Tra'n cwblhau ei radd cerddoriaeth ym mhrifysgol Caerdydd, cafodd Rich epiffani pan welodd Marco Pierre White yn ffilmio ar y stryd fawr. 'O'n i ohyd 'di bod efo diddordeb mewn coginio, a'n ei ddefnyddio fel ffordd o ymlacio tra'n astudio. Pan welais i Marco, o'n i mewn 'awe'. Es i fyny i ddeud helo, oedd ganddo gymaint o 'presence' - ond mor glên hefyd. 'Nes i feddwl: "I wanna be like him!".'
Heb unrhyw hyfforddiant ffurfiol, aeth Rich i ennill profiad mewn bwytai lleol ar Ynys Môn gan gynnwys bwyty The Marram Grass ac, ymhen dim, cafodd swydd ddisglair yn Knightsbridge, Llundain fel prif gogydd patisserie bwyty Michelin Marcus.
Ar ôl lot o waith caled a phrofiadau anhygoel, penderfynodd ddychwelyd adref a gwneud enw newydd iddo'i hun ar yr ynys lle cafodd ei fagu. Cymerodd berchnogaeth o Melin Llynon yn Llanddeusant ac yn 2019 sefydlodd ystafell de llwyddianus ar y safle, lle roedd yn pobi a gweini patisseries o'r radd flaenaf.
Fe greodd y pandemig heriau enfawr i'r busnes ond, gyda'i ddyfeisgarwch - a chefnogaeth gan y gymuned a'i deulu, sydd bellach yn rhan o'r fenter - sicrhaodd Rich fod Melin Llynon nid yn unig yn goroesi ond yn ffynnu.
Mae'r mentrwr ifanc a'i dîm wedi ehangu gorwelion yr hen felin wynt trwy greu amrywiaeth o gynhyrchion llwyddiannus gan gynnwys jin, Siocled a Mônuts (gyda chwsmeriaid gan gynnwys ffans ei gyfresi teledu yn ciwio am oriau i sicrhau eu bod yn cael blas). Dyma fydd yr eildro i Rich herio pobyddion ledled Cymru yn yr Academi Felys!
TRIVIA: Mae Rich yn caru ei gŵn (dau lurcher o'r enw Nim a Millie), chwarae a casglu gitârs (mae'n ffan mawr o Fenders a John Mayer), dysgu am hanes Ynys Môn, a cheir 'classic' - yn enwedig Land Rovers ac Aston Martins!
GWESTAI EI FREUDDWYDION: Gordon Ramsay a Jimi Hendrix (RIP).