Hyd: 1 awr 50 munud
Pellter: 3.2 milltir / 5.5 cilometr
Dechrau & Diwedd: SH 601 679
Parcio: Does yna ddim faes parcio swyddogol ger ddechrau'r daith, ond mae 'na ddigon o le i barcio ar yr hewl ger Pant Teg B&B, Tregarth, Bangor LL57 4AU.
Mae'r daith yma'n dechrau ac yn gorffen yn yr un lle. Dechreuwch y daith o du allan i Bant Teg B&B, Tregarth, Bangor LL57 4AU. O fan hyn, trowch i'r chwith a cherddwch am 150 metr. Ar eich chwith, fe welwch droad i'r llwybr beicio, trowch lawr fan hyn a cherddwch ar y llwybr am ychydig o dan 400 metr. Trowch i'r chwith cyntaf i ddilyn y llwybr droed, a dilynwch o gwmpas yr Ardd Gylch (A). Byddwch wedyn yn dod allan ger Ffarm y Pandy, a'r hen Bandy (B), trowch i'r chwith i ddilyn y llwybr droed.
Pan mae'r ffordd yn rhannu, cadwch i'r dde heibio ffarm Ty'n y Caeau, a tuag at goedwig Parc y Bwlch (C). Dilynwch y llwybrau drwy'r goedwig i ddringo tua'r De Ddwyrain. Byddwch yna'n cyrraedd copa Moelyci (Ch).
O fan hyn, cerddwch nôl drwy'r goedwig, heibio ffarm Bwlchdefeity ac yna ffarm Waen Hir Uchaf. Ar ôl croesi'r caeau, trowch i'r chwith ar y groesffordd a byddwch yn ffeindio'ch hun nôl ger ffarm Ty'n y Caeau. Trowch i'r dde a dilynwch yr un ffordd a aethoch ar ddechrau'r daith, nôl at bentre' Tregarth.
a) Yr Ardd Gylch
Cyfeirnod Grid: SH 597 677
Mae'r ardd yma'n berffaith gylch er mwyn i'r ffarmwr allu cylchdroi a thyfu pethau mewn gwahanol rhannu bob blwyddyn.
b) Pandy
Cyfeirnod Grid: SH 599 676
Mae'r fferm leol wedi ei enwi ar ôl yr hen Pandy oedd yn yr ardal, oedd yn dyddio nôl i'r 18eg ganrif. Roess hwn yn broses orffenedig wrth gynhyrchu brethyn, lle oedd y brethyn yn cael ei lanhau, tewychu, a'i sythu.
c) Coedwig Parc y Bwlch
Cyfeirnod Grid: SH 591 666
Mae'n goetir poblogaidd gyda'r beicwyr mynydd, gyda nifer o dreiliau gwahanol. Mae'r goedwig o dan gofal Cyfoeth Naturiol Cymru ac yn hwb i amryw o fywyd gwyllt.
Ch) Moelyci
Cyfeirnod Grid: SH 591 658
Mae sawl damcaniaeth ar sut i ynganu Moelyci gyda 'Moel-yci' yn boblogaidd. Mae'n bosib ei fod yn tarddu o'r enw Moel Lleucu, ond yn ôl rhai bobl lleol "Moel-y-ci" yw'r ynganiad cywir.