S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Melin Jin & Tonic Redz

Cyfarpar

  • Pot blodau Terracotta (tua 15cm o uchder)
  • Papur gwrthsaim
  • Chwistrell 'cake release'
  • Papur wafer / reis
  • Nozzle pepio (siap 'grass tip')
  • Bag peipio
  • Cake board 10cm
  • Cyllell palet
  • Cake scraper
  • Bisgedi chopstick / Mikado 20cm
  • Mowld hanner sffêr bach
  • Lliwiad bwyd gwyrdd

Cynhwysion

Cacen

  • 100g blawd plaen
  • 100g menyn / 'spread' pobi
  • 100g siwgr gronnynog / caster
  • 75g hufen sur / llaeth enwyn
  • 2 ŵy
  • 1 llwy de o bowdr pobi
  • ½ tsp o bicarbonad soda
  • Zest 1 leim
  • 1 llwy de o aeron meryw - wedi'i falu
  • 50g eisin fondant brown
  • 50g siocled tywyll

Surop Jin & Tonic

  • 100g siwgr gronynnog
  • 50ml dŵr tonig
  • 25ml gin

Buttercream

  • 350g siwgr eisin
  • 175g menyn
  • 2tbsp llefrith
  • 1tbsp sudd leim

Dull

  1. Cynhesu'r popty i 180℃ (ffan)
  2. Gorchuddio tu mewn i'r pot blodau gyda chwistrell 'cake release' neu olew, yna gyda phapur gwrthsaim. Torri cylch bach allan o bapur i linellu'r gwaelod ac yna lapio papur o amgylch y tu mewn i'r pot. Gorchuddio eto gyda'r 'cake release spray' neu olew. Rhoi yn y popty i gynhesu'r pot.
  3. Rhoi menyn a siwgr mewn powlen peiriant cymysgu neu bowlen fetel / gwydr. Cyfuno nes y cymysgedd yn hufennog ac yn welw.
  4. Ychwanegu'r ddau ŵy a llwy bwdin o flawd a'u cymysgu.
  5. Ychwanegu'r blawd sy'n weddill, powdr pobi a bicarbonad soda a'i gymysgu nes ei fod wedi'i gyfuno.
  6. Ychwanegu hufen sur / llaeth enwyn, croen leim, aeron meryw a'i gymysgu nes ei fod newydd ei gyfuno.
  7. Tynnu'r pot o'r popty - bydd angen bod yn ofalus gan y bydd yn boeth!
  8. Arllwys gytew cacen ¾ o'r ffordd i fyny'r pot yna rhoi fo ar tray pobi a dychwelyd i'r popty am 30 munud.
  9. Tra bod y gacen yn pobi, amser i 'neud y surop G&T! Rhoi dŵr tonig a siwgr mewn padell fach dros wres canolig ar yr hob. Troi nes bod y siwgr yn gymysg a dal i droi nes bod y gymysgedd yn berwi. Bydd yn ymddangos yn eithaf tenau ond bydd yn tewhau wrth iddo oeri. Ar ôl i'r gymysgedd ferwi, bydd angen ei dynnu o'r gwres ac ychwanegu gin (watch out - mae'r gin fumes yn gryf!), yna gadael y surop i oeri.
  10. Ar ôl 30 munud, tynnu'r cacen o'r popty a rhoi sgiwer trwy ei ganol. Os nad yw'n dod allan yn lân, dychwelyd i'r popty am 5-10 munud. Unwaith y daw'r sgiwer allan yn lân, mae'n barod i'w dynnu allan o'r popty.
  11. Defnyddio fforc i wneud tyllau ym mhen uchaf y gacen ac yna arllwys y surop yn araf ac yn ofalus. Dylai hyn diferu i lawr y gacen.
  12. Gadael i orffwys am 10 munud yna troi'r gacen allan. Efallai y bydd angen rhedeg cyllell balet o amgylch yr ymyl i'w rhyddhau. Tynnu'r papur gwrthsaim a'i adael ar rac oeri nes ei fod yn hollol oer. Os ydych chi'n ddiamynedd fel fi, mae'n bosib ei roi yn yr oergell
