a) "Y rhaglen" - Cân i Gymru 2025, darllediad byw ar deledu S4C, Clic ac BBC iPlayer ar nos Wener, 28 Chwefror 2025, am 8 y.h.
b) "Y darlledwr" – S4C
c) "Y cwmni cynhyrchu" – Afanti Media Cyf.
ch) "Y cyfnod pleidleisio" – y cyfnod pan fydd y gwasanaeth pleidleisio yn weithredol. Bydd y cyfnod hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod darllediad byw y rhaglen.
d)" Gwasanaeth pleidleisio Can i Gymru 2025" – system bleidleisio ryngweithiol ar y we gyda dilysu dau gam.
dd) "Ar-lein" – yn cyfeirio at cysylltedd rhyngrwyd trwy fand eang domestig, cysylltiad diwifr, neu ddata symudol.
a) Trwy ddefnyddio gwasanaeth pleidleisio Cân i Gymru 2025, 'rydych yn cytuno i'r telerau ac amodau a nodir isod.
b) I ddefnyddio'r gwasanaeth pleidleisio, rhaid fod gennych gyfeiriad e-bost dilys gyda'r gallu i dderbyn ac ymateb i ebyst yn ystod y cyfnod pleidleisio.
c) Dim ond pleidleisiau a dderbynir yn ystod y cyfnod pleidleisio fydd yn cael eu hystyried yn ddilys.
a) Mae gwasanaeth pleidleisio Cân i Gymru 2025 yn system bleidleisio ryngweithiol ar y we a ddarperir gan Tectonic Interactive Limited.
b) Gallwch ddefnyddio cyfrifiadur, tabled neu ffôn clyfar i gael at y gwasanaeth.
c) Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth, bydd angen cysylltiad gyda'r we byd-eang trwy band eang domestig, cysylltiad diwifr, neu gysylltiad data symudol.
ch) Bydd cyfeiriad we a'r ddolen perthnasol yn cael eu hysbysebu yn fyw ar y rhaglen.
d) Bydd côd QR hefyd ar gael ar y sgrin yn ystod darllediad y rhaglen i rheini sydd am ddefnyddio ffon clyfar i gyrraedd y wefan.
a) Ewch i hafan Cân i Gymru (s4c.cymru/canigymru) a chliciwch ar "Pleidleisiwch".
b) Ar dudalen flaen y gwasanaeth pleidleisio, fe welwch gyfres o flychau sy'n cynnwys teitlau'r wyth gân yn y gystadleuaeth, gyda lluniau o'r cyfansoddwyr perthnasol.
c) Pan fydd y cyfnod pleidleisio yn cael ei ddatgan "ar agor" yn ystod y rhaglen, cliciwch ar y blwch sy'n cynnwys eich dewis ar gyfer enillydd Can i Gymru 2025, yna pwyswch 'nesaf'.
ch) Nesaf fe welwch dudalen ddilysu, lle bydd gofyn i chi wirio'ch pleidlais trwy nodi'ch enw, eich côd post ac yn bwysicaf oll eich cyfeiriad e-bost. Gofynnir i chi dderbyn y telerau ac amodau isod, cadarnhau eich bod dros 13 mlwydd oed ac nad ydych yn robot.
Cliciwch ar 'Cadarnhau' i fynd ymlaen i'r cam nesaf.
d) Byddwch yn derbyn neges ar y dudalen nesaf yn gofyn i chi chwilio mewnflwch eich e-bost am neges gan Cân i Gymru.
dd) Bydd yr e-bost gan Cân i Gymru yn gofyn i chi wirio eich cyfeiriad e-bost a'ch pleidlais drwy glicio ar y ddolen "Cliciwch yma i wirio eich cyfeiriad e-bost a dilysu eich pleidlais". Ni fydd eich pleidlais yn cael ei derbyn nes i chi wirio eich cyfeiriad e-bost trwy glicio ar y ddolen hon.
