S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Olwyn Wagon

Cynhwysion

Shortbread

  • 100g menyn
  • 50g siwgr
  • 150g blawd
  • Siocled tywyll

Llenwad mefus

  • 200g mefus

Malws Lemon

  • 6 dail gelatine
  • 75g gwyn wy
  • 100ml sudd lemon
  • 250g siwgr caster
  • 40g hylif glwcos

Dull

Shortbread

  1. Cynheswch y popty i wres o 170 gradd selsiws.
  2. Cymysgwch y menyn a'r siwgr gyda'u gilydd ar gyflymder isel mewn cymysgwr.
  3. Hidlwch y blawd yn raddol i'r gymysgedd. Yna, defnyddiwch wres eich dwylo i ddod a'r gymysgedd gyda'i gilydd.
  4. Rholiwch y toes rhwng ddau damaid o bapur gwrth-saim, priciwch gyda fforc a'i bobi am 10 munud.
  5. Unwaith i'r shortbread bobi, torrwch yn gylchoedd tra'n gynnes a'u gadel i oeri ar rac weiren.
  6. Unwaith i'r shortbread oeri, brwsiwch un ochr gyda Siocled tywyll.

Gorchuddio'r mowld mewn Siocled

  1. Cynheswch Siocled Tywyll
  2. Arllwyswch yn y mowld gan ei orchuddio yn gyfan gwbl cyn arllwys unrhyw weddillion allan.
  3. Gadewch i setio.

Llenwad Mefus

  1. Golchwch a thynnwch y coesau oddi ar y mefus.
  2. Torrwch hanner y mefus yn fras a blendiwch yr hanner arall.
  3. Cyfunwch y ddau.

Malws melys Lemon

  1. Rhowch ddail gelatin mewn powlen o ddŵr gyda rhew ynddo. Unwaith iddyn nhw agor allan, gwasgwch y dŵr sy'n weddill ohonyn nhw.
  2. Rhowch y gwyn wy mewn cymysgwr. Mewn sosban, ychwanegwch y sudd lemon, siwgr caster a'r hylif glwcos a dewch a nhw i'r berw. Parhewch i'w berwi nes bod y gymysgedd wedi cyrraedd 116 gradd selsiws ar y thermometr.
  3. Chwipiwch y gwyn wy ar gyflymder uchel gan arllwys y surop yn araf lawr ochr y bowlen.
  4. Unwaith i chi ychwanegu'r surop i gyd, stopiwch y cymysgwr tra'n ychwanegu'r gelatin. Trowch y cymysgwr yn ôl ar gyflymder isel nes bod y gelatin wedi hydoddi yn gyfan gwbl. Trowch y cymysgwr ar gyflymder uchel.
  5. Chwipiwch nes bod y malws melys yn stiff. Yna, rhowch y gymysgedd mewn bag peipio.

Gosod

  1. Rhowch ddisg o'r fisged wedi ei orchuddio gyda Siocled yn y mowld.
  2. Peipiwch y malws melys lemon o amgylch y tu mewn gan adael twll yn y canol.
  3. Rhowch lwyaid o'r llenwad mefus yn y canol.
  4. Rhowch fisged arall ar y top.
  5. Gadewch yn yr oergell am ychydig o oriau.

Gorffen

  1. Tynnwch yr olwyn o'r mowld.
  2. Rhowch ddisg acetate ar ddarn yr alloy.
  3. Chwistrellwch y teier gyda menyn cocoa du ar gyfer gwead.
  4. Tynnwch yr acetate a brwsiwch yr alloy gyda powdwr arian.
  5. Rhowch yr olwyn ar ben y bonet.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?