Crynodeb
Gweithredol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth S4C ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac fe fydd yn elfen allweddol o’n cyflwyniad i’r adolygiad annibynnol o gylch gorchwyl, cyllido ac atebolrwydd y sianel.

Crynodeb Gweithredol

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweledigaeth S4C ar gyfer y deng mlynedd nesaf, ac fe fydd yn elfen allweddol o’n cyflwyniad i’r adolygiad annibynnol o gylch gorchwyl, cyllido ac atebolrwydd y sianel.

Yn y crynodeb gweithredol hwn, nodwn y pwyntiau allweddol a amlinellwyd yn y ddogfen, pennod wrth bennod.

Pennod 1: S4C Heddiw

Yn y bennod gyntaf, rhown amlinelliad o S4C fel ag y mae heddiw. Ystyriwn y cyd-destun yr ydym yn gweithredu ynddo, sut mae hwn wedi datblygu yn y 35 mlynedd ers i’r sianel gael ei chreu, a beth mae hyn yn ei olygu i S4C yfory.

S4C Heddiw

  • Mae S4C yn darlledu dros 115 o oriau o raglenni bob wythnos, gan gynnwys gwasanaeth i blant, drama, newyddion, adloniant, chwaraeon, rhaglenni ffeithiol, cerddoriaeth a digwyddiadau.
  • Mae ein cynnwys yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd yn y Gymru fodern a bywyd y gynulleidfa Gymraeg ei hiaith.
  • Mae S4C yn comisiynu’r mwyafrif helaeth o’n cynnwys Cymraeg gan ystod eang o gwmnïau cynhyrchu annibynnol, medrus (tua 50 y flwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf), sy’n gweithio ledled Cymru.
  • Mae’r BBC hefyd yn darparu isafswm o ddeg awr yr wythnos o raglenni o’i chyllideb ei hun i’r gwasanaeth.
  • Ar ôl eu darlledu, mae modd gwylio rhaglenni S4C drwy’n gwasanaeth ar-lein neu ar y BBC iPlayer – o ganlyniad i’r bartneriaeth strategol ehangach gyda’r BBC.
  • Mae effaith economaidd y cyllid cyhoeddus a fuddsoddir yn y sector cynhyrchu a’r diwydiannau creadigol yn sylweddol – mae bob £1 a fuddsoddwyd gan S4C yn yr economi yng Nghymru a’r DU yn creu cyfanswm gwerth o £2.09.
  • Gweithredwn yn ddarbodus, a chynhaliwn orbenion y sefydliad ar ryw 4%, ac mae cost cynnwys fesul awr wedi lleihau o draean er 2009.
  • Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru wedi cynyddu dros 10% ers i S4C gael ei lansio ym 1982. Mae’r iaith yn ffynnu heddiw, ac fe’i defnyddir gan bron i dri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru a’r DU i wahanol raddau yn eu bywydau – gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith ac amser hamdden.
  • Yn 2015/16, cyflawnom ein ffigurau gwylio teledu wythnosol uchaf yn y DU mewn naw mlynedd (629,000). Ar draws y flwyddyn, fe wnaeth 9.9m o bobl wylio cynnwys S4C ledled y DU (i fyny o 8.4m yn 2014/15).

Mae’r byd yn newid

  • Pan lansiwyd S4C ym 1982, dim ond pedair sianel deledu oedd i gael. Heddiw, mae cannoedd o sianeli – gan gynyddu’r dewis a chynyddu’r gystadleuaeth.
  • Dros y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd anferthol mewn llwyfannau ar-lein gyda chynulleidfaoedd yn mudo iddynt o sianeli teledu traddodiadol.
  • Mae Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus (DGCau) eraill wedi gallu lansio sianeli i dargedu cynulleidfaoedd sy’n mudo.
  • Yn y dyfodol, mae’n rhaid i S4C sicrhau bod cynnwys Cymraeg ar gael ar gymaint o lwyfannau â phosibl.
  • Mae cylch gorchwyl S4C yn hen ffasiwn – fe’i crëwyd yn unol ag arferion defnyddio’r cyfryngau o’r gorffennol. Nid yw’n ein galluogi ni i gomisiynu ar gyfer cynulleidfaoedd digidol yn benodol.

Pennod 2: S4C Yfory – Ein Gweledigaeth

Mae’r bennod hon yn esbonio’n fanwl ein gweledigaeth ar gyfer S4C newydd sy’n apelgar ac yn datblygu’n gyson o ran y cynnwys a gomisiynwn a’r modd y mae pobl yn defnyddio’r cynnwys hwnnw. Amlinellwn y camau y byddwn yn eu cymryd i ddarparu cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus modern a chynhwysfawr i gynulleidfaoedd presennol a chynulleidfaoedd newydd.

