Hyd: 1 awr
Pellter: 2 milltir / 3.2 cilometr
Dechrau: SN 302 114
Parcio: Mae yna faes parcio ger ddechrau'r daith: Saint Martin's Church, Laugharne, Carmarthen SA33 4QD. Y maes parcio agosaf i'r diwedd yw ger y Castell: Grist Square, Carmarthen SA33 4SS
Mae'r daith yn dechrau ger eglwys Saint Martin. Os ewch fewn i'r fynwent, gallwch ymweld â bedd Dylan Thomas (A). Gyda'r eglwys tu ôl i chi, cerddwch ar y llwybr cyhoeddus trwy'r goedwig am tua 500 metr lawr tuag at yr arfordir. Byddwch yn dod allan ar yr arfordir, trowch i'r chwith a cherddwch ar y llwybr arfordir am tua 300 metr. Byddwch yn cyrraedd Sied Ysgrifennu Dylan Thomas (B). O'r sied, cerddwch lawr y grisiau tuag at yr arfordir, a byddwch yn dod ar draws y Cwt Cychod (C).
Trowch nôl ar eich hun a cherddwch heibio'r Sied Ysgrifennu ar eich chwith, tuag at Talacharn. Parhewch ar y llwybr arfordir a fyddwch yn cyrraedd Castell Talacharn (Ch) ar eich dde.
Ar ôl ymweld â'r castell, parhewch i gerdded yn yr un cyfeiriad ar y llwybr arfordir am tua chilometr. Cyn i'r llwybr droi i'r dde, dyma le fydd y daith yn gorffen. I gyrraedd nôl i'r maes parcio ar ddechrau'r daith, cerddwch nôl tuag at Dalacharn, a throwch ger y castell i gerdded drwy brif stryd Talacharn. Fe welwch y maes parcio ar y dde.
A) Bedd Dylan Thomas
Grid Reference: SN 302 114
Claddwyd Dylan Thomas yn mynwent eglwys Saint Martin, gyda'I fedd wedi marcio â chroes gwyn syml.
B) Sied Ysgrifennu
Cyfeirnod Grif: SN 305 109
Dyma le oedd Dylan Thomas yn ysgrifennu. Credwyd mai dyma le gorffennwyd Dan y Wennallt.
C) Cwt Cychod
Cyfeirnod Grid: SN 306 110
Er nid cyfnod cyntaf Dylan Thomas o fyw yn Nhalacharn, y Cwt Cychod oedd cartref mwyaf enwog Dynal o 1949. Mae gan yr adeilad ei hun hanes sy'n ymestyn nol i'r 1800au cynar, ac yn cynnwys popeth o fywyd teulu cyffredinol a pysgotwyr, i smyglwyr a beirdd enwog.
CH) Castell Talacharn
Cyfeirnod Grid: SN 302 107
Mae hanes Talacharn yn ymestyn yn ôl dros naw canrif. Pan godwyd y gaer yn 1116, roedd yn rhan o gadwyn o gestyll arfordirol Normanaidd a ymestynnai o Gas-gwent yn y dwyrain i Benfro yn y gorllewin.