S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rheolau ac Amodau Cystadleuaeth ‘Carol yr Wyl 2024’

1. Y canlynol yw'r rheolau a'r termau am gystadleuthau a ddigwydd ar raglenni dyddiol Tinopolis, Heno a Prynhawn Da. Drwy gymryd rhan yn unrhyw un gystadleuaeth rydych yn cytuno i lynu wrth yr holl dermau priodol.

2. Os fydd gwahaniaethau rhwng Termau Cystadleuaeth Safonol Tinopolis a Notis Cystadleuaeth unigol, termau'r Notis Cystadleuaeth fydd yn sefyll.

3. Os na nodir yn wahanol yn y Notis Cystadleuaeth, caiff y cystadleuthau eu hyrwyddo gan Heno neu Prynhawn Da, y ddwy yn rhaglenni Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli. SA15 3YE ("Tinopolis") a dylsai unrhyw ymholiadau neu gwynion ynglyn â chystadleuthau eu cyfeirio'n gyntaf at Tinopolis yn y cyfeiriad uchod.

4. Mae'r gystadleuaeth yn agored i gorau/ensembles lleisiol yn holl Ysgolion Cynradd Cymru, ac ysgolion cyfrwng Cymraeg tu allan i Gymru. Gofynnir i ysgolion gyfansoddi Carol neu gân Nadoligaidd (geiriau a cherddoriaeth) sy' ddim yn hwy na thair munud. Ni ddylid defnyddio cerddorion proffesiynol. Gall y côr fod hyd at 50 mewn nifer, ac unrhyw nifer o gyfeilyddion. Yr ysgolion sy'n gyfrifol am gael y caniatâd angenrheidiol oddi wrth rieni/ceidwaid a bydd rhaid arwyddo ffurflen caniatâd ffilmio gan rieni/ceidwaid cyn i'r ffilmio ddigwydd. Yr Ysgol fydd yn gyfrifol am y plant yn ystod y ffilmio.

5. Gall gofynion cymhwysder ychwanegol eu gosod yn y Notis Cystadleuaeth.

6. Telir ffi o £100 i bob côr a gaiff ei ffilmio ar gyfer y rhestr fer. Telir £200 a thlws y gystadleuaeth i'r côr buddugol.

7. Er mwyn cystadlu rhaid i'r ymgeiswyr ddanfon recordiad o'r garol /gân drwy ebost i prynhawnda@tinopolis.com, Neu at Carol Yr Ŵyl, Canolfan Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE.

8. Rhaid i bob cais gael ei gyflwyno yn unol â rheolau'r gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw gais arall.

9. Bydd y gystadleuaeth yn rhedeg o 14.00 ar 09 Medi 2024 tan y dyddiad cau ar 25 Hydref, 6yh 2024. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

10. Ni dderbynnir unrhyw gais ar ôl yr amser a'r dyddiad cau.

11. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan ddau feirniad annibynnol. Bydd y beirniaid yn derbyn yr holl geisiadau ar ôl y dyddiad cau ac yn dewis rhestr fer o 10. Ni fydd y beirniaid yn cael manylion y cystadleuwyr yn ystod y broses hon i fod yn deg ar bob ymgeisydd. Beirniadir ar deilyngdod y garol/gân yn unig.

12. Bydd gair y beirniaid ar y rhestr fer a'r buddugol yn derfynnol. Ni roddir unrhyw adborth na beirniadaeth ysgrifenedig.

13. Caiff 10 fideo o'r corau ar y rhestr fer eu cynhyrchu a'u dangos ar Prynhawn Da ac ar un raglen arbennig i'w darlledu yn ystod Rhagfyr 2024.

14. Bydd y beirniaid yn cyhoeddi enw'r côr buddugol ar y rhaglen arbennig ar S4C.

15. Bydd y côr buddugol hefyd i'w glywed ar 'Heno' ar ôl y cyhoeddiad ar Prynhawn Da.

16. Dim ond unwaith y gall unrhyw ysgol gystadlu. Os daw'n amlwg fod ysgol wedi cystadlu sawl gwaith, a gan fod y rheolau'n dweud mai un cynnig a ganiateir, dim ond un o gynigion yr ysgol gaiff ei chyfrif ar gyfer y gystadleuaeth.

17. Rhaid i bob aelod o'r corau fod o oed Cynradd, ac wedi derbyn caniatâd rhiant/ceidwad i gymryd rhan ac i dderbyn y wobr. Tinopolis fydd a'r hawl i wirio fod yr hawl yma wedi ei roi cyn i'r enillydd gael ei gyhoeddi.

18. Mae'r hawl gan Tinopolis ac S4C i newid y rheolau, ac i ganslo neu addasu'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i resymau sy' tu hwnt i'w rheolaeth.

19. Os fydd unrhyw anghytuno ynglyn â'r termau, y wobr, y canlyniad neu unrhyw fater arall yn ymwneud â'r gystadleuaeth, penderfyniad Tinopolis fydd yn sefyll ac ni fydd unrhyw ohebiaeth gan y cwmni.