Mae ein gweledigaeth wedi’i seilio ar bedair elfen allweddol:

  1. Darparu Cynnwys ar bob Llwyfan: Sicrhau y gall y gynulleidfa ddefnyddio cynnwys S4C pryd, ble a sut bynnag y dymunant.
  2. Creu’r Cynnwys Cywir: Ei wneud yn fwy perthnasol, cystadleuol ac amrywiol.
  3. Gwerth Ehangach fel Gwasanaeth Cyhoeddus: Sicrhau buddion economaidd, ieithyddol ac addysgol o’n gwaith.
  4. Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth: Gwella ein galluoedd a’n henw da masnachol.

Darparu Cynnwys ar bob Llwyfan

Mae’n rhaid i S4C ddod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (CGC) Cymraeg ar yr holl lwyfannau poblogaidd – darlledu, Teledu Clyfar, y cyfryngau cymdeithasol, safleoedd fideo ffurf-fer, safleoedd ffurf-hir ar-lein, ac ati. Rhaid i ni wneud hyn ar yr un pryd â pharhau i fuddsoddi yn ein presenoldeb ar brif lwyfannau darlledu teledu.

Bydd S4C yn:

  • datblygu un cartref digidol hwylus sy’n galluogi ein cynulleidfa i ddefnyddio holl gynnwys S4C mewn un lle, gan gynnwys cynnwys o’r archif lle gellir sicrhau’r hawliau perthnasol;
  • cynnig gwasanaeth personoledig i aelodau’r gynulleidfa – cynnwys sy’n bodloni anghenion unigol a’r gallu i guradu’n unol â hynny ar lwyfannau perthnasol;
  • sicrhau bod brand a chynnwys S4C mor amlwg ac ar gael mor rhwydd â darparwyr DGC eraill ar Deledu Clyfar, ffrydwyr y cyfryngau a darparwyr ar alw eraill;
  • datblygu ac yn manteisio ar lwyfannau priodol ar gyfer darparu cynnwys digidol i dargedu grwpiau oedran gwahanol, a’u poblogi’n rheolaidd gyda chynnwys ffurf-fer newydd, apelgar.

Creu’r Cynnwys Cywir

Bydd S4C yn adfywio’r sianel linol – gan gyflwyno sianel linol fwy cyffrous, fwy beiddgar, a mwy amrywiol a fydd yn chwarae rhan amlycach ym mywydau ein cynulleidfa – gan ddefnyddio technoleg i alluogi gwylwyr i ryngweithio mwy. I wneud hyn, mae angen i S4C allu cystadlu gyda darlledwyr eraill sy’n cynnig tariffau uwch ar hyn o bryd, tra bod cyllideb cynnwys S4C yn lleihau oherwydd gostyngiadau mewn cyllid a phwysau chwyddiant. Disgwylir i werth cyllideb cynnwys presennol S4C ostwng yn raddol mewn termau real dros bum mlynedd - £1.6m yn is y flwyddyn nesaf, £8.7m yn is erbyn 2021/22.

Bydd S4C yn:

  • creu mwy o gyfleoedd gwylio i’r teulu eu mwynhau fel grŵp – gan gadarnhau rôl y sianel deledu fel cartref gwylio teuluol yn Gymraeg;
  • creu digwyddiadau proffil uchel arwyddocaol – uchafbwyntiau yn yr amserlenni sy’n tynnu pobl ynghyd ac yn ysgogi pobl i siarad yn eu cymunedau ac ar y cyfryngau cymdeithasol;
  • creu dau brif fath o gynnwys ffurf-fer – cynnwys gwreiddiol, annibynnol sy’n ysgogi rhyngweithio rhwng cynulleidfaoedd newydd sbon ar draws llwyfannau nad ydynt yn llinol; a chynnwys sy’n hyrwyddo ac yn ehangu diddordeb mewn rhaglenni presennol ac yn eu hategu;
  • newid ein dull o gomisiynu er mwyn cwmpasu cynnwys ar bob ffurf;
  • gwella cyfathrebu gyda chynhyrchwyr ac yn meithrin dealltwriaeth glir o’n disgwyliadau creadigol cynyddol.
MCR

Gwerth Ehangach S4C fel Gwasanaeth Cyhoeddus

Mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus S4C yn cael ei werthfawrogi a’i barchu’n eang gan ein cynulleidfa. Ond fel yr unig ddarlledwr a darparwr cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn Gymraeg, gwnawn gyfraniad sylweddol ac ehangach o ran gwasanaeth cyhoeddus i Gymru a’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio’n galed i gynyddu’n heffaith dros y deng mlynedd nesaf.