  13. I wneud y buttercream: rhoi menyn mewn powlen peiriant gymysgu neu bowlen fetel / gwydr. Chwipio menyn gydag chwisg y peiriant / cymysgydd llaw nes ei fod yn ysgafn, fflwfflyd a bron yn wyn. Hidlo'r siwgr eisin mewn i'r menyn, rhoi 'paddle attachment' ar y peiriant, a chymysgu nes ei fod wedi'i gyfuno. Bydd y menyn yn drwchus ac yn gadarn
  14. Ychwanegu 1-2 lwy fwrdd o lefrith i lacio'r gymysgedd ynghyd â 1 llwy fwrdd o sudd leim. Dylai menyn fod yn ysgafn, yn llyfn ond yn gyda chysondeb 'spreadable' sy'n gorchuddio cefn llwy. Os yw'n rhy gadarn, ychwanegu lwy de arall o laeth. Os yw wedi mynd yn flêr yna ychwanegu 20-30g siwgr eisin wedi'i hidlo a pharhau nes i chi gael y 'texture' iawn.
  15. Rhoi lwy bwdin o buttercream mewn powlen ac ychwanegu lliwiad bwyd gwyrdd. Dyma fydd y gwair o amgylch y felin wynt!
  16. Gwneud drysau a ffenestri y felin: Rholio fondant nes ei fod yn 0.5cm o drwch. Torri allan tri 1cm sgwâr ac un petryal 2 x 1 cm.
  17. Unwaith y bydd y gacen yn cŵl, torri hi yn ei hanner gyda chyllell ddanheddog a lefelu pen mwyaf llydan y gacen. Gan ddefnyddio cyllell balet, rhoi ychydig o buttercream yng nghanol eich bwrdd cacen a gosod pen llydan y gacen ar y bwrdd. Pibellu haen o buttercream ar ben y gacen ac yna gosod eich ail hanner ar ei ben.
  18. Gan ddefnyddio'ch cyllell balet, gorchuddio'r gacen nes bod yr wyneb yn wastad. Gan ddefnyddio'r 'scraper', llyfnu'r buttercream a lefelu'r top. Dyma fydd y gôt sydd yn cloi mewn yr holl friwsion. Rhoi yn yr oergell am 20 munud neu rewgell am 10 munud nes bod y buttercream yn gadarn.
  19. Unwaith y bydd yn gadarn, gorchuddio'r gacen mewn haen arall o buttercream a'i llyfnhau gyda'r scraper. Llyfnu pen y gacen gyda chyllell balet. Os ydych chi'n teimlo bod angen mwy o buttercream, rhoi yn ôl i'r oergell / rhewgell yna ychwanegu haen arall
  20. Addurno! Gosod y petryal fondant ar waelod y gacen (sef y 'drws'), yna'r tri sgwâr yn gyfartal ar wahân ar yr ochr arall (sef y 'ffenestri'). Bydd angen gadael 2cm ar y top i'r 'hwyliau'!
  21. Os ydych chi'n defnyddio'r mowld sffêr i greu top eich cacen, toddi siocled tywyll a'i arllwys i'r mowld, yna'i lefelu gyda chyllell balet a'i roi yn yr oergell. Os nad ydych yn gwneud hyn, gadael top y felin wynt yn llyfn.
  22. I wneud yr hwyliau, tynnu arwydd 'plws' 10cm wrth 10cm a thorri hwn allan. Defnyddio sgiwer neu gyllell (yn ofalus) i wneud twll yng nghanol y hwyliau. Defnyddio'r sgiwer i wneud twll oddeutu 1cm i lawr o ben y gacen. Gan ddefnyddio'ch bisged chopstick / Mikado 20cm, rhedeg hwn trwy'r hwyliau nes bod y hwyliau 1cm o ddiwedd y fisged. Rhedeg hwn trwy'r twll ar ben y gacen.
  23. Os ydych chi'n defnyddio'ch siocled, unwaith y bydd wedi caledu, tynnu o'r mowld a'i roi ar ben y gacen gydag ychydig o buttercream i'w sicrhau.
  24. Yn olaf, llenwi bag peipio gyda buttercream gwyrdd a defnyddio'r 'grass nozzle' i bepio gwair o amgylch gwaelod y felin wynt. Dyna ni, mae'r hwyliau'n barod i droi ac mae'r felin yn barod i'w fwyta! Mwynhewch!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?