2 llwy fwrdd o laeth e.e ceirch (heb gynnyrch llaeth)
1/4 llwy de o halen môr
125g cnau cyll
125g o geirch
2 llwy fwrdd o bowdwr cocoa
50g siwgr caster
75g menyn fegan
220g siocled
Dull
Irwch dun cacen tua 20cm mewn diamedr a rhoi papur gwrthsaim ar ei waelod.
Mesurwch 125g o gnau cyll, 125g o geirch a'u cymysgu mewn prosesydd bwyd.
Ychwanegwch 50g o siwgr caster, 2 llwy fwrdd o bowdwr cocoa, 1/4 llwy de o halen a'u cymysgu unwaith eto.
Ychwanegwch 75g o fenyn figan a'i gymysgu nes bod popeth yn dod at eu gilydd. Os ydi'r gymysgedd wedi dod at ei gilydd yn iawn, arllwyswch i mewn i'ch tun pobi.
Gwnewch yn siŵr fod y gymysgedd wedi ei lefelu a'i wasgu i waelod y tun yna rhowch yn yr oergell.
Rhowch 220g o siocled mewn powlen dros ddŵr sy'n mudferwi. Trowch bob hyn a hyn nes ei fod wedi toddi yn gyfan gwbl.
Rhowch 1 baced o tofu mewn bag cnau a'i orchuddio mewn tywel golchi llestri neu mwslin. Gwasgwch y tofu i gael gwared â'r hylif. Yna, ychwanegwch i'r prosesydd bwyd gyda 300g o gaws hufennog figan.
Cymysgwch nes ei fod yn esmwyth cyn ychwanegu 5 llwy fwrdd o surop, 1/4 llwy de o halen a 2 llwy fwrdd o laeth a'i gymysgu eto. Ychwanegwch y figs a chymysgu.
Unwaith i'r siocled oeri am ychydig funudau, arllwyswch yn araf tra bod y prosesydd bwyd ymlaen. Mi ddylai'r gymysgedd fod yn drwchus erbyn rŵan.
Arllwyswch y gymysgedd yma dros y darn gwaelod a'i adael yn yr oergell am o leiaf 3 awr.
Gadewch yn yr oergell a'i fwyta o fewn 3 diwrnod.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?