Bydd S4C yn:

  • cefnogi’r Gymraeg i hawlio ei lle yn y byd digidol trwy gomisiynu ystod o gynnwys digidol a sicrhau ei fod ar gael;
  • rhoi mwy o ffocws ar hyrwyddo amrywiaeth, cynwysoldeb a symudedd cymdeithasol drwy ein cynnwys a’n comisiynu;
  • cynnig mwy o gynnwys sy’n darparu ac yn atgyfnerthu profiadau addysgol i bob oedran;
  • gwneud mwy i annog trosglwyddiad iaith;
  • gwneud mwy i helpu datblygu sgiliau’r cyfryngau – gan gynnwys y rheiny sy’n bwydo i’r sector cynhyrchu yng Nghymru;
  • cynyddu buddsoddiad yn y diwydiannau digidol a chreadigol yn unol â chyllidebau.

Strategaeth Fasnachol i Helpu Gyrru’r Weledigaeth

Nod cangen Fasnachol S4C yw creu difidendau cynaliadwy i wasanaeth cyhoeddus S4C. Ein nod dros y pum mlynedd nesaf yw adeiladu ar yr hyn sy’n cael ei gyflawni ar hyn o bryd, a darparu hyd yn oed mwy o werth i’r gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd S4C Masnachol yn:

  • cymryd brandiau ar yr awyr ac yn ymchwilio i ffyrdd o gael mwy o werth ohonynt – gan wneud mwy i ddatblygu ar gynlluniau sydd eisoes ar y gweill;
  • creu mwy o gydgynyrchiadau drama mawr, beiddgar a fformatau i’w datblygu’n rhyngwladol – gan adeiladu ar brosiectau presennol;
  • datblygu partneriaethau newydd i gynhyrchu mathau newydd o gynnwys ar gyfer holl lwyfannau S4C;
  • Yn gwneud buddsoddiadau busnes sy’n helpu gwireddu’r weledigaeth a chreu enillion ariannol i’r gwasanaeth.

Pennod 3: Gwireddu’r Weledigaeth

Yn y bennod hon, rydym yn amlinellu’r blaenoriaethau strategol y credwn y dylai’r adolygiad o S4C eu hystyried. Bydd y rhain yn ein galluogi i wireddu’r weledigaeth a amlinellwyd ym Mhennod 2 a bodloni disgwyliadau’r boblogaeth Gymraeg.

Cylch gorchwyl newydd

Mae angen cylch gorchwyl hyblyg, wedi’i ddiweddaru i’n galluogi i wireddu ein gweledigaeth. Byddai hyn yn gweld S4C yn datblygu yn ddarparwr cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus – yn ymgorffori’r cylch gorchwyl teledu presennol a’r gallu i greu a darparu cynnwys ar lwyfannau eraill a chydnabod ein rôl yn gwasanaethu cynulleidfaoedd ledled y DU.

Dylai’r cylch gorchwyl newydd alluogi’r sianel i ddarparu:

  1. cynnwys Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus o safon uchel yn y Gymraeg;
  2. ar y teledu a llwyfannau digidol;
  3. i’r gynulleidfa yng Nghymru, ledled y DU a thu hwnt.

Buddsoddiad ariannol

Cyllid sefydlog a digonol

I wireddu ein gweledigaeth, mae cyllid sefydlog a digonol yn hanfodol.

O dan Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011, mae dyletswydd gan yr Ysgrifennydd Gwladol i ystyried faint o gyllid sydd ei angen ar S4C ac i wneud trefniadau i sicrhau bod y swm hwn o arian yn cael ei ddarparu i S4C bob blwyddyn – naill ai o arian y Llywodraeth, neu drwy wneud trefniadau gyda chyrff eraill.

Ar hyn o bryd, mae incwm o ychydig dros £83m gan S4C. I gyflawni a chynnal y lefelau gwasanaeth newydd a ddisgrifiwyd gennym, mae angen buddsoddiad ychwanegol bob blwyddyn ar ben ein cyllideb bresennol.

Beth yw cyllid digonol?

