S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Richard Holt: Yr Academi Felys

Y Gacen Coeden Nadolig

Cynhwysion

Cacen Nadolig Ysgafn

  • 60g Menyn
  • 50g Siwgr Brown
  • 1 ŵy
  • 40g Pecan
  • 25g Cnau Cyll
  • 125g Ffrwythau Sych
  • 25g Darn o Daffi
  • 55g Blawd Plaen
  • 2 llwy fwrdd o Driog Du
  • Pinisiad o Halen
  • Alcohol o'ch dewis

Gwin Cynnes Nadoligaidd

  • 200ml Gwin Coch
  • Croen Lemwn
  • Croen Oren
  • Sudd hanner oren
  • Hanner Star Anise
  • 2 Deilen Bay
  • Pinsiad o Sinsir
  • Pinsiad o Mixed Spice
  • Pinsiad o Sinamwn

Ffrwythau Nadoligaidd

  • 250g Ffrwythau wedi'i rhewi
  • 60g Siwgr Jam
  • Sudd hanner Lemwn
  • 4 talen gelatin

Panacotta

  • 75ml llefrith (top glas)
  • 200ml hufen dwbl
  • 30g siwgr mán
  • 5g Fanila
  • 11/2 talen gelatin

Cacen Gaws

  • 200g Siocled Gwyn
  • 270g Caws Meddal
  • 150ml Hufen Dwbl
  • 4llwy fwrdd o Wirod Oren

Praline Cnau

  • 100g cnau cyll
  • 110g Siwgr mán

Côn Coeden Nadolig

  • Siocled Gwyn o ansawdd

Dull

Ar gyfer y gacen Nadolig ysgafn -

  1. Cymysgwch y menyn a'r siwgr brown.
  2. Ychwanegwch yr ŵy.
  3. Yna'r ffrwythau sych, cnau a'r darnau taffi.
  4. Ychwanegwch y triog du.
  5. Yn araf cymysgwch y blawd a'r halen.
  6. Tolltwch joch o'r alcohol a'i gymysgu'n dda.
  7. Rhowch y cymysgedd mewn tin wedi ei iro.
  8. Coginiwch y gacen am tua awr ar 160 gradd (nes bod y gyllell yn dod allan yn sych)
  9. Unwaith iddo ddod allan ac oeri ychydig rhowch ychydig mwy o'r alcohol arno.

Ar gyfer y gwin cynnes -

  1. Rhoi'r holl gynhwysion i ferwi mewn sosban.

Ar gyfer y ffrwythau Nadoligaidd -

  1. Rhowch y ffrwythau, siwgr a sudd lemwn mewn sosban a'i godi i ferwi nes ei fod yn cyrraedd 105 gradd, yna ychwanegwch y gelatin a'i gymysgu'n dda.
  2. Adiwch y gwin Nadoligaidd at y gymysgedd a'i gymysgu'n dda.

Ar gyfer y panacotta -

  1. Rhowch y llefrith, hufen dwbl a'r siwgr mân mewn sosban a'i godi i ferwi, unwaith welwch chi'r swigod cyntaf yn codi trowch y gwres i ffwrdd yna ychwanegwch y gelatin a'i gymysgu'n dda yna ychwanegwch y fanila.

Ar gyfer y cacen gaws -

  1. Meddalwch y siocled gwyn yn araf.
  2. Tra bod y siocled gwyn yn meddalu, cymysgwch yr hufen nes ei fod wedi twchu.
  3. Ychwanegwch y siocled (wedi'i doddi) yn araf at y gymysgedd ac yna'r caws meddal un llwy ar y tro. Yn olaf cymysgwch y wirod oren.

Ar gyfer y praline cnau -

  1. Rhowch y siwgr mewn sosban dda gyda gwaelod cadarn, a'i feddalu ar wres canolig. Unwaith mae'r siwgr wedi meddalu trwoch y gwres i ffwrdd ac ychwanegwch y cnau a'i adael ar bapur iro i oeri.
  2. Unwaith mae'r gymysgedd wedi oeri rhowch y gymysgedd mewn peiriant i dorri'r holl beth yn fân.

Ar gyfer y côn coeden Nadolig -

  1. Meddalwch y siocled Gwyn yn araf nes ei fod wedi cyrraedd 48 gradd, yna ei dynnu oddi ar y gwres a'i oeri'n gyflym (drwy ychwanegu fwy o siocled gwyn) nes ei fod yn cyrraedd 27 gradd ac yna ei godi'n ôl i 32 gradd. Mae hyn yn sicrhau bod eich siocled yn berffaith ar gyfer creu'r siâp.
  2. Bydd angen siâp hanner sffêr arnoch hefyd.
  3. Gorchuddiwch ochrau'r hanner sffêr gyda'r siocled gwyn.
  4. Unwaith mae'r rhain wedi caledu ychwanegwch y gwin Nadoligaidd a'i orchuddio gyda mwy o siocled gwyn er mwyn cau'r holl gymysgedd gyda'i gilydd.
  5. Gwnewch 3 côn gwahanol feintiau gyda phapur wedi'i iro a chardfwrdd - gwnewch yn siŵr bod top y côn yr un maint a'r hanner sffêr.
  6. Tolltwch y siocled gwyn yn eich conau a'i orchuddio i greu'r siâp delfrydol.

I'w osod -

  1. Rwan gan fod popeth yn barod mae hi'n amser creu'r goeden ei hun - POB LWC!!
  2. Unwaith mae'r siocled gwyn wedi oeri a chaledu rhowch y Panacotta, yn ail y praline cnau. Yna rhowch y gymysgedd cacen gaws.
  3. Yn ofalus tynnwch yr hanner sffêr allan o'r mold ac yna ei roi yn y côn - bydd hyn yn cau'r côn i gyd. Os oes gap - llenwch hwn gyda mwy o siocled gwyn.
  4. Torrwch y gacen Nadolig i siâp boncyff i roi o dan y goeden a'i orchuddio gyda siocled tywyll.

Addurnwch y coed fel y mynnwch -

  1. Lliwiwch y siocled gwyn yn wyrdd.
  2. Peipiwch addurn arno.
  3. Gorchuddiwch y cyfan gyda llwch lliwgar (glitter).
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?