ar S4C, cawn ddarlun gonest o fywyd un o lenorion pwysicaf Cymru. Fe adroddir y stori o enau Caradog wrth iddo orwedd ar ei wely yn yr ysbyty cyn mynd o dan y gyllell i gael tynnu'r cancr o'i wddf. Y diweddar Stewart Jones sy'n portreadu Caradog ym mlodau ei ddyddiau a Llion Williams sy'n