S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Tarten Mojito Becca

Cynhwysion:

Pastry a llenwad

  • 80g blawd plaen
  • 27.5g siwgr powdr
  • 1.5tbsp cocoa (neu ddim os 'da chi isio fo'n blaen!)
  • 75g menyn oer - wedi ciwbio yn fach
  • 2 drop o fanila
  • 1 melyn wŷ (cadw'r gwynwyn i'r meringue)
  • 1tbsp hufen
  • 1 1/2 punnet o mwyar duon
  • 2 sprig o mint ffres
  • 1tbsp mêl
  • 1 cwpan o hufen
  • ¼ cwpan llaeth tew
  • 2 shot o rum gwyn
  • 2 sheet o gelatine wedi toddi mewn dŵr
  • Sudd hanner leim

Meringue

  • 1 gwynwy
  • 1/4 cwpan siwgr caster

Dull:

Pastry a llenwad

  1. Rhowch y cynhwysion sych a'r menyn yn y peiriant cymysgu nes ei fod yn ffurfio briwsion, yna ychwanegu'r wŷ, fanila a llwyaid o hufen a'u cymysgu tan mae'r pastry yn dod at ei gilydd. Cling film dros y pastry a'i roi yn y rhewgell am hanner awr.
  2. Blendio'r mwyar duon, mint a'r mêl cyn sifio'r hadau. Cymysgu'r hufen, llaeth tew, rum gwyn, gelatine wedi toddi mewn dŵr, jiws hanner leim a puree mwyar duon efo'i gilydd.
  3. Tynnu'r pastry allan o'r rhewgell a rholio i fewn i duniau bach. Rhoi nôl yn y rhewgell i stopio 'shrinkage'. Rhoi papur coginio a baking beans ar ben y pastry oer. Coginio am 25-30 munud ar gradd 180℃.
Meringue
  1. Cymysgu gwynwy a siwgwr caster mewn bowlen gwydr tan mae'r meringue hefo 'stiff peaks' ac yn glossy.
  2. Yna, ychwanegu dipyn o'r piwrî mwyar duon yn ofalus i greu effaith 'marble' ar y meringue.
  3. Peipio 'meringue kisses' ar tray sydd â phapur coginio arno.
  4. Troi y popty i lawr i 100℃ a rhoi y meringue i fewn am 20 munud.
  5. Diffwrdd y popty a gadael i'r meringue sychu.

Rhoi at ei gilydd

  • Rhoi'r cymysgedd mojito i fewn i'r darten, peipio puree mwyar duon i arddurno, meringue kisses, mint ffres, blodau bwytadwy, mwyar duon llawn a gold leaf i orffen. Bach o zest y leim a sprinkle bach o siwgr - ta da!!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?