Rhoddir gwybod am unrhyw ddiddymiad neu newidiadau yn Hysbysiad y Gystadleuaeth berthnasol.
8. Drwy gymryd rhan mewn Cystadleuaeth rydych yn cytuno, yn cadarnhau ac yn gwarantu:
b)os enillwch y Gystadleuaeth, bod Tinopolis a S4C yn gallu defnyddio eich enw a'ch llun at ddibenion cyhoeddusrwydd;
c)y gall Tinopolis a S4C (ac unrhyw drydydd parti a awdurdodir gan Tinopolis a S4C) ddefnyddio'r cais ledled ei Gwasanaethau ac ar unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wefannau trydydd parti, cyfryngau symudol, teledu a/neu radio). I'r diben hwn, rydych drwy hyn yn rhoi i Tinopolis a S4C (a thrydydd partïon a awdurdodir gan Tinopolis a S4C) drwydded anghyfyngedig, fyd-eang, ddiymdroi, ddi-freindal (am gyfnod llawn unrhyw hawliau yn y cais) yn y cais i ddefnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, copïo, gwneud gweithiau deilliadol neu bodlediadau o, golygu, newid, storio, ailfformatio, defnyddio yn rhan o unrhyw ymgyrch hysbysebu neu noddi, gwerthu ac isdrwyddedu y cais;
d)bod eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych yn bersonol i chi;
e)na fydd eich cais a'r holl wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno a/neu yn ei dosbarthu yn torri hawliau eiddo deallusol, hawliau preifatrwydd nac unrhyw hawliau eraill unrhyw drydydd parti, ac na fyddant yn cynnwys unrhyw beth sy'n enllibus, difenwol, anllad, anweddus, yn peri aflonyddwch neu'n fygythiol; a
f)bod gennych ganiatâd i ddefnyddio neu ddangos unrhyw bobl, cynnwys neu ddeunydd arall sydd wedi'i gynnwys o fewn eich cais.