Enw: Llanwynno
Dechrau: Y Brynffynnon, Llanwynno, Pontypridd CF37 3PH
Diwedd: Craig yr Eryr, 67 Heol Graigwen, Graigwen, Pontypridd CF37 2EF
Pellter: 4.4 milltir
Hyd: Awr a 45 munud
Dechreuwch y daith tu allan i'r Brynffynnon. Gyda'r dafarn tu ôl i chi, fe welwch Eglwys San Gwynno (A) o'ch blaen, cerddwch tuag ato er mwyn ymweld â'r safle.
Cerddwch nôl tuag at y Brynffynnon, a chadwch y dafarn ar eich chwith i barhau ar yr heol.
Fe fyddwch yn parhau ar yr un heol am tua 2 filltir, ac o'ch blaen fe welwch olygfa o Dwyn y Glog (B), lle wnaeth ein criw ni orffwys am bicnic.
Parhewch eto ar yr un heol i gyfeiriad Graigwen.
Byddwch yn mynd fewn i Graigwen, ac ar ôl i chi fynd heibio Fron Heulog, cyn y tŷ nesa ar y dde gyferbyn a Whiterock Avenue, fe welwch lwybr cul iawn sy'n anodd gweld. Ewch lawr fan hyn, a byddwch yn dod allan i olygfa odidog ar Graig yr Eryr (C) lle mae'r daith yn gorffen.
A. Eglwys San Gwynno.
Yng nghanol y mynwent mae bedd Griffith Morgan, sy'n mwy adnybyddus fel Guto Nyth Brân, y rhedwr chwedlonol o'r ardal.
B. Twyn y Glog
Mae'r bryncyn ynysig, amlwg hwn wedi'i goroni gan wal gerrig o amgylch perimedr ei gopa, yn lleoliad argyhoeddiadol ar gyfer bryngaer gynhanesyddol.
C. Craig yr Eryr
Wedi ei henwi gan ei fod yn edrych fel Eryr o islaw, gyda golygfeydd ar draws y cwm.