Hyd: 1 awr 50 munud
Pellter: 3.25 milltir / 5.2 cilometr
Dechrau: SH 374 936
Diwedd: SH 401 945
Parcio: Mae yna nifer o feysydd parcio ger dechrau'r daith ym Mae Cemaes.
Mae'r daith yma'n dilyn y llwybr arfordirol o Gemaes i Waith Brics Porth Wen. Does yna ddim maes parcio ger diwedd y daith felly'r peth orau yw cerdded nôl i'r dechrau. Byddwch yn dechrau ger Cloch Padrig (A) ar draeth Cemaes, ac yna cerdded tua'r dwyrain. Os yw'r llanw'n uchel, gallwch gerdded ar hyd y llwybr uwchben y traeth.
Cerddwch drwy'r maes parcio, ac yn syth ar ôl dod allan o'r maes parcio, trowch i'r chwith i ymuno â'r llwybr arfordirol. Parhewch i ddilyn y llwybr, ac wrth i chi gyrraedd Porth Padrig, cerddwch ar y llwybr syth o'ch blaen yn hytrach 'na throi i'r chwith. Byddwch yn cyrraedd yr heol, trowch i'r chwith a cherddwch ar yr heol tan eich bod yn cyrraedd Eglwys Llanbadrig (B).
Ar ôl ymweld â'r eglwys, parhewch i'r dwyrain ar y llwybr arfordir. Wrth gerdded o'r eglwys, edrychwch i'r gogledd ac fe welwch Ynys Padrig (C). Parhewch i gerdded am tua milltir a byddwch yn cyrraedd Llanlleiana (Ch). O fan hyn, ail-ymunwch â'r llwybr arfordirol, ar draws pentir Llanlleiana.
Parhewch ar y llwybr serth yma am tua milltir, a cyn cyrraedd Porth Wen, trowch lawr i'r chwith at Waith Brics Porth Wen (D). Dyma derfyn y daith. Gallwch ddilyn yr un llwybr nôl at ddechrau'r daith.
a) Cloch Padrig
Cyfeirnod Grid: SH 373 936
Dyluniwyd y gloch amser a llanw yma gan Marcus Vergette a chafwyd ei osod yn 2014. Mae'r gloch yn canu wrth i'r llanw ddod i mewn, sy'n achosi'r dŵr i symud y pendil.
b) Eglwys Llanbadrig
Cyfeirnod Grid: SH 375 946
Dywed fod Eglwys Llanbadrig wedi ei sefydlu yn 440 OC can Saint Padrig, a dyma'r eglwys hynnaf yng Nghymru. Defnyddiwyd fel un o lleoliadau'r ffilm 'Half Light'.
c) Ynys Padrig
Cyfeirnod Grid: SH 381 959
Ynys mwya Gogleddol Cymru. Yn ôl y chwedl, cafodd Padrig ei ddryllio ger yr ynys wrth deithio o Iona i Iwerddon, ac yna nofio i gael lloches mewn ogof yn y clogwyni.
Ch) Llanlleiana
Cyfeirnod Grid: SH 387 950
Gallwch weld adfeilion hen weithfeydd Porslen yma, prif adeilad a simnai ar ben ei hun. Caewyd y gweithfeydd ym 1920 ar ôl i'r adeilad cael ei difrodi gan dân.
D) Gwaith Brics Porthwen
Cyfeirnod Grid: SH 401 946
Mae Gwaith Frics Porthwen nawr yn weithfeydd Fictorianaidd segur. Roeddwn yn cynhyrchu brics a grëwyd o gwartsit, oedd yn cael ei ddefnyddio i leinio ffwrnesi oedd yn creu dur.