Enw: Cilfynydd
Dechrau: Bocs Pwdin, 15 Heol Cilfynydd, Cilfynydd, Pontypridd CF37 4NN
Diwedd: Gwesty Neuadd Llechwen, Llanfabon, Nelson, Pontypridd CF37 4HP
Pellter: 3 milltir
Hyd: Awr a hanner
Mae'r daith yma'n cychwyn tu allan i'r caffi lleol, y Bocs Pwdin, lle gallwch fwynhau danteithion di-ri. O fan hyn, trowch i'r dde a cherddwch lawr Heol Cilfynydd. Mi fyddwch yn cyrraedd Pileri Cilfynydd (A) ar y dde. Cymerwch foment i edrych nôl ar draws hen safle Glofa Albion (B).
Gyda'r Pileri ar eich dde, trowch i'r dde er mwyn dilyn Heol Genedlaethol (National Road). Parhewch am tua hanner milltir, a cymerwch y lon ar y chwith i gerdded i fyny i'r tŷ. Parhewch ar y lôn yma ac mi fyddwch yn cyrraedd brig Tomen Cilfynydd (C). Parhewch ar hyd y domen ar y llwybr droed gan gymryd fewn yr holl olygfeydd ar draws y dyffryn.
Mi fydd y llwybr yn mynd a chi o gwmpas i'r dde, a fyddwch yn cyrraedd Ffarm Cefn-y-Garth. Ymunwch â'r lôn i'r ffarm, Heol Cefn y Garth a fyddwch yn dod allan ar Heol Llechwen. Trowch i'r chwith fan hyn, ac yna'r dde cyntaf i Westy Neuadd Llechwen (Ch) lle mae'r daith yn gorffen.
A. Pileri Cilfynydd
Dadorchuddiwyd y gofeb rhyfel hon ym 1925 ac fe'i cynlluniwyd gan gyn-filwr clwyfedig. Mae'r 3 colofn yn cynrychioli'r Fyddin, y Llynges a'r Corfflu Hedfan.
B. Safle Glofa Albion
Suddwyd Glofa Albion ym 1884 ar safle Fferm Ynyscaedudwg. Agorodd y pwll yn swyddogol ym mis Awst 1887.
C. Tomen Cilfynydd
Ym 1939, ar ôl cyfnod o law trwm digwyddodd llithriad mawr o domen ar Gomin Cilfynydd. Llithrodd tua 710 troedfedd, gan rwystro'r ffordd fawr ac Afon Taf.
C. Cilfynydd Tips
In 1939, after a period of heavy rainfall a large slide of a tip occurred at Cilfynydd Common. It slid around 710 feet, blocking the main road and the River Taff.
Ch. Gwesty Neuadd Llechwen
Wedi ei hadeiladu'n gyntaf yn y 17eg Ganrif fel cartref teulu, mae Neuadd Llechwen nawr yn westy moethus a lleoliad priodas poblogaidd.