S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Cacen Llugaeronen Megan

Sbwng siocled gyda haenau o jam cranberry ac wedi'i gorchuddio efo ganache siocled tywyll - 'nath Rich ddeud bod ganache fi'n dda!

Cynhwysion

Sbwng

  • 500g menyn heb halen
  • 500g siwgr caster
  • 390g blawd codi
  • 110g powdr cocoa o'r safon uchaf
  • 10 ŵy

Jam

  • Bag o lugaeron wedi rhewi
  • 400g siwgr brown
  • Croen a sudd oren cyfan

Nodyn: Mae hyn yn gwneud LOT o jam! Felly hannerwch y maint os oes angen.

Ganache

  • 2:1 siocled tywyll i faint o hufen
  • Siocled tywyll o ansawdd uchel

Dull

  1. Rhoi'r cymysgedd sbwng yn y popty ar wres o 160 gradd selsiws am 30-40 munud.
  2. Cymysgu'r cynhwysion jam gyda'i gilydd mewn bowlen ar wahân.
  3. Ar gyfer y ganache, cynhesu'r hufen nes yn gynnes a'i arllwys dros y siocled. Gadael am funud a'i chwpio nes yn esmwyth. Rhoi yn yr oergell i galedu nes ei fod yn iawn i'w beipio.
  4. I orffen, sbrinclo cnau macadamia wedi'u torri ar ben y gacen!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?