Darlledwyd y gyfres Noson Lawen gyntaf ar S4C yn 1982, ac ers hynny, mae wedi profi i fod yn gyson boblogaidd gyda gwylwyr o bob oed. Gallwch ddisgrifio'r gymysgedd o eitemau wythnosol, yn cynnwys cantorion, corau, cerddorion, comediwyr a sgetsys yn sioe adloniant draddodiadol. Gan dalu teyrnged i'w gwreiddiau gwledig yng Nghymru'r gorffennol, mi roedd cynulleidfaoedd y Noson Lawen ar y dechrau yn eistedd ar bêls gwair, gyda'r perfformwyr wedi eu gosod ar drelar fferm.
Dros y blynyddoedd, mae golwg a ffurf y gyfres wedi newid. Mae'r gynulleidfa heddiw yn eistedd ar seddau cyffyrddus, mae'r setiau yn gyfoes ond mae calon y gyfres yn parhau i guro'n gadarn. Mae'r gyfres yn cael ei recordio mewn canolfannau led-led Cymru ac mae wedi cynnig llwyfan cynnar i rai o dalentau mwyaf Cymru gan gynnwys y cantorion Bryn Terfel, Connie Fisher a Katherine Jenkins.
Y band gwerin o Sir Gâr, Baldande sy'n perfformio 'Elen tyrd yn ôl', un o'r ffefrynnau traddodiadol poblogaidd.
Côr Lleisiau'r Cwm o Lanaman sy'n perfformio 'Yn y bore,' un o ganeuon eu harwr lleol, Ryan Davies.
Yr amryddawn Gillian Elisa sy'n rhoi perfformiad egnïol o'r gân 'Weli Di' i gynulleidfa wresog y Noson Lawen.
Gwilym Rhys Williams, sydd wedi bod yn cyfansoddi ers roedd o'n saith mlwydd oed, sy'n perfformio un o'i ganeuon, 'Cadw ati' ar lwyfan y Noson Lawen.
Gyda chymorth band y Noson Lawen, Owain Williams sy'n rhoi perfformiad llawn egni o 'Dawnsio gyda'r diafol', cân a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan y grŵp Halo Cariad.
Yn wreiddiol o Idole ger Caerfyrddin, ond bellach yn byw yn y Bontfaen, Rhian Roberts sy'n ymuno â band y Noson Lawen i berfformio 'Dal y freuddwyd', un o ganeuon hyfryd Robat Arwyn.
Y tenor Wynne Evans a Lleisiau'r Cwm sy'n morio un o anthemau mawr Dafydd Iwan, 'Yma o hyd' i gloi Noson Lawen Sir Gâr.
Y tenor a llais cyfarwydd i wrandawyr 'Radio Wales', Wynne Evans sy'n rhoi dehongliad hyfryd o'r alaw werin 'Suo gân' gyda Nerys Richards ar y delyn.