Hyd: 1 awr
Pellter: 2.3 milltir / 3.7 cilometr
Dechrau: SJ 267 382
Diwedd: SJ 286 373
Parcio: Mae yna faes parcio ger ddechrau'r daith: Maes Parcio Castell y Waun, 1 Home Farm Cottages, Chirk, Wrexham LL14 5AE. Mae yna faes parcio ger ddiwedd y daith: Castle Rd, Chirk, Wrexham LL14 5BS.
Mae'r daith yma'n dechrau yn maes parcio Castell y Waun (B). Os edrychwch i'r Gogledd Orllewin, fe fyddwch yn gallu gweld Clawdd Offa (A). Cerddwch tuag at y castell, a gallwch gerdded o gwmpas tir Castell y Waun (B). Ar ochor ddeheuol y castell, ymunwch a'r llwybr gyhoeddus drwy goedwig Parc Ceirw tua'r De Ddwyrain. Wrth ddod allan o'r goedwig, trowch i'r chwith tuag at y dre. Byddwch yn cyrraedd Gatiau Castell y Waun (C).
Gyda'r gatiau tu ôl i chi, cerddwch yn syth tuag at y dre. Ar ôl cerdded heibio'r orsaf drennau ar eich chwith, trowch i'r dde, a cariwch ymlaen yn syth ar y groesffordd a fyddwch yn cyrraedd Traphont Ddŵr Y Waun (Ch), sef ddiwedd y daith.
Gallwch gerdded yr un fford yn ôl at ddechrau'r daith.
A) Clawdd Offa / Offa's Dyke
Cyfeirnod Grid: SJ 261 388
Wrthglawdd mawr yw'r Clawdd Offa sydd yn dilyn y ffin yn fras rhwng Cymru a Lloegr. Dyma'r heneb hynafol hiraf yng Nghymru. Mae'n cymryd 12 diwrnod i'r cerddwr cyffredinol i gerdded hyd y llwybr.
B) Castell y Waun
Cyfeirnod Grid: SJ 268 380
Cafodd y castell ei chwblhau ym 1310 fel rhan o gadwyn caer Edward I ar draws Gogledd Cymru. Mae nawr o dan berchnogaeth a rheolaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
B) Gatiau Castell y Waun
Cyfeirnod Grid: SJ 281 376
Mae'r gatiau haearn godidog wedi'u dyddio o 1719 ac yn dwyn arfbais teulu Myddelton o Gastell y Waun. Gwaith y Brodyr Davies, Robert a John o Croesfoel Forge, ger Bersham, Wrecsam ydyn nhw, ac fe'u codwyd rhwng 1719 a 1721.
CH) Traphont Ddŵr Y Waun
Cyfeirnod Grid: SJ 286 373
Cafodd y draphont ei gwblhau ym 1801 gan William Jessop a Thomas Telford. Mae'n 710 droedfedd o hyd, ac yn cario'r gamlas 70 droedfedd uwchben yr Afon Ceiriog, ar draws 10 bwa crwn.