S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Tarten Siocled, Detys a Chnau Ffrengig

Cynhwysion:

Cremeux:

  • 350g hufen
  • 6 Melyn ŵy
  • 60g Siwgwr caster
  • 115g Liqueur Siocled

Gwaelod:

  • 100g Detys wedi malu'n fân
  • 100g Bisgedi digestive
  • 60g Menyn wedi toddi

I'w orffen:

  • Cnau Ffrengig wedi malu'n fân
  • Disc siocled
  • Powdwr aur

Dull:

Cam 1 - Gwneud y darten fel Môn Blanc

Cam 2 - Paratoi y cremeux

  1. Chwipiwch y melyn ŵy a'r siwgr gyda'i gilydd
  2. Berwch yr hufen yn ysgafn.
  3. Arllwyswch dros y melyn wy a'r siwgr tra'n ei chwipio fel nad yw'r gymysgedd yn 'coginio'.
  4. Rhowch mewn thermomix a'i goginio ar 85 gradd selsiws.
  5. Unwaith i'r cwstard droi'n dew, ychwanegwch y siocled a'i flendio yn dda.
  6. Ychwanegwch yr liqueur.
  7. Ychwanegwch Halen Môn i flasu.
  8. Gadewch i oeri.

Cam 3 - Torrwch y detys yn fân

Cam 4 - Rhowch bopeth at ei gilydd

  1. Peintiwch y darten mewn siocled fel nad yw'r toes yn mynd yn wlyb.
  2. Gosodwch y detys mân ar waelod y darten.
  3. Arllwyswch y cremeux siocled ar ben y detys a'i adael i setio yn yr oergell.
  4. Rhostiwch gnau Ffrengig yn y popty nes yn euraidd.
  5. Gosodwch y cnau ar ben y darten fel eu bod nhw'n troelli.
  6. Gosodwch ddisg siocled maint y darten ar ben y cnau gan ddefnyddio gwn gwres i'w doddi a ffurfio siâp y cnau.
  7. Gadewch y siocled i setio cyn ei frwsio gyda phowdwr aur.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?