O dan olau'r lleuad yn Llundain fe fydd Elin Fflur yn cael cwmni y cyflwynydd Alex Jones. Yn wreiddiol o Rydaman Alex bellach yw un o hoff wynebau y BBC a phrif gyflwynydd 'The One Show'. Fe gawn ni glywed am ei phrofiadau cynnar a gwerthfawr ar S4C, am ei hoff gyfweliadau , a'r gwaethaf, yn ogystal â rhai o'r heriau sy'n dod yn sgil byw bywyd mor gyhoeddus. Dyma sgwrs annwyl, hwyliog a gonest rhwng dwy ffrind.
Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld â thy llawn cymeriad a swyn ar Ynys Môn, hen fwthyn gweithwyr yn Nhrefynwy ac adeilad newydd sbon mewn safle hyfryd ym mhentref Blaen y Coed.
Yn y bennod hon, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref i gwpwl ifanc yng Nghaerfyrddin. Ni fydd gan y cwpwl syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'