S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Mônuts

Cynhwysion

  • 500g Blawd bara cryf
  • 10g Halen
  • 60g Siwgr caster
  • 8g Burum
  • 125g Menyn heb halen ynddo
  • Olew llysiau
  • 4 Ŵy

Llenwad Cwstard:

  • 4 Melynwy
  • 115g Siwgwr
  • 30g Blawd
  • 455g Llefrith
  • Hadau 1 pod fanila

Meringue:

  • 80g Gwynwy
  • 180g Siwgr
  • Dŵr

Dull

  1. Rhowch flawd bara cryf, siwgr caster a burum mewn powlen a'i gymysgu cyn ychwanegu'r wyau. Trowch y peiriant cymysgu ymlaen am 8 munud ar gyflymder canolig gan ychwanegu dŵr cynnes wrth iddo droi.
  2. Ychwanegwch fenyn i'r gymysgedd a'i adael i gymysgu am 8 munud arall ar gyflymder uchel.
  3. Rhowch gôt o olew llysiau mewn powlen cyn ychwanegu'r toes a'i orchuddio gyda cling film. Rhowch mewn popty ar wres o 25 gradd selsiws. Tynnwch allan ar ôl 3-6 awr.
  4. Tynnwch y cling film i ffwrdd cyn gweithio'r toes i dynnu'r aer allan a'i brofi unwaith eto.
  5. Rhowch flawd ar arwyneb yn y gegin cyn gweithio'r toes ynddo a'i dorri yn beli o 50g. Rholiwch bob darn yn y blawd i'w gorchuddio.
  6. Rhowch olew coginio ar ddau dun pobi cyn rhoi'r peli arnyn nhw. Rhowch olew dros y peli a'u gorchuddio mewn cling film. Arhoswch nes eu bod nhw wedi dyblu mewn maint cyn eu profi eto yn y popty am 20-30 munud ar wres o 25 gradd selsiws.
  7. Tynnwch allan o'r popty a thynnu'r cling film yn ofalus. Rhowch belen mewn ffrïwr sy'n llawn olew llysiau. Trowch y ffordd arall gyda strainer (3 munud ar bob ochr)
  8. Tynnwch allan ar ôl cyfanswm o 6 munud, sychwch gyda phapur cegin a'u hysgwyd mewn powlen o siwgr.

Cwstard

  1. Ychwanegwch 4 melynwy, 115g o siwgr, 30g o flawd, 455g o lefrith a hadau pod fanila mewn peiriant cymysgu ar wres o 82 gradd am 10 munud ar gyflymder canolig.
  2. Rhowch y cymysgedd mewn powlen blastig wedi ei orchuddio gyda cling film cyn ei roi mewn powlen o ddŵr gyda rhew ynddo a'i adael i oeri.
  3. Yna, pan yn barod i'w ddefnyddio, tynnwch y cling film a rhoi'r gymysgedd mewn bag peipio. Defnyddiwch 'filling nozzle' os yn bosib i'w llenwi.

Meringue

  1. Rhowch 80g o wynwy mewn cymysgwr. Yna, ychwanegwch ychydig o ddŵr ac 180g o siwgr mewn sosban a'i gynhesu i 121 gradd. Yna, rhowch yn y cymysgwr gyda'r wyau tra eu bod nhw'n cymysgu. Gadewch i gymysgu am 5 munud ar gyflymder uchel nes ei fod wedi oeri.
  2. Dipiwch y doughnut i mewn i'r meringue cyn defnyddio 'blowtorch' ar eu pennau. Defnyddiwch ddeilen aur i'w haddurno.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?