Mae Anna wedi cyrraedd pen ei thennyn. Mae hi mewn trafferthion mawr ac wyr hi ddim beth i'w wneud. Mae ganddi gymaint o gywilydd fel nad yw'n gallu wynebu ei ffrindiau a thrafod efo nhw hyd yn oed. Pan mae Mair, Beca ac Ioan yn dod i ddeall beth mae hi'n bwriadu ei wneud, does ganddyn nhw ddim dewis ond mynd i ddweud wrth Elen. Mae Elen yn cael sioc enfawr. Wyddai hi ddim o gwbl am berthynas Anna a Miles, ac mae hi'n poeni bod ei merch yn bwriadu gwneud rhywbeth gwirion. Gobeithio bydd hi'n dod