20. Drwy gystadlu, mae'r cystadleuwyr yn cytuno, cadarnhau a gwarantu fod:

i. pob pob gwybodaeth a roddwyd i Tinopolis yn gywir, yn gyfoes ac yn gyflawn, a'ch bod yn cwrdd â holl ofynion y gystadleuaeth.

ii. gan Tinopolis yr hawl i ddefnyddio eich enw a'ch llun at bwrpas cyhoeddusrwydd.

iii. Tinopolis, S4C (ac unrhyw drydydd parti a awdurdodir gan Tinopolis neu S4C) yn gallu defnyddio'r cynnig ar draws eu Gwasanaethau ac ar unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ond nid yn gyfyngedig i wefannau trydydd parti, mobeil, teledu ac/neu radio). Ar gyfer y pwrpas hyn, rydych felly'n caniatáu i Tinopolis ac neu S4C ( a phartïon trydydd parti a awdurdodir gan Tinopolis neu S4C) drwydded rhad heb freindal sy'n ddiamod, byd-eang, terfynol (ar gyfer holl gyfnod unrhyw hawliau tra'n ymgeisio) i ddefnyddio, dangos, cyhoeddi, darlledu, copïo, gwneud gwaith neu bodliadau sy'n tarddu o'r gwreiddiol, golygu, newid, storio, ail-ffurfio, defnyddio rhan mewn unrhyw ymgyrch hysbysebu neu nawdd, gwerthu, ac is-drwyddedu'r cynnig.

iv. eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych yn bersonol i chi.

v. eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir neu a ddosberthir ddim yn tresmasu ar draws nodwedd ddeallusol, preifatrwydd neu unrhyw hawl sydd gan drydydd parti sy'n enllibus, difenwol, aflednais, anweddus, poenus neu fygythiol.

vi. gennych hawl i ddefnyddio, rhoi sylw i unrhyw bobl, cynnwys neu ddeunydd arall yn eich cais.

vii. cytundeb i ymrwymo i'r rheolau.

viii. gan S4C yr hawl i ddefnyddio fideos rheiny sydd ar y rhest fer at bwrpas marchnata ar deledu neu wefannau cymdeithasol gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i .e. Facebook, Twitter, Instagram, YouTube.

21. Mae'r hawl gan Tinopolis ac S4C i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig am gyfansoddwyr y geiriau a'r gerddoriaeth.

22. Mae'r hawl gan Tinopolis i wirio cymhwysder unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth, gan gynnwys yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oed yr enillwyr. Gall Tinopolis wahardd unrhyw ymgeisydd a fydd yn gwrthod rhoi'r wybodaeth yma a hefyd gwahardd unrhyw gystadleuydd os fydd unrhyw reswm dilys a fydd y nein hawain i gredu fod y rheolau wedi eu torri.

23. Os caiff cystadleuydd ei wahardd o'r gystadleuaeth, bydd yr hawl gan Tinopolis, a neb arall, i gyflwyno'r wobr i'r côr a ddyfarnwyd yn ail yn unol â'r rheolau.

24. Dyw prawf fod ebost wedi ei ddanfon ddim yn brawf ei fod wedi cyrraedd. Ni fydd Tinopolis yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni fydd Tinopolis chwaeth yn gyfrifol am ladrad, dinistr, newid neu bod rhywun wedi cael gafael ar gynnig heb ganiatâd, neu gynnig a gaiff ei golli, niweidio neu oedi o ganlyniad i broblemau cyfrifiadurol, technegol, firws, byg, neu unrhyw achos arall sy tu hwnt i reolaeth Tinopolis.

25. Nid yw Tinopolis yn derbyn y cyfrifoldeb am gaw'n ddiogel na dychwelyd unrhyw gais. Dylsech sicrhau eich bod yn cadw copi o'ch cais at eich defnydd personol.

26. Mae'r wobr yn derfynnol ac ni all gael ei newid na'i throsglwyddo.

27. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw a sir preswylio yr enillydd ar wefannau cynhyrchiadau Tinopolis ac S4C am 21 diwrnod. Bydd y wybodaeth yma hefyd ar gael yn dilyn y dyddiad cau drwy ffonio Tinopolis ar 01554 880812 ( ni fydd cost galwad yn fwy na'r gost ar y raddfa Brydeinig arferol) neu ysgrifennu at dîm cynhyrchu Tinopolis, Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli. Sir Gaerfyrddin. SA15 3YE, gan nodi pa gystadleuaeth ry chi'n dymuno trafod. Dylsech gynnwys amlen gyda stamp er mwyn eich ateb.

28. Bydd yr holl drethu, yswiriant, trefniadau teitiho, arian gwario, ac unrhyw gostau a threuliau eraill (gan gynnwys bwyd a threuliau personol) fod yn gyfrifoldeb y buddugol oni nodir yn wahanol yn Notis y Gystadleuaeth.

