Hyd: 2 awr
Pellter: 4 milltir / 6.4 cilometr
Dechrau: SH 631 664
Diwedd: SH 626 660
Parcio: Does yna ddim maes parcio swyddogol ar ddechrau'r daith ond digon o lefydd ar gael. Stryd y Ffynon, Gerlan, Bethesda, LL57 3TW
Mae'r daith yn dechrau ar Stryd y Ffynnon, Gerlan, Bethesda, LL57 3TW. Cerddwch at waelod y stryd a pharhewch ar y llwybr cyhoeddus i ddod allan ar Stryd Abercaseg. Trowch i'r chwith a chroeswch Afon Caseg. Cymerwch y chwith cyntaf lawr Nant Graen ac yna i'r dde i gerdded ar y llwybr trwy Goedwig Braichmelyn (A).
Dilynwch y llwybr i'r dde i gadw ar ochor Orllewinol y goedwig. Byddwch yn cyrraedd croesffordd, trowch i'r dde a byddwch yn dod allan ar yr A5. Croeswch yr heol yn ofalus i gerdded ar y palmant, trowch i'r chwith a cherddwch am dros 300 metr. Trowch lawr i'r dde, gan ddilyn yr arwydd llwybr droed. Parhewch ar draws yr Afon Ogwen, at gyfeiriad y De ar draws y caeau. Byddwch yn dod allan ar lôn gefn, trowch i'r dde a cherddwch ar hyd y lôn. Wrth gerdded ar y lôn yma, edrychwch tuag at y De a welwch Nant Ffrancon (B).
Ar ôl tua 700 medr, fe welwch gât i'ch dde. Ewch drwy'r gât a cherddwch ar y Ffordd Rufeinig (C) tua'r Gogledd.
Parhewch i gerdded yr holl ffordd nôl i Fethesda ar y Ffordd Rufeinig. Byddwch yn gweld Chwarel Penrhyn (Ch) ar eich chwith.
Byddwch yn dod allan ar yr heol sy'n mynd fewn i'r chwarel, o fan hyn, dilynwch arwyddion y llwybr cyhoeddus i gyrraedd diwedd y daith ar y B4409.
I gyrraedd nôl i'r ceir ar ddechrau'r daith, trowch i'r dde ar ôl dod allan o'r goedwig, ac yna syth ar draws ar y groesffordd i gerdded ar hyd Braichmelyn. Yn syth ar ôl croesi'r bont ar Stryd Abercaseg, trowch i'r dde i gerdded nôl at Stryd y Ffynnon ar y llwybr.
Cyfeirnod Grid: SH 631 638
Mae Nant Ffrancon wedi cael ei ddefnyddio'n amal fel lleoliad ffilm, gan gynnwys dwblu lan fel 'Khyber Pass' ar gyfer y ffilm 'Carry on up the Khyber,' a hefyd fel yr Himalayas yn Doctor Who.
C) Ffordd Rufeinig
Cyfeirnod Grid: SH 630 637
Adeiladwyd gan Richard Pennant, Yr Arglwydd Penrhyn, i gludo'i westeion i fyny'r cwm mewn cerbydau i weld golygfeydd Cwm Idwal ac yna ymlaen at Gapel Curig.
CH) Chwarel Penrhyn
Cyfeirnod Grid: SH 624 654
Ar ddiwedd y 19eg Ganrif, dyma oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd. Mae nawr yn gartref i'r llinell sip gyflymaf yn y byd.