Hyd: 1 awr
Pellter: 2.2 milltir / 3.5 km
Dechrau: SH 795 618
Diwedd: SH 797 614
Parcio: Maes Parcio Glasdir, Plas yn Dre, Llanrwst LL26 0DF
Er nid yw'r daith yma'n gylch, mae'r daith yn gorffen digon agos i ddechrau'r daith. Wrth sefyll yn y maes parcio, cerddwch tuag at yr afon ac fe welwch lwybr ger yr afon. Trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr gyda'r afon ar eich ochor dde. Byddwch yn cyrraedd Pont Fawr Llanrwst (A). Croeswch y bont a trowch yn syth i'r chwith gan groesi'r parc i fynd at Feini'r Orsedd (B).
Ail-ymunwch â'r llwybr ar hyd yr Afon Conwy, heibio'r caeau chwarae, am tua 700 metr. Trowch i'r dde ar ôl tua 700 metr a chroeswch y caeau cyn dod allan ar yr heol. Trowch i'r dde a cherddwch yn ofalus ar hyd ochor yr heol ac fe welwch fynediad i Goedwig Gwydyr Uchaf (C).
Dilynwch y llwybr i'r dde i fyny drwy'r goedwig am 400 metr ac fe gewch olygfa ar draws Dyffryn Conwy. Trowch nôl ar eich hun am 200 metr a trowch i'r chwith i fynd lawr at Gapel Gwydir Uchaf (Ch). Ar ôl ymweld â'r capel, cerddwch lawr i'r heol a trowch i'r chwith, heibio Castell Gwydir ac yna trowch i'r dde nôl tuag at Llanrwst. Cyn cyrraedd y bont (A), trowch lawr i'r chwith at lannau'r Afon Conwy, at Tu Hwnt i'r Bont (D). Dyma derfyn y daith. I gerdded nôl at y maes parcio, croeswch y bont a trowch i'r chwith i ddilyn y llwybr ger yr afon.
a) Pont Fawr Llanrwst
Cyfeirnod Grid: SH 798 615
Mae'r bont yn rhy gul i gerbyd fynd heibio'i gilydd. Mae hwn yn esbonio'r llysenw lleol, Pont y Rhegi.
b) Meini'r Orsedd
Cyfeirnod Grid: SH 798 613
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cael ei chynnal yn Llanrwst tair gwaith, 2019, 1989 a 1951.
C) Coedwig Gwydyr Uchaf
Cyfeirnod Grid: SH 796 606
Mae'r coedwig o dan ofal Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn ymestyn ar draws 72.5 cilometr sgwar o dir. Cafodd ei henw o stâd hynafol Gwydir.
Ch) Capel Gwydir Uchaf
Cyfeirnod Grid: SH 794 609
Pan oedd perchennog Castell Gwydir eisiau man addoli iddo ei hun, adeiladodd gapel preifat. Y perchennog dan sylw oedd Syr Richard Wynn, aelod o deulu dylanwadol Wynn.
d)Tu Hwnt i'r Bont
Cyfeirnod Grid: SH 797 614
Mae'n adeilad rhestredig gradd II o'r 15fed ganrif. Yn wreiddiol, roedd yn dŷ ffarm, ond nawr gallwch fynd am baned gan ei fod yn dŷ te poblogaidd.