S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Bakewell Ceirios a Tarragon

Cynhwysion:

Frangipane:

  • 100g Menyn Meddal
  • 100g Siwgwr Caster
  • 2 Wyau
  • 100g Almonau Mân
  • 30g Tarragon wedi ei dorri'n fân

Mousse Fanila:

  • 100g Siwgwr
  • 100g Hufen wedi ei ferwi
  • 300g Mascarpone
  • 425g Hufen chwipio
  • 2 Dail gelatine

Glaze:

  • 195g Dŵr
  • 300g Siwgwr
  • 300g Glwcos
  • 215g Llaeth tewychedig
  • 25g Gelatine
  • 325g Siocled gwyn

Llenwad:

  • 200g Puree ceirios
  • 200g Ceirios wedi torri'n fân
  • 30g Tarragon wedi ei dorri'n fân

Cam 1 - Gwneud pastry siocled yn union fel dw i’n gwneud ar gyfer y Môn Blanc

Cam 2 - Gwneud y llenwad frangipane

  1. Rhostio almonau man nes yn euraidd. Bydd hyn yn rhoi blas almonau cyfoethog trwy'r bakewell. Gadewch i oeri.
  2. Cymysgwch fenyn a siwgr gyda'i gilydd ar gyflymder araf (gwnewch yn siŵr bod y menyn ar dymheredd ystafell cyn ei ddefnyddio) Peidiwch a gor chwipio'r gymysgedd yma neu bydd yn gwahanu unwaith i chi ychwanegu'r wyau.
  3. Ychwanegwch wyau, un ar y tro.
  4. Ychwanegwch yr almonau wedi rhostio i'r gymysgedd.
  5. Ychwanegwch binsiad o halen.
  6. Ychwanegwch tarragon wedi ei dorri'n fan i'r gymysgedd.
  7. Gadewch i orffwys ar dymheredd ystafell.

Cam 3 - Pobwch y darten frangipane

  1. Llenwch waelod y darten wag hefo haen denau o jam plwm a mafon.
  2. Yna, mewn hefo'r cymysgedd frangipane a'i lyfnhau efo cyllell paled fach.
  3. Pobwch ar dymheredd o 160 gradd nes bod o'n euraidd a 'di pobi yn y canol.
  4. Gadewch i oeri.

Cam 4 - Paratoi’r canol ceirios

  1. Tynnwch y cerrig o 1kg o geirios
  2. Blendiwch hanner ohonyn nhw a phasio'r piwrî mân trwy sieve.
  3. Torrwch yr hanner arall i mewn i chwarteri a chyfuno hefo'r piwrî.
  4. Ychwanegwch lond llaw o tarragon wedi ei falu'n fan i wella blas y ceirios.
  5. Rhewch y gymysgedd mewn mowld hanner sffêr.

Cam 5 - Gwnewch y mousse fanila mascarpone

  1. Berwch yr hufen a'r siwgr gyda'u gilydd
  2. Ychwanegwch 'setting agent'
  3. Arllwys mascarpone drosto a'i gymysgu'n dda.
  4. Gadewch i oeri dros nos.

Cam 6 - Chwipio’r mousse

  1. Chwipiwch y mousse mascarpone nes yn gadarn ond yn esmwyth.
  2. Peipiwch y mousse mewn i fowld hanner sffêr (ychydig yn fwy na'r un ar gyfer y ceirios) ac yna gosod y canol ceirios i mewn.
  3. Gadewch i rewi.

Cam 7 - Gwnewch y glaze

  1. Berwch ddŵr, siwgr a glwcos i 103 gradd selsiws.
  2. Arllwyswch dros siocled gwyn ac ychwanegu'r setting agent.
  3. Yn olaf, ychwanegwch condensed milk a'i flendio yn dda.
  4. Gadewch i oeri at 32 gradd selsiws cyn ei ddefnyddio.

Cam 8 - Gosod gyda’i gilydd

  1. Rhowch glaze coch ar ben yr hanner sffêr.
  2. Gosodwch ar ben y frangipane yn ofalus.
  3. Gwnewch meringue Eidalaidd trwy ferwi siwgr a dŵr ar dymheredd o 121 gradd selsiws. Arllwyswch dros wyn wy tra'n ei chwipio.
  4. Chwipiwch i greu pigau stiff a'i beipio o amgylch y gromen.
  5. Gorffennwch gyda deilen aur.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?