29. Dyw Tinopolis ddim yn hawlio perchnogaeth o'ch cais, onibai y nodir hynny yn Notis y Gystadleuaeth. Chi fydd perchennog y cais a gallwch ei ddefnyddio fel y dymunech. Gall Tinopolis ddefnyddio eich cais fel y nodwyd yn Notis y Gystadleuaeth os fydd hynny wedi ei gynnwys. Petai Tinopolis yn cymryd perchnogaeth o'ch cais, bydd hynny wedi ei nodi yn Notis y Gystadleuaeth. Gallwch wedyn benderfynnu os ydych yn dymuno cystadlu.

30. Dyw Tinopolis ddim yn gwarantu defnyddio unrhyw gais. Gall Tinopolis, a Tinopolis yn unig, o dan amgylchiadau priodol, wrthod, golygu, dileu unrhyw gais rhag cael ei ystyried os fydd o'r farn y gallai fod problem gyfreithiol neu arall.

31.Mae Tinopolis yn gwrthod unrhyw gyfrifoldeb, i'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw unigolyn, sy'n codi o'r ffaith, ei fod ef neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth yma.

32. Pan drefnir cystadleuthau gan Tinopolis neu S4C gan ddefnyddio Facebook, ac/neu Instagram (neu unrhyw wefan gymdeithasol arall) mae'r ymgeiswyr yn derbyn nad yw'r gystadleuaeth yn cael ei noddi, cymeradwyo, na'i gweinyddu gan neu'n gysylltiedig â Facebook, ac/neu Instagram ac yn ryddhau Facebook ac/neu Instagram oddi wrth unrhyw gyfrifoldeb a gwyd oherwydd iddynt gystadlu yn y gystadleuaeth.

33. Ni fydd Tinopolis na S4C yn rhannu na defnyddio eich gwybodaeth bersonol at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth yma. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (GDPR) 2016/679.

34. O gymryd rhan yn y gystadleuaeth rhaid deall y bydd Tinopolis yn casglu, dal, a phrosesu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â chi a'ch cyfraniad I'r gystadleuaeth, yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd fel y'I gwelir fan hyn: http://www.tinopolis.com/privacy-notice/. Yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth gall hyn gynnwys data personol sensitif. Defnyddir eich data personol at bwrpas gweinyddu, yswirio a phwrpasau rheoli y gystadleuaeth, ac i gwrdd a'n gofynion cyfreithiol i gadw cofnod. Hefyd efallai y defnyddir y wybodaeth er mwyn gwneud archwiliad i'ch cefndir (eto'n dibynnu ar natur y gystadleuaeth) er mwyn cwrdd â'n cyfrifoldebau rheoleiddio a gwirio'r wybodaeth a roddoch i ni.

35. Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cwrdd â'n gofynion cytundebol â chi fel cystadleuydd, a chydymffurfio â'n gofynion cyfreithiol a ble mae'n angenrheidiol ei bod o fudd cyfreithlonl i wneud hynny. Mae'n buddion cyfreithlon yn cynnwys sicrhau fod pob cyfraniad i'r gystadleuaeth yn addas ar gyfer y Rhaglen, a bod y Rhaglen yn cwrdd â'n safonau ac yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol.

36. Efallai y bydd rhaid rhannu eich gwybodaeth a'n ymgynghorwyr, aseinïaid, y rhai a drwyddedir, awdurdodau rheoleiddio, partner darlledu ac eraill fel mae'n ofynnol o dan y gyfraith. Efallai pryd y bydd yn angenrheidiol i ni wneud hynny, byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i du allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd. Os fydd eich manylion personol yn newid yn ystod cyfnod y gystadleuaeth, a wnewch chi plis roi'r wybodaeth i ni er mwyn i ni ddiweddaru'n cofnodion.

37. Bydd termau a rheolau llawn cystadleuthau S4C ar gael ar: http:// www.s4c.cymru/en/about-this-site/page/16772/competition-terms-and-conditions/ hefyd ceir mwy o wybodaeth am y ffyrdd rydym yn defnyddio'ch gwybodath bersonol ar ein Hysbysiad Preifatrwydd ar http://www.tinopolis.com/privacy-notice/

38. Ni fydd Tinopolis na S4C yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriadau neu oedi gan gystadleuwyr tra'n cystadlu. Ni fydd Tinopolis na S4C yn gyfrifol am geisiadau a wneir wedi'r amser a'r dyddiad cau

39. Nid yw Tinopolis na S4C yn derbyn cyfrifoldeb, i'r eithaf a ganiateir yn gyfreithiol, am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw unigolyn sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu a ddigwydd i'r buddugol ac sy'n codi wedi iddo fe neu hi dderbyn y wobr.

40. Mae'r holl Gystadleuthau a'r Termau yn unol a chyfreithiau Cymru a Lloegr, a bydd unhyw ddadleuon yn ddarostyngedig i Awdurdod Unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?