Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Mae Cadi a'r dreigiau yn mynd i weld eu hoff raglen yn cael ei ffilmio.
Sut mae Anni'n bwriadu cael gwared ar y bananas ych a fi mae Mam-Gu wedi roi yn ei bocs bwyd' Beth bynnag y datrysiad, mi fydd yna annibendod ymhobman!
Anturiaethau Guto Gwningen a'i ffrindiau.
Mae Harri'n cael galwad gan Matilda yng ngorsaf yr heddlu - mae drws y cwpwrdd yn sownd, ac iwnifform heddwas Jono yn y cwpwrdd.
Ar ddamwain, mae JAC DO'n torri fâs SALI MALI wrth chwarae pêl-droed yn y tŷ. Mae'n cwbwlhau jig-so gyda'i ffrindiau ac maent yn defnyddio'r sgil newydd hon i drwsio'r fâs sydd wedi torri.
Mae gan Pablo ei ffordd ei hun o weld y byd, ond pan mae o eisiau edrych o gwmpas y siop degannau, mae'r tegannau i gyd yn hwylio i fynd i'r gwely am fod y siop ar fîn cau.
Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.
Tydi Jetboi na Jetferch ddim yn cymryd hen jet eu rhieni o ddifri', nes i Peredur Plagus greu helynt gyda'i ddyfais clogyn newydd - dim ond yr hen jet all ei rwystro.
Timau o Ysgol Bronllwyn sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau llwigar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'
Jack, Leah, Lloyd, Jed a Cadi sy' yn stiwdio Stwnsh Sadwrn gyda llond lle o gemau, LOL-ian ac ambell pei Stwnsh!
Cyfres newydd llawn hwyl yn dilyn anturiaethau direidus dau frawd hoffus a lliwgar, Luigi a Louie Donioli, a'u nith fach, Liwsi.
Mae Cornea yn gwahodd Lloyd a'i deulu i ginio ond ni allant stumogi coginio unigryw Cornea a mabwysiadu cyfres o ffyrdd rhyfedd o geisio osgoi bwyta'r bwyd heb dramgwyddo eu gwesteiwr.
Cyfres chwaraeon i blant gyda Heledd Anna a Lloyd Lewis. Y tro yma, criced a thenis. Chwaraewyr Morgannwg sy'n profi cyflymder eu bowlio, y seren tenis ifanc Seb Griffiths yn dangos ei sgiliau, adolygu gajets criced, a thîm criced Rhydaman yw'r Sgwad.
Yn y bennod hon bydd ffoaduriaid o'r Wcrain yn diolch i staff Gwersyll yr Urdd Llangrannog am eu holl gymorth wrth iddynt ymgartrefu yng Nghymru dros dro.
Olive ac Elin, mam-gu ac wyres sy'n cael help Cadi ac Owain yn y stiwdio steilio heddi. Mae'r ddeuawd ddynamig o Rydaman yn chwilio am wisgoedd sydd yn wahanol i'r hyn ma' nhw fel arfer yn gwisgo, a rhai sydd gyda'r 'waw ffactor' ar gyfer mynd i briodas deuluol.
Geraint Hardy sydd yn 'Codi Pac' ac yn ymlwybro o gwmpas Cymru, a thref lan môr Dinbych-y-Pysgod sy'n serennu yr wythnos hon.
Boed yn yr ardd neu ar blât, mae'r gogydd patisserie Richard Holt yn deall gwerth arddangosfa drawiadol. Mae o wedi dod a'r pobyddion i ardd Bodnant yn Nyffryn Conwy i osod y sialens felys nesa. Ar ol i'r pum pobydd gael amser i grwydro o amgylch yr ardd hynafol, byddant yn mynd ati i greu cacen yr un gyda blodau a natur yn thema. Ond mae 'na dasg dechnegol i'w chwblhau hefyd, cwblhau cacen flodau arbennig Richard.
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar Yodlo hefo Ieuan Jones, yn Ceufadu ar yr afon Tâf yng ngwmni Rhys Pinner, ac yn my
Ymunwch â chriw rygbi S4C yn Stadiwm Principality ar gyfer Rownd Terfynol Cwpan Adran 1 rhwng Caernarfon a Chlwb Athletig Pen-y-bont. Mae'r gic gyntaf am 13:00.
Darllediad byw o rownd derfynol Cwpan y Bencampwriaeth. Blwyddyn ar ôl ennill Cwpan Adran 1, mae Crwydriaid Llanelli yn ôl yn y Stadiwm Principality i herio Tondu. Mae'r gic gyntaf am 15:15.
Darllediad byw o rownd derfynol Cwpan yr Uwch Gynghrair rhwng dau o dimau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Enillodd Pontypridd diwethaf yn 2016, tra mae rhaid mynd nôl i 2012 ers i Cross Keys codi'r tlws. Pwy fydd yn mynd a hi heddiw' Y gic gyntaf am 17:35.
Yn y bennod hon aiff Eifion â ni ar daith i Lyn y Fan Fach, cyn i Alys fynd â ni ar hyd llwybr yr arfordir i Langrannog. Cei Newydd, yn ei milltir sgwar, yw dewis Meriel, a bydd Gareth yn arwain y criw ar ddringfa i ben Moel Eilio yn Eryri.
Mae Bronwen Lewis a Rhys Meirion yn rhoi cyfle i un person lwcus sydd wedi enwebu eu hunain, neu wedi cael eu henwebu gan rhywun arall fel sypreis llwyr, i gwrdd a pherfformio gyda'i harwr cerddorol. Yr arwr dan sylw y tro hwn yw 'H' o'r grŵp poblogaidd o'r 90au - Steps.
Cyfle i weld gêm Cwpan Her EPCR a chwaraewyd yn gynharach heno rhwng Connacht a Rygbi Caerdydd yn Stadiwm Dexcom.