(a) Gwireddu darpariaeth cynnwys ar bob llwyfan:

Ein nod yw cyflwyno elfen lwyfan ac elfen ddigidol “Darpariaeth Cynnwys ar Bob Llwyfan” dros gyfnod o bum mlynedd. Mae gwneud hyn heb effeithio ar lefelau buddsoddi mewn cynnwys presennol yn mynnu:

  • buddsoddiad blynyddol ychwanegol o £6m y flwyddyn. Bydd hyn yn galluogi S4C i gyflwyno ei wasanaeth ar deledu yn ogystal â llwyfannau digidol, i fuddsoddi mewn cynnwys newydd ar gyfer cynulleidfaoedd ar lwyfannau digidol, ac i ymgorffori cynnwys archif yn y cynnig ar-lein.

(b) Cost creu’r cynnwys cywir

Nid oes ateb cwbl bendant i’r cwestiwn “faint o gyllid sydd ei angen ar S4C i greu’r cynnwys cywir?” Gwaith y darlledwr yw darparu’r gwasanaeth gorau posibl y gellir ei gyflwyno gyda’r arian sydd ar gael.

Fodd bynnag, nid yw cyllideb cynnwys bresennol S4C yn ddigonol i wireddu’r weledigaeth a amlinellir ym Mhennod 2 y ddogfen hon, ac felly mae angen cyllid ychwanegol os ydym am ei chyflawni.

Mae S4C wedi amlinellu’r ffactorau yr ystyriwn eu bod yn briodol ac yn berthnasol i’r adolygiad annibynnol eu hystyried wrth geisio ateb y cwestiwn beth yw cyllid digonol. Sef:

  • meincnodau a osodir gan ddarlledwyr eraill, a’r modd y newidiant dros amser;
  • y ffaith mai S4C yw’r unig sianel deledu Gymraeg;
  • lefelau ailddarlledu S4C, sydd i fyny i 58% ar hyn o bryd;
  • cost S4C fesul awr ar draws pob genre o gymharu â gallu DGCau eraill i fuddsoddi;
  • yr angen i warchod cyllideb S4C yn erbyn pwysau chwyddiant;
  • yr effaith gadarnhaol debygol a geir o gynnydd sylweddol mewn buddsoddiad ar y gwasanaeth.

(c) Proses dryloyw ar gyfer y dyfodol

Nid yw Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn cyfeirio at unrhyw broses y dylai’r Ysgrifennydd Gwladol ei dilyn wrth wneud penderfyniad ynglŷn â’r swm sydd ei angen i ariannu S4C. Mae’r gwendid hwn wedi gwneud S4C yn agored i doriadau o bryd i’w gilydd, ac wedi peri i ofnau gael eu mynegi ynglŷn â pharhad ymrwymiad y Llywodraeth.

Dylai fod yn flaenoriaeth i’r adolygiad argymell proses wrthrychol a thryloyw ar gyfer penderfynu ar beth yw cyllid digonol ar gyfer S4C, ar sail cylch gorchwyl newydd.

Mae S4C yn argymell bod yr egwyddorion cyllido a gynigiwyd gan yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd yn cael eu mabwysiadu mewn perthynas ag S4C, sef:

  • sefydlog a digonol
  • annibynnol o ymyrraeth wleidyddol
  • teg a gellir ei gyfiawnhau
  • tryloyw ac atebol.

Dylai’r broses ar gyfer diffinio anghenion cyllido cyffredinol S4C gynnwys ystyriaeth o’r ffactorau canlynol hefyd:

  1. Disgwyliadau’r gynulleidfa
  2. Argaeledd cynnwys Cymraeg ar lwyfannau’r cyfryngau
  3. Costau cymharol creu cynnwys a chaffael hawliau
  4. Effeithlonrwydd S4C ei hun
  5. Egwyddor o berthynas gyfatebol gyda ffi’r drwydded
  6. Chwyddiant a phwysau costau eraill

Ffynonellau Cymorth Priodol

Dylai newid mewn cylch gorchwyl i ddod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus (yn cynnwys ein statws DGC presennol) annog y rheiny sy’n gysylltiedig â’r adolygiad i edrych yn fwy eang ynglŷn ag o ble y gallai’r buddsoddiad ychwanegol hwn ddod.

Rydym yn awyddus i gael y cyfle i godi mwy o arian o’n gweithgareddau ein hunain, ond asgwrn cefn ein gwasanaeth cyhoeddus fydd cyllid o ffynhonnell gyhoeddus.

Rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y cyfraniad o ffi’r drwydded tuag at gyllid S4C yn gweithio’n dda – gan gydweithio gyda’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’r BBC i sefydlu prosesau cadarn ac atebolrwydd priodol. Bydd S4C yn parhau i gael mynediad effeithiol i’r ffynhonnell gyllid bwysig hon, a chynnal ein hannibyniaeth ar yr un pryd.

