Hyd: 1 awr 20 munud
Pellter: 3 milltir / 5 cilometr
Dechrau: SN 196 430
Diwedd: SN 177 459
Parcio: Mae yna faes parcio ger ddechrau'r daith; Maes Parcio Cilgerran Isaf, Rhiw-Dol-Badau, Aberteifi, SA43 2SL, a hefyd ger ddiwedd y daith; Maes Parcio Stryd y Cei, Aberteifi, SA43 3AX
Mae'r daith yn dechrau ger Castell Cilgerran (A). Yn y rhaglen, mae'r pedwar yn teithio ar hyd yr afon Teifi mewn canŵ, ond mae'n opsiwn i gerdded ar y llwybr cyhoeddus ar hyd glannau'r afon hefyd. Gyda'r castell tu ôl i chi, a'r Afon Teifi ar eich dde, cerddwch i ffwrdd o'r castell tuag at y gogledd orllewin, neu tuag at gyfeiriad y môr.
Croeswch Afon Plysgog, a dilynwch y llwybr ar hyd yr Afon Teifi (B) am ryw 1.5 milltir. Dilynwch y llwybr, fydd yn troi i'r chwith ac yn cerdded drwy Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru (C).
Byddwch yn cyrraedd maes parcio, ewch trwy'r maes parcio a throwch i'r dde i ymuno â'r llwybr beicio. Parhewch i gerdded ar draws Corsydd Teifi, a byddwch yn ail-ymuno â'r Afon Teifi (B) ar eich dde. Parhewch i gerdded a byddwch yn dod allan ar Stryd y Castell. Trowch i'r dde a chroeswch yr hen bont i Aberteifi.
Ar ôl croesi'r bont, trowch i'r chwith a cherddwch lan at fynedfa'r Castell ar eich dde. Ewch fewn i Gastell Aberteifi (Ch), dyma derfyn y daith.
a) Castell Cilgerran
Cyfeirnod Grid: SN 196 430
Credwyd fod mwyafrif o ochor ogleddol y castell wedi cael ei ddinistio yn ystod y Rhyfel Cartef, pan ymosododd seneddwyr lleol ar y brenhinwyr a garsiwn tu fewn.
b) Afon Teifi
Cyfeirnod Grid: SN 192 436
Mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin am fwyafrif o'i hyd, gyda'r tair milltir olaf yn ffurfio'r fin rhwng Ceredigion a Sir Benfro.
c) Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru
Cyfeirnod Grid: SN 189 451
Mae'r Canolfan Bywyd Gwyllt wedi lleoli ar draws Gwarchodfa Natur 264 erw sy'n lledaenu ar draws Corsydd Teifi. Cafwyd ei sefydlu ym 1993 ac yn denu dros 80,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Ch) Castell Aberteifi
Cyfeirnod Grid: SN 177 459
Dyma leoliad yr Eisteddfod Genedlaethol cyntaf. Ym 1176, fe wnaeth yr Arglwydd Rhys gwahodd beirdd a cherddorion o ar draws Cymru i ymgynnull yn ei Gastell.