Os nad oes e-bost dilysu yn eich mewnflwch, chwiliwch yn y ffolderi 'junk' a 'spam'.
e) Os bydd y dilysu'n llwyddiannus, cewch eich ailgyfeirio i'r wefan lle welwch neges yn cadarnhau fod eich pleidlais wedi'i derbyn.
a) Rhaid i bawb sy'n cymryd rhan fod yn 13 oed neu drosodd ac yn byw yn y Deyrnas Unedig.
b) Rhaid fod gan bob gyfranog cyfeiriad e-bost dilys gyda'r gallu i dderbyn ac ymateb i ebyst yn ystod y cyfnod pleidleisio.
c) Cyfyngir y gwasaneth pleidleisio i UN bleidlais fesul pob cyfeiriad e-bost yn unig.
ch) Mae'r gwasaneth pleidleisio YN RHAD AC AM DDIM ond mae angen cysylltiad rhyngrwyd gweithredol er mwyn ei ddefnyddio.
d) Rhaid llenwi pob maes ar y dudalen gadarnhau cyn y gellir cyflwyno pleidlais.
dd) Rhaid ateb yr e-bost dilysu er mwyn cofrestru'r bleidlais.
e) Dim ond pan fydd y cyfnod pleidleisio ar agor, fel y nodir yn y rhaglen, y caiff pleidleisiau eu cyfrif. Ni fydd unrhyw bleidleisiau a dderbynnir cyn neu ar ôl y cyfnod hwn yn cael eu cyfrif. Gall unrhyw bleidleisiau a dderbynnir cyn i'r cyfnod pleidleisio agor gyfrif fel eich UN pleidlais, ac yn eich atal rhag pleidleisio yn ystod y cyfnod pleidleisio.
f) Ni chaniateir i gyflogedigion Tectonic Interactive, Afanti Media Cyf. na S4C bleidleisio yn y gystadleuaeth hon.
a) Ni all y darlledwr, na'r cwmni cynhyrchu fod yn atebol nac yn gyfrifol am unrhyw ymyrraeth neu amhariad ar wasanaethau rhyngrwyd sy'n digwydd y tu allan i'w rheolaeth yn ystod y cyfnod pleidleisio, neu am golli unrhyw bleidleisiau a fwriwyd yn ystod y cyfnod pleidleisio o ganlyniad i ddigwyddiadau neu amgylchiadau tebyg.
b) Bydd y cwmni cynhyrchu yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gwasanaethau rhyngrwyd yn lleoliad y darllediad yn gadarn ac yn addas i'r diben, a gyda gwytnwch digonol at ddibenion derbyn canlyniadau'r bleidlais yn ystod y cyfnod pleidleisio, a bod y darlledwr yn fodlon gyda'r trefniadau o'r fath, a'u bod yn indemnio'r ddwy ochr rhag unrhyw golled o ran pleidleisiau a fwriwyd yn ystod y cyfnod pleidleisio.
c) Mewn achos o fethiant system yn ystod y cyfnod pleidleisio y gellir ei gyfleu'n rhesymol i'r darlledwr o fewn cyd-destun darllediad byw, bydd cyhoeddiad yn cael ei wneud yn fyw ar y rhaglen yn hysbysu'r gynulleidfa o'r broblem, a sut fydd y darlledwr yn bwriadu bwrw ymlaen gyda'r gystadleuaeth.
ch) Os bydd methiant o'r fath, y darlledwr yn unig fydd yn penderfynu sut i fynd ati i ddewis enillydd Can i Gymru 2025, ac yn awdurdodu eu hasiantau, y cwmni cynhyrchu, i gyflawni'r cynllun.
d) Os bydd unrhyw anghydfod, bydd penderfyniad y darlledwr yn derfynol ac yn rhwymol ar bob parti.
dd) Mae'r telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Bydd Afanti ond yn defnyddio'r data personol a gasglwyd yn y ffurflen bleidleisio ar-lein at ddibenion y bleidlais hon.
Cliciwch yma am fanylion bolisi diogelu data a phreifatrwydd Afanti Media Cyf.