Enw: Blaenrhondda
Dechrau: Stryd Brook, Blaenrhondda, Treorci, CF42 5SA
Diwedd: Heol Rhigos, Rhigos CF44 9RJ
Pellter: 3.1 milltir
Hyd: 1 awr 50 munud
Dechreuwch y daith ar dop Stryd Brook, pan mae'n troi i fod yn Stryd Caroline. Dyma safle hen Bwll Glo Fernhill (A). Cerddwch ar hyd Stryd Caroline am hanner milltir, a bydd yr heol yn troi'n trac, parhewch ar y trac yma am tua milltir. Byddwch yn ymuno a lon fach. Parhewch i'r chwith a dringwch y llwybr serth tan eich bod yn cyrraedd i'r rhaeadr, sef tarddiad yr afon Rhondda Fawr (B).
Trowch o gwmpas i gerdded i lawr yn yr un cyfeiriad. Lle wnaethoch ymuno a'r llwybr yma, parhewch yn syth. Fe fyddwch yn mynd heibio safle'r Bythynnod Fernhill (C).
Byddwch yn cyrraedd rhyw fath o groesffordd ar dop Heol Coldra. Cymerwch y lon ar y chwith, a dilynwch y lôn droellog tan eich bod yn dod allan ar Heol Rhigos.
Byddwch yn ofalus iawn wrth gerdded ar hyd yr heol yma, gan ddilyn cod y ffordd fawr.
Cerddwch am hanner milltir, a throwch i ffwrdd o'r heol i'r chwith i ddringo bach o Fynydd Rhigos (Ch), er mwyn gorffen y daith gyda golygfa ogoneddus lawr Gwm Rhondda.
A. Pwll Glo Fernhill
Agorwyd y safle yn 1869 a chaewyd ym 1978. Ar ei fwya', roedd yna pum pwll yma, a tua 2,000 o weithwyr.
B. Tarddiad Afon Rhondda Fawr.
Dwy nant sy'n cwrdd yw tarddiad yr afon Rhondda Fawr, Nant Ffynon-y-Gwalciau a Nant Selsig. Mae'n llifo i'r Afon Taf ym Mhontypridd, ac yn ymuno a'r Hafren yng Nghaerdydd.
C. Safle Bythynod Fernhill
Dyma lle byddai'r glowyr yn byw, mewn rhesi o fythynnod teras. Heddiw, nid oes olion o'r bythynnod hyn, dim ond tir diffaith.
Ch. Mynydd Rhigos
Mae mynydd y Rhigos yn sefyll 491 metr uwchben lefel y mor.