Enw: Nantgarw i Bontypridd
Dechrau: Crochendy Nantgarw, Tyla Gwyn, Nantgarw, CF15 7TB
Diwedd: Parc Ynysangharad, 8 Ceridwen Terrace, Pontypridd CF37 4PD
Pellter: 6.2 milltir
Hyd: 2 awr 50 munud
Mae'r daith yma yn dechrau yng Nghrochendy Nantgarw (A), lle gallwch gael golwg tu fewn pan mae ar agor. Ewch fyny'r bont sydd o'ch blaen a chroeswch yr A470, gan ddod lawr ar Hen Heol Nantgarw'r ochor arall. Parhewch tan fod yr heol yn torri'n ddwy, dilynwch yr ochor chwith, a cherddwch tan ddiwedd y tai. Fe welwch lwybr ar y dde, trowch fan hyn i gerdded lawr i'r Llwybr Taf (B). Wrth gyrraedd y Llwybr Taf, trowch i'r chwith a pharhewch ar yr un llwybr am 3 milltir.
Byddwch yn dod allan ger Campws Glyntaff, Prifysgol De Cymru. Parhewch i'r cylchfan, a chymerwch yr allanfa gyntaf i'r chwith i ddilyn Heol Mynwent tan ddiwedd y tai. Trowch i'r chwith i gerdded lawr i Heol Pentrebach.
Cerddwch lawr i'r cylchfan, ac ewch o dan yr A470 i groesi'r Afon Taf (C).
Dilynwch Broadway o gwmpas i'r dde, ac wrth i'r heol dechrau sythu, croeswch yr heol i ddilyn Heol Fothergill i fyny'r allt. Ewch heibio lon fach James Place, a chymerwch y dde siarp nesaf i fyny Heol y Park. Dilynwch yr heol o gwmpas, i fyny Heol Wood, a throad siarp i'r chwith i fyny Park Crescent. Cymerwch y dde gyntaf i fyny Princess Street, ac yna i'r chwith ar Teras Kingsland. Parhewch am gwpwl o dai a fe wnewch chi gyrraedd 57 Teras Kingsland (Ch).
Dilynwch yr un ffordd nol i'r Broadway, ac wrth i chi ail-ymuno a'r brif hewl, parhewch i'r chwith am 0.2 milltir ac fe welwch y siop Groggs (D) ar y chwith. Os mae ar agor, ewch fewn.
Ar ôl ymweld â'r siop, dewch allan a chroeswch yr heol yn ofalus. Trowch i'r dde, ac yna'r chwith cyntaf lawr Stryd James, ac yna ar ddiwedd yr heol, i'r chwith lawr Heol Windsor.
Croeswch yr Afon Taf eto gan ddefnyddio'r bont. Trowch i'r chwith a pharhewch ar y Llwybr Taf, sydd yn rhedeg yn gyfochrog i'r A470 tan eich bod yn cyrraedd Parc Ynysangharad (Dd).
Cymerwch eich amser i edrych o gwmpas y parc a phopeth sydd ganddo'i gynnig. Dyma lle mae'r daith yn gorffen.
A. Crochendy Nantgarw
Crochendy Nantgarw yw un o'r safleoedd treftadaeth ddiwydiannol pwysicaf yng Nghymru. Ar y safle yma yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg Ganrif aeth William Billingsley ati i greu porslen gorau'r byd.
B. Llwybr Taf
Mae Llwybr Taf yn rhedeg am 55 milltir rhwng Bae Caerdydd ac Aberhonddu ar hyd cymysgedd o lwybrau glan yr afon, llwybrau rheilffordd ac ar hyd coedwig.
C. Afon Taf
Mae'n codi fel dwy afon ym Mannau Brycheiniog; y Taf Fechan a'r Taf Fawr cyn dod yn un ychydig i'r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae ei aber i Afon Hafren yng Nghaerdydd.
Ch. 57 Teras Kingsland
Dyma lle ganwyd y canwr byd-enwog, Tom Jones, ar y 7fed o Fehefin 1940.
D. Siop Groggs
Ffigur gwawdluniau ceramig yw Grogg, a wnaed gan gwmni a sefydlwyd gan John Hughes yn 1965. Fel arfer mae Groggs wedi'u gwneud o chwaraewyr rygbi poblogaidd Cymraeg, enwogion Cymraeg ac ambell seleb di-Gymraeg.
Dd. Parc Ynysangharad
Cartref Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024. Mae'r parc yn cynnwys lido, lawnt fowlio, cyrtiau tennis, gardd goffa rhyfel a cherflun i gofio cyfansoddwyr anthem genedlaethol Cymru, Evan James a James James.