Hyd: 40 munud
Pellter: 1.9 milltir / 3 cilometr
Dechrau: ST 109 941
Diwedd: ST 116 962
Parcio: Gallwch barcio ar ddechrau'r daith, tu ôl I dafarn y Llanfabon Inn, Llanfabon Road, Nelson, Treharris CF46 6PG, ond bydd angen gofyn caniatad y dafarn. Gallwch barcio ar ddiwedd y daith, Llancaiach Fawr, Trelewis, Nelson, Treharris CF46 6ER
Mae'r daith yma yn un syth. Mae'n dechrau tu allan i Eglwys Sant Fabon ym mhentre' Llanfabon. Ewch mewn i Fynwent Llanfabon (A), sydd gyferbyn â'r eglwys. Dewch allan o brif fynedfa'r fynwent, a throwch i'r dde. Cadwch yr eglwys ar eich chwith a dilynwch Heol Tŷ Du o gwmpas i'r chwith. Dilynwch yr heol am ychydig o dan 400 medr, a byddwch yn cyrraedd adeiladau fferm Bryntaldwyn ar y dde. Trowch bant o'r heol ar yr ochr chwith i ddilyn y llwybr droed ar draws y caeau.
Cadwch i'r chwith pan mae'r llwybr yn rhannu'n ddau, a fyddwch yn dod allan ar yr heol. Trowch i'r chwith a cherddwch ar yr heol am tua 100 medr, fe welwch gât ar y chwith, dyma fynedfa Ffermdy Berth Gron (B). Parhewch ar yr heol, a dilynwch wrth iddo droi i'r chwith, heibio Gylwern a Tŷ-Du. Byddwch yn dod allan ar Heol Fawr yn Ffôs-y-Gerddinen (C). Trowch i'r chwith a cherddwch tuag at ganol y pentre'.
Byddwch yn cyrraedd cylchfan, ewch syth ar draws i gerdded lawr Commercial Street.
Trowch i'r dde cyn y cwrt Pêl-law, a dilynwch y llwybr yma i groesi'r rheilffordd yn ofalus. Parhewch ar y llwybr droed a byddwch yn cyrraedd ffarm Llancaiach Isaf. Trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr droed yr holl ffordd o gwmpas at Lancaiach Fawr (Ch) lle fydd y daith gerdded yn gorffen.
a) Mynwent Llanfabon
Cyfeirnod Grid: ST 108 938
Yn 1894 roedd ffrwydrad erchyll mewn pwll lo yng Nghilfynydd, a fu farw 290 dyn yn y ffrwydrad yma. Mae yna gofgolofn arbennig yn y fynwent yma i gofio am 11 o'r dynion wnaeth farw'r diwrnod yna.
b) Ffermdy Berth Gron
Grid Reference: ST 110 945
Mae yna hen chwedl am Ffermdy Berth Gron. Dywed fod yna wraig weddw a'i mab, Pryderi yn byw yna. Pan wnaeth Pryderi droi'n dair oed, fe wnaeth droi'n grimbil. Fe aeth y fam a'i mab at hen ŵr doeth oedd yn byw yn Llanfabon. Dywedodd wrthi am ffeindio iâr ddu ac i losgi'r plu, felly fe wnaeth a daeth ei mab nôl i normalrwydd. Yr unig beth oedd Pryderi'n ei gofio oedd dawnsio gyda'r tylwyth teg a gwrando ar gerddoriaeth.
c) Ffôs-y-Gerddinen
Cyfeirnod Grid: ST 114 952
Ffôs-y-Gerddinen yw'r enw gwreiddiol, Cymraeg am bentref Nelson. Yn aml ystyr yr enw hwn yw ffôs neu ffoôs o'r Coed Criafol ond cyfieithodd Thomas Morgan ef fel "Mountain Ash Bog".
Ch) Llancaiach Fawr
Cyfeirnod Grid: ST 116 962
Cafodd y Plasdy ei adeiladu ar gyfer y teulu Pritchard ap Richard. Heddiw, mae'n un o'r 10 lle mwyaf arswydus yn y DU.