Gyda chyllid ffi’r drwydded yn cael ei sianelu drwy’r BBC, mae cynnal cyswllt ariannu gyda Llywodraeth y DU, drwy’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, wedi bod yn hanfodol i ni barhau i fod yn annibynnol ac i’n galluogi i gyflawni ein cylch gorchwyl Cymraeg.

Mae cael amryw ffynonellau cyllid yn parhau’n fuddiol ac yn egwyddor i’w diogelu i’r dyfodol. Rhaid i unrhyw opsiynau ariannu yn y dyfodol gynnal statws S4C fel darparwr cynnwys annibynnol, diduedd, y gellir ymddiried ynddo.

Pennod 4: Atebolrwydd, Llywodraethu a Rheoleiddio

Yn y bennod hon, nid ydym yn rhoi barn gorfforaethol bendant gerbron ynghylch y strwythurau atebolrwydd, llywodraethu a rheoleiddio gorau ar gyfer y dyfodol. Yn hytrach, rydym yn rhestru’r elfennau y credwn eu bod yn hollbwysig i gefnogi uchelgais S4C ar gyfer y dyfodol, a’i rôl ym mywydau pobl Cymru, y DU a ledled y byd.

Mae S4C yn awgrymu bod yr elfennau hyn fel a ganlyn:

  • Bod S4C yn bodoli fel sefydliad annibynnol i ddarparu gwasanaethau teledu a’r cyfryngau yn y Gymraeg a chydweithio gydag ystod eang o bartneriaid yn y diwydiant cynnwys.
  • Dylai S4C gael cylch gorchwyl diwygiedig, a ddylai gynnwys y ddyletswydd benodol o ddarparu teledu a gwasanaethau cyfryngau Cymraeg i’r gynulleidfa ledled y DU, ac yn darparu’r gallu i ni addasu a datblygu ein gwasanaethau wrth i dechnoleg ac anghenion defnyddwyr ddatblygu.
  • Bod S4C yn cael ei ariannu drwy gyllid cyhoeddus yn bennaf ond gall ymgymryd â gweithgareddau masnachol drwy is-gwmnïau na allant, fodd bynnag, ddefnyddio cyllid cyhoeddus.
  • Bod S4C yn gallu arfer ei bwerau i fenthyg cyllid at ddibenion penodedig o fewn terfynau a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol a Changhellor y Trysorlys.
  • Bod y prosesau a ddefnyddir gan S4C i gyfrif am ei ddefnydd o gyllid cyhoeddus ac am gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
  • Bod y prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau ynglŷn â beth yw cyllid digonol i S4C gyflawni ei gylch gorchwyl yn briodol a chlir.
  • Bod atebolrwydd i Ofcom ar gyfer y rhan fwyaf o faterion rheoleiddio (ac eithrio ar gyfer rhai pynciau penodol, megis canllawiau a pholisïau iaith) yn cael ei gadarnhau.
  • Dylai aelodau anweithredol, sy’n cyflawni ystod eang o feini prawf yn ymwneud â’r cylch gorchwyl newydd, gynrychioli mwyafrif clir y corff llywodraethol neu Fwrdd.
  • Dylid penodi’r aelodau anweithredol drwy broses penodiadau cyhoeddus dryloyw.
  • Dylai’r Prif Weithredwr gael ei benodi gan aelodau anweithredol y Bwrdd.
  • Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am sicrhau trefniadau llywodraethu corfforaethol priodol, o ansawdd uchel, yn unol ag arfer gorau’r DU.
  • Dylai’r Bwrdd fod yn gyfrifol am weithredu proses briodol ar gyfer gwerthuso ac adrodd ar berfformiad gwasanaethau wedi’i fesur yn erbyn amcanion.
Camera Man

Gair i Gloi

Yn S4C: Gwthio’r Ffiniau, rydym wedi amlinellu gweledigaeth y gellir ei gwireddu ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Er mwyn gwireddu’r weledigaeth, mae angen y canlynol ar S4C:

  • Cytundeb ei bod yn iawn i S4C fod eisiau bod yn ddarparwr Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn y Gymraeg ac nid yn ddarlledwr yn unig;
  • Cydnabyddiaeth o’r hyn y mae hynny’n ei olygu, a’r buddion all ddeillio o hynny;
  • Proses ar gyfer diffinio’r gofyniad cyllido

Edrychwn ymlaen at gymryd rhan yn y drafodaeth gyhoeddus y gobeithiwn y bydd yr adolygiad hwn, a’r weledigaeth hon ar gyfer dyfodol S4C, yn ei hysgogi.