Anrhegion Melys Richard Holt

Anrhegion Melys Richard Holt

​Cacen De Siocled

Teisen frau

250g o flawd

150g menyn meddal

60g siwgr caster

Cynheswch y popty i dymheredd o 170°C

Cymysgwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen nes yn hufennog. Hidlwch y blawd a'i ychwanegu yn raddol at y gymysgedd menyn a siwgr. Yna, defnyddiwch wres eich dwylo i ddod â'r gymysgedd at ei gilydd nes yn gadarn.

Rholiwch y toes rhwng ddau damaid o bapur pobi neu matiau silicon. Priciwch gyda fforc a'i bobi am 10 munud.

Yna, yn gyflym, torrwch gylchoedd o'r teisen frau tra mae'n boeth (mi fydd hyn yn atal y teisen frau rhag cracio os yw'n setio rhy galed)

Gadewch i oeri.

Mafon

Ar gyfer y tu mewn, blendiwch lond llaw o fafon cyn ei hidlo i gael gwared o'r hadau. Rhowch y gymysgedd mewn mold hanner sffêr a'i osod yn y rhewgell.

Malws melys

100ml sudd lemon

250g siwgr caster

40g hylif glwcos

6 deilen gelatin (neu 20g o bowdwr gelatin)

75g gwynwy

Ychwanegwch y dail gelatin i mewn i bowlen o ddŵr rhewllyd a'i gadael i agor. Unwaith maen nhw wedi agor, gwasgwch y dŵr allan a'i rhoi i un ochr.

Chwipiwch y gwynwy gyda chymysgwr.

Mewn sosban, ychwanegwch y sudd lemon, siwgr caster a'r hylif glwcos a'i adael i ferwi. Parhewch i'w ferwi nes ei fod yn cyrraedd tymheredd o 116°C.

Chwipiwch y gwynwy yn gyflym tra'n ychwanegu'r surop poeth lawr ochr y fowlen. Unwaith y byddwch chi wedi ychwanegu'r surop i gyd, stopiwch chwipio'r gymysgedd er mwyn ychwanegu'r gelatin. Trowch y cymysgwr ymlaen eto yn araf nes bod y gelatin wedi hydoddi yn gyfan gwbl. Trowch y cyflymder yn uwch nes bod y malws melys yn edrych yn stiff.

Rhowch y gymysgedd mewn bag i'w beipio, yna rhowch y piwrî mafon wedi ei rewi ar y cylchoedd o deisen frau cyn peipio'r malws melys ar ei ben.

Unwaith fyddwch chi wedi gorchuddio pob tamaid o'r teisen frau, gadewch i oeri yn yr oergell tra eich bod chi'n toddi'r siocled.

Toddwch y siocled mewn bain-marie a'i adael i oeri ychydig cyn ei ddefnyddio. Arllwyswch lond llwyaid dros bob cacen de cyn eu rhoi yn ôl yn yr oergell. I addurno, rhowch ddeilen aur ar ben pob cacen a mwynhewch!