S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

  • 24 Awr Newidiodd Gymru

    24 Awr Newidiodd Gymru

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Cyfres sy'n darganfod y 24 awr drwygydol hanes sydd wedi newid Cymru. Mewn cyfres o 25 o ffilmiau digidol byrion bydd y cyflwynydd Richard Parks yn mynd â ni ar daith ar draws y 24 stori hyn, o'r hen Gymru hyd at y 21ain ganrif.

  • Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd

    Troseddau Cymru gyda Sian Lloyd

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Chwe stori drosedd fawr a newidiodd Gymru. Fesul pennod, bydd Sian yn ein harwain drwy ddigwyddiadau syfrdanol stori drosedd, gan ymweld â lleoliadau sylweddol a chwrdd â'r rhai y mae eu bywydau wedi'u heffeithio'n uniongyrchol - o ddioddefwyr i ffrindiau a theulu, a'r gymuned ehangach. Bydd Sian yn clywed eu hanes o'r drosedd a'i heffaith barhaol.

  • Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Cyfres deithio newydd lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Yn y rhaglen hon, mae taith Gwilym yn cychwyn ym Mhorth Madryn, man glanio'r Mimosa yn 1865.

  • Llofruddiaeth y Bwa Croes

    Llofruddiaeth y Bwa Croes

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Pennod 1: Ebrill 2019 - mae pensiynwr yn cael ei saethu gyda Bwa Croes ar Ynys Môn. Heb dystion, tystiolaeth fforensig na chwaith cymhelliad clir, a fydd Heddlu Gogledd Cymru yn medru darganfod pwy oedd yn gyfrifol?

    Pennod 2: Mae'r ffisiotherapydd lleol, Terence Whall, wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr, Gerald Corrigan - a fydd y llys yn ffeindio Whall yn euog? Ac yn fwy pwysig na dim, a fydd atebion ynglŷn a pham cafodd y pensiynwr ei lofruddio gan Fwa Croes?

Ar gael nawr

  • Cegin Bryn: Yn Ffrainc

    Cegin Bryn: Yn Ffrainc

    Mae'r cogydd Bryn Williams yn teithio dros y dwr i Ffrainc yn y gyfres hon i ail-ddarganfod ei wreiddiau coginio.

  • Y Ci Perffaith

    Y Ci Perffaith

    Cyfres wedi'i gyflwyno gan Heledd Cynwal. Mae 'na 13.5 miliwn o gwn ym Mhrydain. Ond sut ma dod o hyd i'r Ci Perffaith' Dan arweiniad yr arbenigwr c¿n Dylan Davies a chadwyn o arbenigwyr a llochesi cwn, byddwn ni'n helpu 4 teulu sy'n ysu am gi. Bydd y teulu yn cael treulio amser gyda phob ci dan olwg ein camerau cudd o fewn y ty. Ar ôl wythnos o bendroni a thrafod, bydd y teulu'n cael dewis pa gi ma nhw am gadw fel eu¿ Ci Perffaith!

  • Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Bois y Pizza: Chwe' Gwlad

    Mae Bois y Pizza yn ol. Jez, Ieuz ac heb anghofio Smokey Pete. Y tro hwn, hoe fach i'r tîm rygbi - ond mae'r bois dal ar yr hewl a wedi teithio lan yr arfordir i Aberystwyth. Yn gartref i'r brifysgol, y Llyfrgell Genedlaethol a'r pier eiconig - ac yn fwy ddiweddar - bwyty seren Michelin, SY23. Ar ol darganfod gymaint a phosib am fwyd Ceredigion, bydd y bois yn coginio pizzas i'r prif gogydd a seren Great British Menu - Nathan Davies a'i griw.

  • Y Fets - Cyfres 6

    Y Fets - Cyfres 6

    Y tro yma ar Y Fets ¿ Mae yna ddraenog yn cael eu gludo i'r practis. Mae Dafydd y Fet yn ymweld â blaidd-gi, ac mae yna alwad brys gan fod Teddy y ci wedi llyncu bachyn pysgota. Beth fydd eu hanes yn y Fets'

  • Cartrefi Cymru - Cyfres 1

    Cartrefi Cymru - Cyfres 1

    Cyfres lle bydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn edrych ar gartrefi Cymru drwy'r oesoedd. O oes y Tuduriaid hyd heddiw, byddwn ni'n agor y drws ar hanes ein cenedl drwy bensaernïaeth. Yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar dai o'r 1960au a'r 1970au.

  • Ffermio

    Ffermio

    Tro hwn, mi fydd Daloni yn cwrdd â Rhodri Jones sydd wedi symud o dde Cymru ac wedi dechrau godro yng nghanolbarth Cymru; Alun fydd yn ymweld â Stad y Rhug i weld y ddiadell newydd o ddefaid; a Meinir fydd yn clywed mwy am fyd geneteg gwartheg.

  • Efaciwîs

    Efaciwîs

    Ar ôl ymgartrefi yn Llanuwchlyn a gwneud ffrindiau da gyda'r plant lleol, mae'r rhyfel yn dod i ben ac mae'n bryd i'n wyth efaciwi fynd adre. Ond cyn hynny mae mabolgampau a pharti steil diwrnod VE i'w fwynhau.

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?